Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jessica Laimann 01267 224178
Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website.
Rhif | eitem |
---|---|
PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y PANEL 2020/21 PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 1.1 benodi'r Cynghorydd Alun Lloyd-Jones yn Gadeirydd y Panel am y flwyddyn galendr sydd i ddod; 1.2 penodi'r Athro Ian Roffe yn Is-gadeirydd y Panel am y flwyddyn galendr sydd i ddod.
|
|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Lloyd Edwards (Cyngor Sir Ceredigion). Croesawyd y Cynghorydd William Powell i'r cyfarfod gan y Cadeirydd yn dilyn ei salwch yn ddiweddar.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION - 21AIN CHWEFROR 2020 PDF 141 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2020 gan eu bod yn gywir.
|
|
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 5.1Cofnod 6 - Troseddau gwledig a bywyd gwyllt Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu fod ffigurau troseddau gwledig wedi gostwng yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud efallai oherwydd yr effaith ar droseddwyr sy'n teithio ond yn anffodus roedd y ffigurau bellach yn dychwelyd i lefelau arferol.
5.2Cofnod 7 - Llinell Gymorth ar gyfer Trais Domestig Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu fod galwadau i'r Llinell Gymorth ar gyfer Trais Domestig wedi lleihau yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud ac ystyriwyd y gallai hyn fod yn gysylltiedig â'r ffaith nad oedd economi'r nos, yn enwedig tafarndai ac ati, wedi bod yn weithredol.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Panel yn ystyried adroddiad blynyddol drafft 2019/20 y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Wrth gyflwyno ei adroddiad drafft, dywedodd y Comisiynydd y byddai'n cael ei gefnogi eleni gan elfennau digidol a chlipiau fideo. Tynnodd sylw at fentrau a oedd wedi cyfrannu at fwy o ymgysylltu â'r cyhoedd, gan gynnwys gweithgareddau ymgysylltu ag ieuenctid, gan ychwanegu bod yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at effaith Covid-19. Yn gyffredinol, roedd y Panel yn croesawu'r adroddiad ond codwyd y materion canlynol: - Awgrymwyd y dylid cynnwys enwau'r Panel Heddlu a Throseddu lle cyfeirir at y Panel ar dudalen 32 o dan yr adran â'r pennawd 'Cyd-bwyllgor Archwilio' ac y dylid cynnwys gwefan y Panel ar dudalen 33 o dan yr adran â'r pennawd 'Panel Heddlu a Throseddu'; - Cyfeiriwyd at hyd yr adroddiad a gofynnwyd a ellid ei leihau er hwylustod darllen; - Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Comisiynydd yn fanylach Gyllidebu Cyfranogol a fyddai'n cael ei arwain gan y timau plismona bro: - cytunodd y Comisiynydd â'r awgrym y dylid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am waith y timau plismona bro yn ddiweddarach; - gofynnwyd a ellid darparu gwybodaeth a gynhwysir yn y siartiau cylch ar ffurf tabl hefyd i gynorthwyo darllenwyr â phroblemau gweledol megis lliwddallineb; - Cytunodd y Comisiynydd i ystyried awgrym ynghylch a ellid rhannu recordiadau o unrhyw un o'r cyfarfodydd rhithwir ac ati yr oedd wedi cymryd rhan ynddynt ar-lein.
Croesawodd y Comisiynydd sylwadau'r Panel a dywedodd ei fod wedi nodi'r awgrymiadau a wnaed.
Gofynnodd y Cadeirydd i'r Comisiynydd estyn diolch a gwerthfawrogiad y Panel i'w holl staff a staff yr heddlu am y gwaith yr oeddent wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad blynyddol drafft.
|
|
DIWEDDARIAD AR YR YMATEB I'R PANDEMIG COVID-19 PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Panel adroddiad yn manylu ar ymateb y Comisiynydd i faterion a godwyd o ganlyniad i bandemig Covid-19. Nodwyd bod y Grant Uplift diweddar gan y Swyddfa Gartref wedi caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth dalu costau cysylltiedig â Covid-19 ac wedi sicrhau y gellid cymryd mesurau priodol yn gyflym pan oedd angen. Roedd y tîm Ystadau wedi gwneud gwaith sylweddol i fynd i'r afael â materion iechyd a diogelwch. Roedd costau'n cael eu cofnodi a'u hadrodd i'r Swyddfa Gartref yn fisol. Ystyriwyd fod oddeutu £100k wedi cael ei arbed o ran costau tanwydd.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd yn ystod y cyfnod rhwng 15 Chwefror 2020 a 10 Gorffennaf 2020. Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Comisiynydd y byddai cyfleuster newydd yr adran c?n ym Mhen-bre yn cael ei leoli ar hen safle hofrennydd yr heddlu. Byddai hyn hefyd yn ategu hyfforddiant gyrwyr ar drac rasio Pen-bre. Ychwanegodd, mewn ymateb i ymholiad pellach, y gwnaed pob ymdrech i gaffael gwasanaethau yn ardal yr heddlu lle bo hynny'n bosibl. PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
COPI DRAFFT O DDATGANIAD CYFRIFON 2019/20 - ADRODDIAD NARATIF Cofnodion: Ar ôl cyhoeddi Datganiad Cyfrifon Blynyddol drafft y Comisiynydd ar gyfer 2019-2020, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am y sefyllfa ariannol gyfredol fel y manylwyd arni yn yr adroddiad naratif a ddosbarthwyd i'r aelodau. Nod yr adroddiad oedd rhoi gwybodaeth am y materion mwyaf arwyddocaol yr adroddwyd arnynt yn y cyfrifon gr?p o ran y gwasanaethau a ddarperir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (y Comisiynydd) a Phrif Gwnstabl Dyfed-Powys ynghyd â darparu cyd-destun sefydliadol ehangach. Dywedodd y Comisiynydd y byddai'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo ganddo ef a'r Prif Gwnstabl ar ôl y cyfnod i'r cyhoedd gael golwg arno. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, o ystyried yr holl heriau dros y flwyddyn ddiwethaf, ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda rhai arbedion. Manylodd yr adroddiad ar sut y defnyddiwyd y tanwariant ac amlygodd fod y cronfeydd wrth gefn yn gyfanswm o £14.6 miliwn. PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|