Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 67791020# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd John Prosser (Cyngor Sir Caerfyrddin) a'r Cynghorydd Stephen Joseph (Cyngor Sir Penfro).

 

Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod enwebiad y Cynghorydd Jim Jones ’(Cyngor Sir Caerfyrddin) fel Aelod o’r Panel yn aros am gymeradwyaeth y Swyddfa Gartref. Dymunodd y Panel wellhad buan i'r Cynghorydd Jones ar ôl triniaeth ddiweddar yn yr ysbyty ac roedd yn edrych ymlaen at ei groesawu i gyfarfod Panel yn y dyfodol.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 GORFFENNAF 2020 pdf eicon PDF 443 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2020 gan eu bod yn gywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnod 10. Adroddiad Naratif Drafft o Ddatganiad Cyfrifon 2019/20

 

Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod Datganiad Cyfrifon Blynyddol terfynol y Comisiynydd bellach ar gael ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

 

5.

CWESTIWN Â RHYBUDD I'R PANEL GAN S.J., POWYS

“A oes gan Mr Llywelyn unrhyw gynlluniau i fuddsoddi arian ac adnoddau yn ein Gorsafoedd Heddlu llai ar draws ardal Powys? Er enghraifft, y Gelli Gandryll, Llanfair-ym-Muallt, Crucywel, Llanandras ac ati? Yn sgil y cynnydd yn nifer yr Heddweision, mae’n rhaid bod modd cael rhagor ohonynt yn ôl yn ein gorsafoedd bach?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Oes gan Mr Llywelyn unrhyw gynlluniau i fuddsoddi arian ac adnoddau yn ein Gorsafoedd Heddlu llai ledled Powys? Er enghraifft, Y Gelli, Llanfair-ym-Muallt, Crucywel, Prestigne ac ati? Gyda chynnydd yn nifer y Swyddogion, siawns bod lle i roi rhagor o blismyn yn ein gorsafoedd bach?"

 

Rhoddwyd gwybod i'r Panel am gywiriad i agenda'r cyfarfod a gyhoeddwyd.  Roedd y cwestiwn gan S.J. yn cyfeirio at y Comisiynydd ac nid, fel y nodwyd yn yr agenda, at y Panel.

 

Ymateb y Comisiynydd:

Dywedodd y Comisiynydd fod penderfyniadau ynghylch lleoli swyddogion heddlu dan gyfarwyddyd y Prif Gwnstabl. Mewn trafodaethau gyda'r Prif Gwnstabl, cytunwyd y dylid lleoli swyddogion sy'n cael eu recriwtio yn ystod y blynyddoedd nesaf ym mhob cymuned lle bo hynny'n bosibl, ond roedd yn rhaid cydbwyso hyn â'r angen i ddarparu adnoddau ychwanegol i feysydd arbenigol fel Seiberdroseddu a’r Adran Ymchwiliadau Troseddol (CID). O ran buddsoddiadau mewn gorsafoedd heddlu, dywedodd y Comisiynydd fod y Strategaeth Ystadau yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd ac y bu ymgais i beidio â lleihau ôl troed gorsafoedd heddlu ar draws ardal yr heddlu. Roedd adeiladau presennol yn destun rhaglen o arolygon a gwelliannau parhaus.

 

 

6.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ALUN LLOYD JONES

"Gomisiynydd, ydych chi'n cytuno bod diogelu pobl ifanc agored i niwed sy'n gadael gofal yn fater pwysig y mae gan yr heddlu rôl mewn perthynas â hyn. Os ydych chi'n cytuno, sut ydych chi'n sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn perfformio'r rôl honno'n briodol a beth ydych chi wedi'i ddysgu yn sgil craffu ar y modd y mae'r llu'n gweithredu ac am gryfderau a gwendidau ymagwedd y llu. Pa newidiadau (os oes rhai) yr hoffech eu gweld o ran ymagwedd y llu."

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Gomisiynydd, ydych chi'n cytuno bod diogelu pobl ifanc agored i niwed sy'n gadael gofal yn fater pwysig y mae gan yr heddlu rôl mewn perthynas â hyn. Os ydych chi'n cytuno, sut ydych chi'n sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn perfformio'r rôl honno'n briodol a beth ydych chi wedi'i ddysgu yn sgil craffu ar y modd y mae'r heddlu’n gweithredu ac o ran cryfderau a gwendidau ei ymagwedd. Pa newidiadau (os oes rhai) yr hoffech eu gweld o ran ymagwedd r Heddlu Dyfed-Powys?”

 

Ymateb y Comisiynydd:

Dywedodd y Comisiynydd fod gan yr heddlu ran allweddol i'w chwarae o ran  diogelu pobl ifanc agored i niwed sy'n gadael gofal. Roedd hyn yn cael ei gyflawni trwy ddull partneriaeth ac roedd Heddlu Dyfed Powys yn cymryd rhan ar lefel strategol yn y bwrdd diogelu ar gyfer plant ac oedolion.

O ran craffu, dywedodd y Comisiynydd fod perfformiad yn cael ei asesu trwy gyfarfodydd mewnol, presenoldeb mewn cyfarfodydd byrddau diogelu ac ymarferion craffu 'deep dive'. Roedd gwendidau o ran nodi’r gwahanol elfennau o ran bod yn agored i niwed ac roedd amseroldeb y broses asesu yn cael sylw drwy ddesg agored i niwed y Ganolfan Reoli a chyfarfodydd rheoli dyddiol amlasiantaeth i gyflwyno ymagwedd hollgynhwysol.

 

6.2

CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE

Mae effaith Covid wedi bod yn amlweddog a gallai newid agweddau ar blismona gweithredol yn y dyfodol. Mae swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu eisoes yn cario'r offer angenrheidiol i amddiffyn eu hunain ac ymgymryd â'u gwaith. A yw'r Comisiynydd yn ymwybodol o unrhyw astudiaethau sy'n cael eu cynnal sy'n ymwneud â gofynion offer ar gyfer y dyfodol sy'n deillio o'r pandemig, megis helmedau amddiffynnol? Beth yw barn y Comisiynydd am y goblygiadau ariannol a'r goblygiadau eraill? Hefyd o ran trafnidiaeth mae materion posibl, er enghraifft, yr angen i wahanu swyddogion yn gorfforol oddi wrth ei gilydd ac oddi wrth bobl sydd wedi’u harestio?  Mae twf hefyd mewn cerbydau trydanol ar gyfer trafnidiaeth.  Pa brosesau sydd ar waith ar gyfer cwmpasu'r anghenion cymorth posibl ar gyfer plismona yn Nyfed Powys yn y dyfodol?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae effaith Covid wedi bod yn amrywiol a gallai newid agweddau ar blismona gweithredol yn y dyfodol. Mae swyddogion heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu  eisoes yn cario offer angenrheidiol i amddiffyn eu hunain a gwneud eu gwaith. A yw'r Comisiynydd yn ymwybodol o unrhyw astudiaethau sy'n cael eu cynnal sy'n ymwneud â gofynion offer yn y dyfodol sy'n deillio o'r pandemig, megis ym meysydd helmedau amddiffynnol? Beth yw barn y Comisiynydd am y goblygiadau ariannol a goblygiadau eraill? Yn ogystal, ym maes trafnidiaeth mae yna faterion posib, er enghraifft, yr angen am wahanu corfforol rhwng swyddogion a hefyd yn achos dinasyddion sydd wedi'u harestio? Mae twf hefyd mewn cerbydau trydan ar gyfer trafnidiaeth. Pa brosesau sydd ar waith ar gyfer cwmpasu'r anghenion cymorth posibl ar gyfer plismona yn Nyfed Powys yn y dyfodol? ”

 

Ymateb y Comisiynydd:

Dywedodd y Comisiynydd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw astudiaethau a oedd yn cael eu cynnal yn ymwneud â gofynion offer yn y dyfodol. Roedd Heddlu Dyfed Powys yn cadw at ganllawiau cenedlaethol ac roedd gwaith y Coleg Plismona a Chyfarpar Diogelu Personol ar gael i swyddogion a oedd yn gweithredu'n agos at aelodau'r cyhoedd neu ar safleoedd y gallent ddal y feirws. Roedd mwy o bwyslais ar lesiant gweithwyr yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Roedd lefelau salwch staff o ganlyniad i Covid-19 yn cael eu monitro ac nid oeddent yn destun pryder ar hyn o bryd.

 

O ran goblygiadau ariannol, roedd hawliad dros £347k am gostau Cyfarpar Diogelu Personol wedi'i gyflwyno i'r Swyddfa Gartref. Derbyniwyd llythyr gan y Gweinidog Plismona yn tynnu sylw at grantiau ychwanegol ar gyfer mwy o weithgarwch gorfodi yn sgil Covid, gyda dyraniad o oddeutu £200k ar gyfer Heddlu Dyfed Powys. Yn ogystal, roedd Cynllun Adfer Colli Incwm ar gael i ganiatáu i heddluoedd adennill 75% o incwm a gollwyd ar ôl didyniad cychwynnol o 5% yr oedd yn rhaid ei amsugno'n lleol, sy'n cyfateb i ad-daliad o 71.25% gan y llywodraeth. Roedd hawliadau cymwys yn ddarostyngedig i egwyddorion a meini prawf penodol ac roedd hawliad cyntaf, o dros £149k, wedi'i gyflwyno. Roedd hawliad ar wahân o dros £1m ar y gweill mewn perthynas â Phartneriaeth GanBwyll, yr oedd Heddlu Dyfed Powys yn gweithredu fel bancwyr ar ei gyfer. Byddai colledion ariannol net yn cael eu cynnwys yn yr adroddiadau ariannol, a fyddai'n cael eu hystyried yng nghyfarfodydd Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu.

 

O ran cerbydau trydan, dywedodd y Comisiynydd ei fod wedi darparu cyllid ar gyfer defnyddio wyth cerbyd mewn Timau Plismona Cymdogaeth. Roedd y strategaeth rheoli fflyd yn ystyried ffyrdd o ehangu hyn, gan gynnwys darparu seilwaith gwefru. Yn ystod y pump i ddeng mlynedd nesaf, roedd dull cyfun yn cael ei ddatblygu gan nad oedd cerbydau trydan yn addas ar gyfer pob maes plismona gweithredol.

 

7.

YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL pdf eicon PDF 282 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd William Powell, Arweinydd y Panel ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, adroddiad ar waith Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dywedodd y Cynghorydd Powell fod yr adroddiad wedi'i ohirio i flwyddyn y cyngor 2020-21 oherwydd y pandemig coronafeirws. Roedd yr adroddiad yn cydnabod y gwaith da a wnaed gan y Comisiynydd mewn perthynas ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a gwnaeth nifer o argymhellion.  Dywedodd y Cynghorydd Powell nad oedd yr adroddiad yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â'r pandemig coronafeirws gan fod rhan fwyaf o'r dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad wedi'i chasglu cyn y pandemig.

 

Diolchodd y Cynghorydd Powell i Robert Edgecombe a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd am eu cefnogaeth wrth baratoi'r adroddiad. Cydnabu hefyd ei fod wedi cysylltu â Helen Thomas i osgoi gorgyffwrdd â gwaith ei thîm ar deledu cylch cyfyng.

 

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Powell am ei adroddiad trylwyr a diddorol.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â darpariaeth teledu cylch cyfyng yn Neyland, dywedodd y Comisiynydd nad oedd nifer y troseddau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn yr ardal yn cyfiawnhau buddsoddi mewn teledu cylch cyfyng ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD

9.1.    Nodi'r adroddiad;

9.2.          Argymell bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn mabwysiadu'r argymhellion a geir yn yr adroddiad.

 

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR YMATEB I'R PANDEMIG CORONAFEIRWS pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel adroddiad yn manylu ar ymateb y Comisiynydd i faterion a godwyd o ganlyniad i bandemig Covid-19.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiad yn darparu diweddariad ynghylch sicrhau adnoddau, sicrhau bod cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a gwaith y tîm ystadau i sicrhau bod amgylcheddau gwaith yn ddiogel ac yn cael eu darparu ar gyfer parhad gweithgaredd plismona. Roedd gwaith atebolrwydd ac ymgysylltu yn parhau trwy gyfarfodydd Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu, cyfarfodydd y panel sicrhau ansawdd, diwrnodau ymgysylltu rhithwir, sesiynau byw ar Facebook ac adolygiadau rhithwir o amgylcheddau dalfa.

 

Mewn ymateb i ymholiad yn ymwneud â chyllid ychwanegol i gynorthwyo dioddefwyr cam-driniaeth rhywiol a domestig, dywedodd y Comisiynydd y byddai'r cyllid yn cael ei neilltuo.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

9.

CYNNYDD YN ERBYN Y CYNLLUN HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 291 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel adroddiad ar gynnydd y Comisiynydd yn erbyn Cynllun yr Heddlu a Throseddu.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

10.

PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD pdf eicon PDF 285 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad Perfformiad yn ymwneud â Phrotocol Plismona.

 

Mewn ymateb i ymholiad yn ymwneud â chyflwyniadau hwyr, dywedwyd wrth y Panel nad oedd Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn anfon hysbysiadau awtomatig ynghylch cyhoeddi adroddiadau a therfynau amser ar gyfer ymatebion gofynnol.  Roedd prosesau bellach ar waith i fonitro cyhoeddi adroddiadau o'r fath a sicrhau bod ymatebion yn cael eu cyflwyno'n amserol.

 

Mewn ymateb i ymholiad yn ymwneud â threfniadau o ran gweithio gartref, dywedwyd wrth y Panel na fyddai unrhyw arian penodol ar gael i staff a oedd yn gweithio gartref ond roedd staff yr oedd yn ofynnol iddynt weithio gartref o ganlyniad i COVID-19 yn gymwys i wneud cais am ostyngiad treth.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

11.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM ADRODDIADAU MAN CRAFFU DWYS pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i ddiweddariad ar yr adroddiadau 'deep dive' ar Gyswllt Cychwynnol y Cyhoedd a Dioddefwyr yn Tynnu'n Ôl. Dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiadau'n darparu diweddariad ar argymhellion y cytunwyd arnynt o'r blaen mewn ymateb i'r adroddiadau craffu 'deep dive'.

 

Mewn ymateb i ymholiad yn ymwneud â'r cynnydd disgwyliedig, dywedwyd wrth y Panel y byddai'r fenter Single Online Home yn mynd rhagddi cyn bo hir a bod llai o alw am blismona yn ystod y cyfyngiadau symud wedi galluogi swyddogion i leihau'r ôl-groniad o ymchwiliadau parhaus.

 

Mewn ymateb i ymholiad yn ymwneud ag Uniondeb Data Troseddu, dywedwyd wrth y Panel fod cyfraddau cydymffurfio isel yn faes pryder a godwyd yn rheolaidd gyda phrif swyddogion. Gwnaed gwaith penodol fel y prosiect o'r dechrau i'r diwedd i sicrhau gwell cydymffurfiaeth, ond roedd y cynnydd hyd yma wedi bod yn arafach na'r disgwyl oherwydd y pandemig Covid-19.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad diweddaru.

 

12.

Y PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd yn ystod y cyfnod rhwng 10 Gorffennaf 2020 a 19 Hydref 2020.

 

Codwyd ymholiad yngl?n â monitro buddsoddiadau grant i leoliadau ar draws ardal yr heddlu. Dywedodd y Comisiynydd ei fod yn cadw cofnod o ddyraniadau grant ar draws ardal yr heddlu a byddai hyn yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau am fuddsoddi yn y dyfodol, yn ogystal ag ystyried yr angen ac amddifadedd lluosog.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar ystâd Aberhonddu, dywedodd y Comisiynydd nad oedd llinell amser bendant ar gael ac roedd amryw opsiynau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd a oedd yn anelu at gadw'r ddarpariaeth ddalfa yn Aberhonddu.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y Panel fod buddsoddiadau i YMCA Abertawe ac Ymddiriedolaeth Clwb Pêl-droed Abertawe wedi hybu gweithgareddau ieuenctid yn ardal Glan y Môr, Llanelli.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau