Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y PANEL pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

1.1 benodi'r Cynghorydd Alun Lloyd-Jones yn Gadeirydd y Panel am y flwyddyn galendr sydd i ddod;

1.2 penodi'r Athro Ian Roffe yn Is-gadeirydd y Panel am y flwyddyn galendr sydd i ddod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Edwards (Cyngor Sir Ceredigion) a R. Summons (Cyngor Sir Penfro).

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aelod o'r Pwyllgor

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H. Thomas – Aelod Cyfetholedig

12 - Penodi Prif Gwnstabl

Roedd ei mab yn gadeirydd y panel cyfweld allanol.

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19EG CHWEFROR, 2021 pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2021 gan eu bod yn gywir.

 

5.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion yn y cyfarfod.

 

6.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS

“Pa gamau y mae'r Comisiynydd yn eu cymryd, yn ei drafodaethau â'r Prif Gwnstabl Dros Dro, ynghylch lles a llesiant Swyddogion sydd wedi bod yn ymwneud yn benodol â Phlismona rheng flaen yn ystod Pandemig Covid-19.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Pa gamau y mae'r Comisiynydd yn eu cymryd yn ei drafodaethau â'r Prif Gwnstabl Dros Dro ynghylch lles a llesiant Swyddogion sydd wedi bod yn ymwneud yn benodol â Phlismona rheng flaen yn ystod Pandemig Covid-19?”

 

Ymateb y Comisiynydd:

Dywedodd y Comisiynydd fod effaith Covid wedi bod yn heriol i bob gwasanaeth a mynegodd ei ddiolch i Awdurdodau Lleol a'r Bwrdd Iechyd am gadw'r gymuned yn ddiogel. Dywedwyd pa mor bwysig ydoedd i gefnogi staff a bod llesiant staff yn hollbwysig i'r heddlu.

 

Dywedwyd bod y galw ar yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans yn fwy nag erioed ym mis Awst 2020 a bod hynny wedi digwydd eto ym mis Mai, Mehefin a Gorffennaf eleni. Cydnabuwyd bod hyn yn rhoi staff o dan bwysau gyda chynnydd mewn oriau gwaith, ond roedd lles staff yn flaenoriaeth i'r tîm arwain a nodwyd bod mentrau fel Mercher Llesiant wedi'u cyflwyno a bod cynlluniau tymor canolig a thymor hwy ar waith i ymdrin â hyn. Byddai staff hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio gwyliau blynyddol o fis Medi ymlaen pan ragwelir gostyngiad yn y galw.

 

6.2

CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE

“Mae pandemig Covid wedi effeithio ar bob agwedd ar fywyd, gwaith a phlismona yn Nyfed Powys, pa agweddau ar ymateb y Comisiynydd i Covid sydd fwyaf arwyddocaol yn ei farn ef y byddai am dynnu sylw atynt a pha gynlluniau sydd gan y Comisiynydd o ran ymdrin â Covid yn y tymor byr a’r tymor canolig?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Mae pandemig Covid wedi effeithio ar bob agwedd ar fywyd, gwaith a phlismona yn Nyfed Powys, pa agweddau ar ymateb y Comisiynydd i Covid sydd fwyaf arwyddocaol yn ei farn ef y byddai am dynnu sylw atynt a pha gynlluniau sydd gan y Comisiynydd o ran ymdrin â Covid yn y tymor byr a’r tymor canolig?”

 

 

Ymateb y Comisiynydd:

Dywedodd y Comisiynydd fod adferiad yn dilyn covid yn gyfle i gyrraedd targedau cynaliadwyedd o ganlyniad i'r gostyngiad mewn teithio a'r defnydd o dechnoleg. Dywedwyd ei bod yn bwysig croesawu'r ffordd newydd o weithio drwy ddefnyddio technoleg. Dywedwyd wrth y Panel fod canolfannau amlasiantaethol ar waith a thynnodd sylw at bwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng gweithio o bell a staff yn dychwelyd i'r pencadlys.

 

O ran ffyrdd hyblyg o weithio, dywedodd y Comisiynydd y byddai hyn yn hybu llesiant staff pe bai'n cael ei wneud yn gywir. Cydnabuwyd bod rhywfaint o flinder 'rhithwir' a bod sicrhau cydbwysedd rhwng ffyrdd rhithwir a ffisegol o weithio yn allweddol.

 

Dywedwyd bod cyllid ychwanegol tymor byr wedi'i ddarparu ond bod angen cyllid a chynlluniau tymor hwy. Byddai cyllid yn gonglfaen i ddarparu gwasanaethau a nodwyd bod yr heddlu'n ceisio cyfnod cynaliadwyedd o 3 blynedd.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2020/21 drafft y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Wrth gyflwyno ei adroddiad drafft, dywedodd y Comisiynydd fod Covid a gohirio Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu 2020 wedi newid y rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol yn sylweddol.

 

Tynnodd y Comisiynydd sylw at y gwaith a wnaed mewn perthynas â chanolfan llety lloches Penalun a sut y cafodd y ganolfan ei chau yn dilyn lobïo llwyddiannus gan y Swyddfa Gartref.  Mynegodd aelodau'r Panel fod amodau byw'r ganolfan wedi eu harswydo.

 

Yn gyffredinol, roedd y Panel yn croesawu'r adroddiad a chodwyd y materion canlynol:

 

·         Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd fod Rheoli Troseddwyr yn Integredig yn anelu at gefnogi'r troseddwyr mwy cyffredin rhag troseddu eto.  Roedd y Cynllun Dargyfeirio Troseddwyr ar gyfer troseddwyr tro cyntaf mewn ymgais i'w cadw allan o'r system cyfiawnder troseddol.

·         Gofynnwyd a oedd cynlluniau i gynyddu cyllid ar gyfer y Gronfa Strydoedd Diogelach. Dywedodd y Comisiynydd mai hwn oedd y 3ydd cais am y gronfa tymor byr ac mai Llanelli oedd yr unig ardal yn yr heddlu a oedd yn bodloni'r meini prawf. Rhagwelid y byddai'r Swyddfa Gartref yn parhau i gyllido'r cynllun.

·         Cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw beth penodol ynghylch troseddau hiliol a chaethwasiaeth fodern.  Dywedodd y Comisiynydd fod y rhain yn faterion gweithredol ac felly na chyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad blynyddol. Dywedodd hefyd fod rôl y Comisiynydd yn canolbwyntio'n bennaf ar droseddau casineb ond rhoddodd sicrwydd bod yr heddlu'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ynghylch caethwasiaeth fodern a bod troseddau hiliol yn flaenoriaeth allweddol i'r heddlu.

·         Mewn ymateb i gais am ddiweddariad ynghylch cyfiawnder adferol, dywedodd y Comisiynydd fod yr heddlu wedi ymrwymo i gyfiawnder adferol ac y bu cynnydd mewn atgyfeiriadau.

·         Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r gweithgor cynaliadwyedd, dywedodd y Comisiynydd fod y proffil gwariant wedi'i ohirio oherwydd covid ac amodau'r farchnad. Yn ogystal, cynghorwyd y panel fod y deunyddiau sydd ar gael yn broblem.

·         Gofynnwyd a oedd darpariaeth ddigonol ar gael gan SARC i ddioddefwr cam-drin rhywiol. Dywedodd y Comisiynydd fod digon o gyfleusterau ar gael yn yr ardal, ond roedd hyn yn mynd i newid o ganlyniad i newid i system o ganoli gan y Bwrdd Iechyd. Bydd canolfan ym Mronglais a Bae Abertawe ond nid oedd yr amserlen ar gyfer canoli wedi'i diffinio eto. Mynegwyd pryder ynghylch canoli a'r effaith y byddai teithio yn ei chael ar ddioddefwyr.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Comisiynydd estyn diolch a gwerthfawrogiad y Panel i'w holl staff a staff yr heddlu am y gwaith yr oeddent wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad blynyddol drafft.

 

8.

COFNODI TROSEDDAU Y RHODDWYD GWYBOD AMDANYNT pdf eicon PDF 284 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel adroddiad yn manylu ar ymateb y Comisiynydd i'r hysbysiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) y bydd yn cyhoeddi Achos Pryder mewn perthynas ag Uniondeb Data Troseddu (CDI) ar 7 Mai 2021.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed i liniaru'r materion a nodwyd.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd fod yr heddlu'n defnyddio system rheoli cofnodion fewnol ond ei fod wedi symud i system rheoli cofnodion o'r enw Niche a oedd eisoes yn cael ei defnyddio gan heddluoedd eraill. Cydnabuwyd na fyddai system rheoli cofnodion yn datrys yr holl broblemau a nodwyd a'i bod yn bwysig bod gan y staff, ar y pwynt cyswllt cyntaf, y sgiliau priodol i raddio'r galwadau'n gywir.

 

Gofynnwyd a roddwyd ystyriaeth i ddefnyddio dull tebyg i Swydd Lincoln o ran ymgynghoriadau cyhoeddus a thrydydd sector.  Dywedodd y Comisiynydd yr ymgynghorwyd â phartneriaid, fodd bynnag, nid i gyd ar yr un pryd.  Dywedodd y byddai diweddariad yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

9.

IECHYD MEDDWL A PHLISMONA pdf eicon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2020-2021, penderfynodd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys gynnal ymchwiliad i sut yr aeth Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i'r afael â mater Iechyd Meddwl a Phlismona. Sefydlodd y panel is-gr?p i gynnal yr ymchwiliad hwn.

 

Ystyriodd y Panel yr adroddiad yn manylu ar ganlyniad yr ymchwiliad. Dywedwyd wrth y Panel fod yr is-gr?p wedi'i argyhoeddi bod sylw dyledus wedi'i roi i Iechyd Meddwl a Phlismona yng Nghynllun yr Heddlu a Throseddu.

 

Dywedwyd wrth y Panel fod lle i wella o hyd ond roedd o'r farn bod Heddlu Dyfed-Powys cystal â heddluoedd eraill ac y byddai cynnal gwaith partneriaeth yn helpu hyn.

 

Dywedodd y Comisiynydd ei fod yn derbyn argymhellion yr adroddiad yn llwyr a phwysleisiodd fod y mater yn flaenoriaeth. 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

[SYLWER: Cafodd y Pwyllgor egwyl am 12.50pm, cyn ailgynnull am 2.00pm.]

 

10.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd yn ystod y cyfnod rhwng 9 Chwefror 2021 a 22 Gorffennaf 2021.

 

Mewn ymateb i gais i'r panel weld fideo'r Llysgennad Ieuenctid ar Brofiadau Pobl Ifanc o'r Heddlu, dywedodd y Comisiynydd y gellid gwneud trefniadau i'r Panel weld y fideo yn yr Hydref pan oedd cyfyngiadau covid wedi'u llacio.

 

Mewn ymateb i gais am ddiweddariad ynghylch prynu tir yn Nafen, dywedodd y Comisiynydd fod y prosiect ar hyn o bryd yng ngham 5 RIBA ac yn agos at benderfynu ar y pris terfynol a'r contract masnachol ar gyfer cyflawni.  Byddai amserlen fanylach ar gael ar gyfer cyfarfod nesaf y Panel.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

11.

PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD pdf eicon PDF 377 KB

YN DILYN EITEM RHIF 11 AR YR AGENDA (OND NID YN HWYRACH NA 12.30 P.M.) BYDD Y CYFARFOD YN CAEL EI OHIRIO TAN 2.00 P.M.

 

BYDD Y CYFARFOD YN AILYMGYNNULL AM 2.00 P.M. ER MWYN YSTYRIED GWEDDILL Y FUSNES AR YR AGENDA.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Panel yr adroddiad perfformiad mewn perthynas â'r Protocol Plismona.

 

Gan fod yr adroddiad yn ddyddiedig Chwarter 4 2020/21, cytunwyd y byddai adroddiad mwy cyfredol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

12.

PENODI PRIF GWNSTABL pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd H. Thomas wedi datgan buddiant ar ddechrau'r eitem hon].

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Richard Lewis, sef yr ymgeisydd oedd yn cael ei ffafrio gan y Comisiynydd ar gyfer swydd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys.

 

Wedi hynny, derbyniodd y Panel adroddiad mewn perthynas â phenodi'r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys.

 

Yna bu'r Panel yn cyfweld â Mr Richard Lewis gan ofyn cyfres o gwestiynau ynghylch ei fedrusrwydd proffesiynol er mwyn cloriannu ei addasrwydd i gyflawni'r rôl, yn dilyn hyn cytunwyd i nodi penodiad Mr Lewis i rôl Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys

 

Ar ran y Panel, diolchodd y Cadeirydd hefyd i Claire Parmenter, y Prif Gwnstabl Dros Dro, am ei gwaith ar gyfer heddlu Dyfed-Powys.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi penodiad Mr Richard Lewis fel Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys a'i groesawu i'r rôl.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau