Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
Dydd Mercher, 3ydd Gorffennaf, 2019 10.30 yb

Lleoliad: Siamber- Neuadd y Sir, Aberaeron - Aberaeron. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Panel na fyddai'r cyfarfod yn cael ei weddarlledu oherwydd anawsterau technegol.

 

NEWID TREFN Y MATERION

Cytunodd y Panel i amrywio trefn y materion ar yr agenda er mwyn dod ymlaen ag Eitem 10 (Iechyd Meddwl a Phlismona) i'w thrafod ar ôl Eitem 7 (Cwestiynau â Rhybudd gan y Cyhoedd i'r Comisiynydd) ac eitem 14 (Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) i'w thrafod ar ôl Eitem 8 (Adroddiad PEEL Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Mawrhydi).

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y PANEL pdf eicon PDF 361 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau'r Panel a'r Swyddogion am eu gwaith a'u hymrwymiad yn ystod y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

3.1.    benodi'r Cynghorydd Alun Lloyd-Jones yn Gadeirydd y Panel am y flwyddyn galendr sydd i ddod;

3.2.    penodi'r Athro Ian Roffe yn Is-gadeirydd y Panel am y flwyddyn galendr sydd i ddod.

 

4.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 26AIN EBRILL 2019 pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2019 gan eu bod yn gywir.

 

 

5.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnod Rhif 7 - Troseddau sy'n Gysylltiedig â Chyffuriau

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch Ystafelloedd Cymryd Cyffuriau, dywedodd y Comisiynydd nad oedd unrhyw ddatblygiadau pellach wedi bod oherwydd y byddai angen awdurdodiad y Swyddfa Gartref i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn.

 

6.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS

Roeddwn yn bwrw golwg drwy adroddiad gan Gymdeithas y Gyfraith yn ddiweddar a deuthum ar draws darn a oedd yn cyfeirio at ddefnydd offeryn asesu risg niwed gan heddluoedd amrywiol.

1.    Gomisiynydd, a allech gadarnhau pa ddefnydd y mae Heddlu Dyfed-Powys yn ei wneud o algorithmau o’r fath ar hyn o bryd?

2.    A yw eu caffael a’u defnyddio yn cydymffurfio â’r saith argymhelliad a gynhwysir yn adroddiad y Comisiwn?

3.    Os nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cydymffurfio, pa gamau y byddwch chi’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn eu cymryd i ddal y Prif Gwnstabl yn atebol er mwyn sicrhau y bydd yn cydymffurfio yn y dyfodol?

4.    Ar dudalen 8 eich Cynllun Heddlu a Throseddu, Gomisiynydd, rydych yn pwysleisio eich ymrwymiad i wneud y defnydd mwyaf posibl o dechnoleg. Wrth edrych yn ôl, a ddylid gosod amod ar hyn er mwyn ystyried y peryglon a nodwyd yn adroddiad y Comisiwn?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Roeddwn yn darllen adroddiad gan Gymdeithas y Gyfraith yn ddiweddar a gwelais ddarn a oedd yn cyfeirio at y defnydd o offeryn Asesu'r Risg o Niwed gan Heddluoedd amrywiol.

 

1.    A allech gadarnhau, Gomisiynydd, sut y mae Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio algorithmau o'r fath ar hyn o bryd?

2.    A yw eu proses gaffael a'u defnydd presennol yn cydymffurfio â'r saith argymhelliad yn adroddiad y Comisiwn?

3.    Os na fydd Heddlu Dyfed-Powys yn cydymffurfio, pa gamau fyddwch yn eu cymryd fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ddal y Prif Gwnstabl yn atebol gan sicrhau y bydd yn cydymffurfio yn y dyfodol?

4.    Ar dudalen wyth o'ch Cynllun Heddlu a Throseddu, Gomisiynydd, rydych yn pwysleisio eich ymrwymiad i ddefnyddio cymaint o dechnoleg â phosibl. Wrth edrych yn ôl, a ddylid nodi cafeat wrth hyn er mwyn ystyried y risgiau a nodir yn adroddiad y Comisiwn?"

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Dywedodd y Comisiynydd fod Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio algorithmau ar gyfer asesu risg ar hyn o bryd a'i fod hefyd yn ystyried y posibilrwydd o ragfynegi'r defnydd o adnoddau'r heddlu. Roedd ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd wedi'i benodi yn 2013/14 i ddatblygu'r algorithmau hyn ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys. Roedd canfyddiadau'r ymchwil wedi'u cyhoeddi ond roedd angen gwaith pellach i'w gweithredu. Ynghylch y risgiau, dywedodd y Comisiynydd fod yr Heddlu'n datblygu offeryn i asesu risg sydd wedi'i fodelu ar fframwaith ALGO-CARE a ddefnyddir gan Gwnstabliaeth Durham, a oedd yn ei gwneud hi'n ofynnol i algorithmau yng nghyd-destun yr Heddlu fod yn gyfreithlon, yn gywir, yn gyfrifol ac yn esboniadwy, ac yn rhai y gellir eu herio.

 

Awgrymwyd bod risgiau penodol mewn perthynas â'r posibilrwydd o gysylltu system adnabod wynebau â system adnabod data. Dywedodd y Comisiynydd y byddai angen ystyried yn ofalus risgiau o'r fath, ond nad oedd system teledu cylch cyfyng yr Heddlu yn defnyddio system adnabod wynebau na ddeallusrwydd artiffisial ar hyn o bryd.

 

7.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU O'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CWESTIWN GAN R.R.

Beth yw’r cynlluniau o ran penodi swyddogion ychwanegol yr heddlu yn dilyn y cynnydd enfawr ym mhraesept yr heddlu yn ddiweddar? Yn benodol, faint o swyddogion ac ym mha fannau?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Beth yw'r cynlluniau i benodi swyddogion heddlu ychwanegol yn dilyn y cynnydd enfawr ym mhraesept yr Heddlu yn ddiweddar? Yn benodol, faint o swyddogion ac ym mha ardaloedd?"

 

Ymateb y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Dywedodd y Comisiynydd fod cynnydd yn y praesept yn angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â phwysau ariannol parhaus ar gyllideb yr heddlu, yn benodol oherwydd cynnydd yng nghyfraniadau pensiynau, a bod gan Heddlu Dyfed-Powys y praesept isaf yng Nghymru o hyd. Roedd Heddlu Dyfed-Powys yn cyflogi 1.135 o swyddogion heddlu ar hyn o bryd, a oedd ychydig yn is na chyfartaledd yr Heddlu, sef 1.145, ond roedd yn ostyngiad llai yn nifer y swyddogion na llawer o heddluoedd eraill. Dywedodd y Comisiynydd hefyd nad yw effeithlonrwydd yr heddlu'n ymwneud â nifer y swyddogion yn unig, ond strwythur staffio cyffredinol yr heddlu. Roedd yr heddlu'n cyflogi mwy a mwy o aelodau eraill o staff fel ffordd gost-effeithlon o fynd i'r afael â seiberdroseddu a gwaith ymchwilio arall a fyddai wedi'i wneud gan swyddogion â gwarant yn draddodiadol. Yn gyffredinol, roedd nifer y staff yn ddigonol ac roedd cynnydd o 17.5% wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Gofynnwyd ynghylch ffigurau staffio mewn gwahanol rannau o ardal Dyfed-Powys. Mewn ymateb, dywedodd y Comisiynydd, er bod yr holl wardiau'n gweithio tuag at ffigurau'r sefydliad, fod recriwtio a chadw staff yn fwy heriol mewn rhai ardaloedd megis gogledd Powys a gogledd Ceredigion. Roedd yr Heddlu'n lansio cynlluniau recriwtio a throsglwyddo i fynd i'r afael â'r materion hyn. Dywedodd hefyd fod yr heddlu'n gallu defnyddio adnoddau mewn modd hyblyg i ymateb i ddigwyddiadau mawr a newidiadau yn y boblogaeth oherwydd twristiaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd fod yr heddlu yn cyflogi 148 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ar hyn o bryd. Nid oedd nifer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi newid ac roedd 50% o'r swyddi'n cael eu hariannu gan grantiau Llywodraeth Cymru. Roedd yr Heddlu'n adolygu'r strwythur rheoli ar hyn o bryd ar gyfer plismona cymunedol gan gynnwys rhingylliaid wedi'u halinio'n uniongyrchol.

 

8.

IECHYD MEDDWL A PHLISMONA pdf eicon PDF 366 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ynghylch effaith materion iechyd meddwl ar gyflawniad y Cynllun Heddlu a Throseddu. Dywedodd y Prif Gwnstabl, sef arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu dros Iechyd Meddwl a Phlismona, mai'r mater mwyaf yn y cyd-destun hwn oedd y galw parhaus y mae materion iechyd meddwl yn ei osod ar wasanaethau heddlu yn ardal Dyfed-Powys. Roedd cydweithio effeithiol rhwng yr heddlu a'r gwasanaethau iechyd meddwl ar y cynllun brysbennu parhaus yn allweddol o ran mynd i'r afael â'r materion hyn, ond roedd y cynllun wedi'i leihau o bedwar i dri diwrnod yr wythnos. Roedd y cynllun brysbennu'n darparu mynediad i gofnodion iechyd meddwl a chynlluniau gofal ar unwaith er mwyn gwella'r ymateb i bobl sy'n agored i niwed a chynnal gwiriadau lles neu eu cyfeirio at adnoddau iechyd meddwl. Dywedodd y Prif Gwnstabl nad yw'r trefniadau presennol o ran cyllido'n gynaliadwy, a bod £1.9 miliwn o gyllid brysbennu yng Nghymru yn dod o gyllidebau heddlu. Ychwanegodd y Comisiynydd ei fod ef a'i gymheiriaid mewn ardaloedd eraill yng Nghymru yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i reoli'r pwysau sy'n gysylltiedig â materion iechyd meddwl.

 

Mewn perthynas â'r adolygiad o'r Ddeddf Iechyd Meddwl, dywedodd y Prif Gwnstabl ei fod wedi cefnogi dau brif fater yn ei rôl ar y bwrdd ymgynghorol:

1.    Gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio celloedd heddlu ar gyfer unigolion sy'n profi argyfwng iechyd meddwl. Yn hytrach, byddai angen i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd gael y cyfleusterau priodol;

2.    Cludo'r unigolion hyn mewn ambiwlansys preifat yn hytrach na cherbydau'r heddlu.

Dywedodd y disgwylir deddfwriaeth ynghylch y Ddeddf ddiwygiedig yn 2022.

 

Roedd nifer o Aelodau'r Panel yn croesawu argymhelliad y Prif Gwnstabl yn erbyn defnyddio celloedd yr heddlu.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Prif Gwnstabl y byddai Caffis Gofal mewn Argyfwng a noddfeydd ym mhob sir yn ardal Dyfed-Powys.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Prif Gwnstabl eu bod yn ymgynghori'n rheolaidd ag elusennau iechyd meddwl megis Hafal, Gofal a Mind Cymru, ond roedd posibilrwydd o ystyried sefydliadau eraill i gydweithio â nhw, er enghraifft Byrddau Iechyd Cyhoeddus rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD PEEL HMICFRS pdf eicon PDF 442 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch yr asesiad PEEL diweddaraf a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiad wedi'i gyhoeddi ym mis Mai 2019 ac roedd yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio o fis Hydref i fis Tachwedd 2018. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno golwg gymysg, gan y gwerthusir bod un maes perfformiad (effeithiolrwydd) yn dda a bod angen gwelliant mewn dau faes (effeithlonrwydd a dilysrwydd). Roedd hyn yn newid o'r adroddiad blaenorol, a oedd wedi canfod mai dim ond mewn un maes (effeithlonrwydd) yr oedd angen gwelliant.

 

Dywedodd y Comisiynydd ei fod ef a'r Prif Gwnstabl, ar ôl gweld yr adroddiad drafft, wedi mynegi nifer o bryderon ynghylch methodoleg a sylfaen dystiolaeth yr asesiad a phwysleisiodd nifer o wallau yn yr adroddiad drafft. Roedd hyn wedi'i wneud yn ysgrifenedig a thrwy ohebiaeth bersonol â chynrychiolwyr Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Mawrhydi. Gan nad oedd rhai o'r pryderon a'r gwallau a nodwyd wedi cael sylw yn yr adroddiad terfynol, ysgrifennwyd llythyrau pellach i'r Arolygiaeth, ac wedyn i'r Swyddfa Gartref, ond ni chafwyd unrhyw ymateb sylweddol.

 

Awgrymodd nifer o Aelodau'r Panel fod rhai anghysondebau yn yr adroddiad. Mynegodd y Panel bryderon ynghylch yr anghysondebau hyn a gohebiaeth yr Arolygiaeth mewn perthynas â'r materion a bwysleisiwyd gan y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch strategaeth tymor hwy'r Heddlu, dywedodd y Comisiynydd ei fod wedi gofyn i'r Prif Gwnstabl rannu gweledigaeth ar gyfer plismona hyd at 2030, a ddylai fod yn alinio â'r swyddogaeth adnoddau dynol. Byddai'r weledigaeth hon yn ategu'r Weledigaeth ar gyfer Plismona 2025 a ddatblygir gan Gymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu. Dywedodd y Prif Gwnstabl fod Tîm Gwelliant Parhaus yr Heddlu yn datblygu gwaith strategol o ran adnoddau dynol a'r galw, gan ystyried arferion gorau heddluoedd a sefydliadau eraill.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

10.

YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL pdf eicon PDF 433 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Panel groeso i Dr Nia Edwards-Behi a Jomarie Turner i'r cyfarfod, sef cynrychiolwyr o Rwydwaith Gwrth-hiliaeth Gorllewin Cymru, a gyflwynodd dystiolaeth mewn perthynas â'u profiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymateb yr awdurdodau iddo. Dywedodd Dr Edwards-Behi fod y rhwydwaith yn cael ei gynnal gan wirfoddolwyr ac roedd wedi'i sefydlu yn 2017 mewn ymateb i orymdaith a ddefnyddiodd wynebau du yng Ngharnifal Aberaeron. Dywedodd Dr Edwards-Behi nad oedd hiliaeth ac aflonyddu ar sail hil yn cael eu cymryd o ddifri bob amser ac y gallai fod yn anodd meddwl am weithrediadau hiliol fel gweithrediadau gwrthgymdeithasol sy'n torri'r gyfraith. Y rheswm dros hynny oedd bod aflonyddu ar sail hil yn aml yn cynnwys digwyddiadau bach niferus (meicroaflonyddu) sy'n cael eu diystyru'n aml fel "tynnu coes" ond sy'n gallu cael effaith fawr ar yr unigolion a dargedir. Dywedodd Dr Edwards-Behi hefyd y byddai'n ddymunol cael llinell neu wasanaeth negeseuon testun dynodedig ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau hiliol mewn amgylcheddau lle nad oedd yn ddiogel siarad dros y ffôn.

 

Roedd y ddau dyst wedi rhoi gwybod am ddigwyddiadau o brofiad personol nad oeddent yn teimlo bod yr heddlu a'r awdurdodau eraill wedi ymdrin â nhw'n ddigonol. Mewn un achos a oedd yn cynnwys troseddau'n erbyn plentyn, dywedodd un tyst iddi gael ei chyfeirio at nifer o swyddogion yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau gwahanol heb gael ymateb sylweddol. Dywedodd y tyst ei bod hi'n teimlo nad oedd neb yn gallu ei chynghori ynghylch y mater a bod diffyg eglurder o ran pa awdurdod oedd yn gyfrifol am ddelio â digwyddiadau o'r math hwn. Cynghorodd Aelodau'r Panel y tyst i gysylltu â'i Chynghorydd Sir lleol i gael cymorth ac arweiniad ar unwaith a rhoddodd fanylion cyswllt iddi. Dywedodd y Comisiynydd y dylai Goleudy, sef y gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr, a swyddog cymorth yr heddlu dros droseddau casineb hefyd fod yn gallu rhoi cyngor. Gofynnodd i'r Prif Gwnstabl gynnal adolygiad ynghylch ymateb yr heddlu i'r digwyddiad.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod yr Heddlu yn annog y cyhoedd i roi gwybod am ddigwyddiadau o'r natur hon ar unrhyw raddfa. Byddai ei swyddfa'n ceisio trefnu cyfarfod gyda Rhwydwaith Gwrth-hiliaeth Gorllewin Cymru i drafod unrhyw ymatebion heddlu i achosion o hilaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddent hefyd yn ystyried y gwasanaeth negeseuon testun a awgrymwyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn y dystiolaeth a ddarparwyd gan aelodau Rhwydwaith Gwrth-hiliaeth Gorllewin Cymru.

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 266 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad blynyddol drafft y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Dywedodd y Comisiynydd fod ei swyddfa'n ystyried cynhyrchu fersiwn fideo o adroddiad eleni a chroesawodd adborth erbyn 12 Gorffennaf 2019.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch effaith yr adroddiadau craffu Deep Dive, dywedodd y Comisiynydd y gallai adroddiad gwerthuso gael ei gyflwyno i'r Panel yn ei gyfarfod nesaf. Byddai'r adroddiad gwerthuso'n ystyried i ba raddau yr oedd argymhellion yr asesiad Deep Dive wedi'u gweithredu.

 

Codwyd nifer o ymholiadau ac argymhellion gan y Panel mewn perthynas â'r adroddiad blynyddol drafft, gan gynnwys y canlynol:

-        Awgrymwyd y gallai'r adroddiad gyfeirio ymhellach at waith y Comisiynydd gyda'r Panel, er enghraifft drwy gyfeirio darllenwyr at Adroddiad Blynyddol y Panel;

-        Gwnaed awgrymiad y gallai'r adroddiad gael ei ailstrwythuro i adlewyrchu blaenoriaethu'r cyhoedd yn well.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Comisiynydd y byddai dolen gyswllt i Adroddiad Blynyddol y Panel yn cael ei chynnwys ynghyd â llun o gyfarfod y Panel heddiw. Dywedodd hefyd y byddai copïau caled o'r adroddiad terfynol yn cael eu dosbarthu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad blynyddol drafft.

 

12.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 266 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad, er gwybodaeth, a fanylai ar y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd ar gyfer y cyfnod rhwng 27 Ebrill a 26 Mehefin 2019.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch penderfyniad y Comisiynydd i beidio â chyfrannu at Linell Gymorth ar gyfer Caethwasiaeth Fodern, dywedodd y Comisiynydd fod y swm y gofynnir amdano, sef £10.000, yn rhy uchel, ond y byddai'n ystyried cynorthwyo'r gwasanaeth drwy roi cyfraniad llai pe byddai modd gwneud hynny yn y dyfodol.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch buddsoddiad y Comisiynydd mewn gweithgareddau cymunedol. Dywedodd y Comisiynydd fod y penderfyniadau wedi'u cadarnhau ddoe ac y byddai cofnod llawn o'r penderfyniadau ar gael yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

13.

ADBORTH O GYFARFOD BWRDD ATEBOLRWYDD YR HEDDLU pdf eicon PDF 363 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad ynghylch cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a gynhaliwyd ar 7 Mai 2019 yn Llandrindod. Dywedodd Aelodau'r Panel a oedd wedi bod yn bresennol fod y sesiwn ryngweithio fyw ar Facebook wedi bod yn boblogaidd iawn ac roedd diddordeb penodol mewn materion fel Taclo'r Tacle.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd y byddai'n cynnal sesiynau byw ar Facebook ar ôl pob cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

14.

ADBORTH O GYFARFOD TROSEDDAU GWLEDIG CEREDIGION pdf eicon PDF 366 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad ynghylch cyfarfod Troseddau Gwledig Ceredigion. Diolchodd y Cynghorydd Lloyd Edwards i'r Comisiynydd, y Cynghorydd Keith Evans, y Cynghorydd Alun Lloyd-Jones a'r Athro Ian Roffe am ddod i'r cyfarfod. Dywedodd fod y tywydd braf wedi effeithio ar bresenoldeb ond roedd cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn bresennol. Cafodd pawb oedd yn bresennol y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Troseddau Gwledig a gwaith y Comisiynydd a'r Panel. Ymysg y materion a godwyd yn y cyfarfod oedd poenydio defaid ac ymatebion posibl a chymorth mewn perthynas â throseddau gwledig. Trefnir cyfarfod dilynol ar gyfer mis Hydref a'r gobaith oedd y byddai modd ei ddarlledu ar S4C ac ar y newyddion lleol.

 

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Edwards am ei waith o ymgysylltu â chymunedau lleol a'u gwneud yn ymwybodol o waith y Panel.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.