Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Gwener, 5ed Chwefror, 2021 10.30 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Jim Jones (Cyngor Sir Caerfyrddin).

 

Mynegodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau am wellhad buan i'r Cynghorydd Jones.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4 TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD lofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2020 gan eu bod yn gywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion yn y cyfarfod.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS

“Pa gamau y mae'r Comisiynydd wedi'u cymryd yn sgil y galw am blismona ychwanegol yn y gwersyll ceiswyr lloches ym Mhenalun, Sir Benfro, gan ddeall a gwerthfawrogi'n llwyr i hyn ddigwydd oherwydd amgylchiadau a oedd y tu hwnt i'ch rheolaeth chi neu'r Heddlu, ac a ydych, drwy eich sgyrsiau â'r Prif Gwnstabl, yn gallu rhoi sicrwydd nad yw'r plismona yng ngweddill ardal yr Heddlu wedi'i leihau o ganlyniad?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Pa gamau y mae'r Comisiynydd wedi'u cymryd yn sgil y galw am blismona ychwanegol yn y gwersyll ceiswyr lloches ym Mhenalun, Sir Benfro, gan ddeall a gwerthfawrogi'n llwyr i hyn ddigwydd oherwydd amgylchiadau a oedd y tu hwnt i'ch rheolaeth chi neu'r Heddlu, ac a ydych, drwy eich sgyrsiau â'r Prif Gwnstabl, yn gallu rhoi sicrwydd nad yw'r plismona yng ngweddill ardal yr Heddlu wedi'i leihau o ganlyniad?”

 

Ymateb y Comisiynydd:

Dywedodd y Comisiynydd fod adnoddau plismona'n cael eu symud yn ddyddiol mewn ymateb i'r galw a bod yr Heddlu wedi bod yn weithgar iawn ar draws ardal yr heddlu er gwaethaf y pwysau ychwanegol ym Mhenalun. Cafodd y galw ychwanegol ei fodloni drwy gyfuniad o oramser swyddogion ac adnoddau gan luoedd eraill. Roedd y pwysau ar blismona wedi lleihau'n gyffredinol yn ystod y misoedd diwethaf, yn rhannol oherwydd y tywydd ac effeithiau’r cyfyngiadau symud mewn ymateb i'r pandemig. Byddai'r Comisiynydd yn parhau i fonitro'r sefyllfa ym Mhenalun drwy ohebiaeth ddyddiol â'r Prif Gwnstabl a Chomander Rhanbarthol Sir Benfro. Roedd hefyd yn ymwneud â gwaith lobïo ynghylch adolygiad o'r amodau yn y gwersyll.

 

5.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS

Adroddwyd yn ddiweddar yn y cyfryngau eich bod wedi sicrhau bod tua £200,000 ar gael i grwpiau Cymunedol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Gyda'r pwysau ar gyllid cyhoeddus ar hyn o bryd, a ydych yn fodlon bod hyn yn ffordd dda o wario arian cyhoeddus?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Adroddwyd yn ddiweddar yn y cyfryngau eich bod wedi sicrhau bod tua £200,000 ar gael i grwpiau cymunedol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Gyda'r pwysau ar gyllid cyhoeddus ar hyn o bryd, a ydych yn fodlon bod hyn yn ffordd dda o wario arian cyhoeddus?”

 

Ymateb y Comisiynydd:

Dywedodd y Comisiynydd fod y gwariant yn gysylltiedig â digwyddiadau cyllidebu cyfranogol, a gynhaliwyd ar draws ardal heddlu Dyfed-Powys drwy’r Timau Plismona Bro. Roedd wedi ymrwymo £10k i bob ardal plismona bro, buddsoddiad sy'n gyfanswm o £140k ar draws ardal yr heddlu. Roedd sawl Tîm Plismona Bro wedi llwyddo i sicrhau arian ychwanegol gan bartneriaid a sefydliadau lleol, a oedd wedi arwain at gyfanswm o £213k y gallai grwpiau cymunedol lleol wneud cais amdano. Roedd 111 o brosiectau cymunedol wedi cael eu hariannu a byddai llwyddiant y gwaith a wnaed yn y prosiectau yn cael ei asesu i lywio ystyriaethau ariannu yn y dyfodol.

 

6.

PRAESEPT YR HEDDLU pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad y Comisiynydd ar braesept arfaethedig yr heddlu am 2021/22. Dywedwyd wrth y Panel y gallai wneud y penderfyniad naill ai i gymeradwyo, gwrthod, neu roi feto i'r praesept arfaethedig yn y cyfarfod, ac ar ôl hynny byddai'n rhaid iddo roi gwybod i'r Comisiynydd am ei benderfyniad. Gallai'r penderfyniad i gymeradwyo neu wrthod gael ei wneud gan fwyafrif syml ond roedd yn rhaid i bleidlais feto gael ei gwneud gan fwyafrif o ddwy ran o dair o aelodaeth y Panel cyfan. Dywedwyd pe bai'r Panel yn dewis rhoi feto ni fyddai'r Comisiynydd yn gallu cyflwyno'r praesept arfaethedig a byddai'n rhaid iddo gyhoeddi ymateb i adroddiad y Panel, gan nodi praesept arfaethedig arall i'w ystyried erbyn 19 Chwefror 2021. Ni fyddai'r Panel yn gallu rhoi feto i'r praesept arfaethedig diwygiedig, dim ond penderfynu ei gymeradwyo neu ei wrthod.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Keith Evans (Arweinydd y Panel o ran Cyllid) gyflwyniad ynghylch sut yr oedd Is-banel Cyllid y Panel wedi craffu ar y cynnig ynghylch y praesept ar gyfer 2021/22 gan gynnwys y Cynllun Ariannol yn y Tymor Canolig ar gyfer 2021/22 - 2025/26, y Strategaeth Cronfeydd wrth Gefn a'r Strategaeth Gyfalaf.

 

Dywedodd mai £59.529m oedd setliad grant 2021/22 ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys. Roedd hyn yn cynnwys grant i dalu costau ychwanegol yn rhannol o ran y newidiadau i gyfraniadau pensiwn cyflogwyr yn ogystal â chyllid wedi'i neilltuo ar gyfer recriwtio swyddogion ychwanegol. Dywedwyd wrth y Panel, heb gynnydd yn y grant cyfalaf roedd pwysau'n parhau ar y cronfeydd wrth gefn sy'n lleihau i ariannu buddsoddiadau critigol o ran seilwaith ystadau, TG a fflydoedd, gyda gostyngiad a ragwelir yn y cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy i £4.960m erbyn 2025/26.

 

Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod yn cymeradwyo'r adroddiad, a oedd yn cynnig cynyddu'r praesept £1.25 bob mis ar eiddo Band D sy'n cyfateb i gynnydd o 5.76% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Diolchodd i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl am drefnu seminar cyllid a oedd yn cefnogi craffu ar yr adroddiad.

 

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Evans a'r Comisiynydd am eu hadroddiadau manwl, llawn gwybodaeth.

 

Cafwyd ymholiad ynghylch a fyddai'n bosibl, yn sgil effaith economaidd y pandemig, ohirio buddsoddiadau i unrhyw rai o'r prosiectau cyfalaf er mwyn lleddfu pwysau'r Dreth Gyngor ar drigolion lleol. Dywedodd y Comisiynydd y byddai unrhyw oedi i'r rhaglen gyfalaf yn debygol o gynyddu costau plismona gweithredol yn y tymor hir.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch buddsoddiadau gwario i arbed o ran mentrau ynni a chynaliadwyedd, dywedwyd wrth y Panel bod cais am grant a gyflwynwyd i Gynllun Datgarboneiddio'r Sector Cyhoeddus wedi llwyddo i basio'r cam cyntaf.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnig y Comisiynydd i gynyddu praesept Heddlu Dyfed-Powys 5.76% ar gyfer 2021/22.

 

 

 

7.

COST PLISMONA GWERSYLL CEISWYR LLOCHES YM MHENALUN pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel adroddiad ar gostau plismona'r gwersyll ceiswyr lloches ym Mhenalun, ynghyd â dau lythyr drafft at yr Ysgrifennydd Cartref, y Gweinidog Plismona a'r holl Aelodau Seneddol yn ardal yr heddlu, ac un ohonynt oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 

Dywedwyd wrth y Panel bod costau plismona'r gwersyll yn gosod baich ariannol sylweddol ar Heddlu Dyfed-Powys, ac ar hyn o bryd nid oedd disgwyl i'r costau gael eu had-dalu'n llawn. O dan reolau'r Swyddfa Gartref sy'n ymwneud â chyllid yr heddlu, gallai cyllid grant penodol gael ei ddarparu mewn perthynas â'r treuliau hyn, ond dim ond pan fyddai cyfanswm y gost yn fwy nag 1% o'r gwariant refeniw net am y flwyddyn. Roedd hyn yn awgrymu na fyddai'n bosibl i sicrhau unrhyw gyllid ychwanegol hyd nes y byddai'r gost y tu hwnt i'r trothwy o £1.129m. Fodd bynnag, roedd gan Weinidogion y Llywodraeth y p?er i ganiatáu adennill costau islaw'r trothwy o 1%.

 

Roedd y llythyrau drafft at yr Ysgrifennydd Cartref, y Gweinidog Plismona a'r Aelodau Seneddol lleol yn galw ar y Swyddfa Gartref i ad-dalu Heddlu Dyfed-Powys yn llawn am yr holl gostau o ran plismona gwersyll Penalun, hyd yn oed os yw'r costau yn is na'r trothwy grant arferol o 1%.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y Panel bod y trothwy gwariant ym mharagraff olaf y llythyr yn nodi £1.29m a oedd yn anghywir, dylid nodi yn hytrach £1.129m. Byddai hyn yn cael ei gywiro cyn i'r llythyrau gael eu hanfon.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo anfon y llythyrau at yr Ysgrifennydd Cartref, y Gweinidog Plismona ac Aelodau Seneddol lleol.