Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Gwener, 15fed Chwefror, 2019 10.30 yb

Lleoliad: Neuadd y Sir, - Llandrindod, Powys. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Keith Evans (Cyngor Sir Ceredigion), Ken Howell (Cyngor Sir Caerfyrddin) a Roberts Summons (Cyngor Sir Penfro).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

CWESTIWN Â RHYBUDD - NI DDERBYNIWYD DIM

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan Aelodau'r Panel neu aelodau'r cyhoedd.

 

4.

BLAENORIAETH 3 Y PANEL - ADOLYGU'R CYNLLUN HEDDLU A THROSEDDU: YMATEBION WRTH GEREDIGION, PENFRO A PHOWYS pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl gwahodd yr awdurdodau unedol yn ardal Dyfed-Powys i roi eu barn ar nifer o faterion ynghylch yr adolygiad o Gynllun yr Heddlu a Throseddu, rhoddodd y Panel ystyriaeth i ymatebion gan Gynghorau Sir Ceredigion, Penfro a Phowys. Rhoddwyd gwybod i'r Panel nad oedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael gwahoddiad i ddarparu ymateb ysgrifenedig oherwydd bod yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelwch Cymunedol wedi rhoi tystiolaeth o ran Cynllun yr Heddlu a Throseddu mewn cyfarfod blaenorol (gweler Eitem 11 y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2018).

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch ymateb Cyngor Sir Ceredigion, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fod ei Swyddfa a'r Heddlu yn mynd i gyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn rheolaidd er mwyn lleihau'r perygl o ddyblygu.

 

Mynegodd y Comisiynydd ei siom ynghylch yr ymateb gan Gyngor Sir Penfro a ysgrifennwyd gan Gadeirydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro Ddiogelach. Awgrymodd y llythyr fod diffyg o ran sut y mae Cynllun yr Heddlu a Throseddu yn ymdrin â throseddau difrifol a chyfundrefnol a sut y mae'r Comisiynydd yn ymgysylltu â'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. O ran y mater yn ymwneud â throseddau difrifol a chyfundrefnol, dywedodd y Comisiynydd fod Blaenoriaeth 3 o Gynllun yr Heddlu a Throseddu yn ymdrin â hwn fel mater allweddol, gan gynnwys troseddau sy'n ymwneud â chyffuriau megis 'llinellau sirol'. Mewn perthynas â'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC), dywedodd y Comisiynydd ei fod wedi gwneud ymdrech fwriadol i gryfhau'r cydweithredu ers dechrau 2017, ei fod yn cyfarfod â rheolwyr y PDC bob chwarter a'i fod wedi sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer gweithgareddau'r PDC, gan gynnwys £34,000 ar gyfer gwaith sy'n ymwneud â bwlio ar-lein yn Sir Benfro.

 

Nododd y Comisiynydd fod Cadeirydd Sir Benfro Ddiogelach, yn ei lythyr, yn cydnabod nad oedd wedi gallu ymgynghori â phartneriaid yn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ac felly efallai nad yw'r cynnwys yn adlewyrchu barn pob partner. Ar gais Aelodau'r Panel, cytunodd y Comisiynydd i ddanfon copi o'i lythyr ymateb at y Panel.

 

O ran yr ymateb gan Gyngor Sir Powys, dywedodd y Comisiynydd fod ei swyddfa yn ystyried darparu £40,000 yn ychwanegol i fynd i'r afael â materion ynghylch 'llinellau sirol'. Rhybuddiodd na fydd ymdrechion i wneud arbedion drwy gydleoli Gwasanaethau'r Heddlu a'r Cyngor bob amser yn gynaliadwy yn y tymor hir ac y gallai hynny arwain at lai o blismona.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr ymatebion.

 

5.

BLAENORIAETH 3 Y PANEL - ADOLYGU'R CYNLLUN HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Athro Ian Roffe adroddiad i'r Panel ynghylch yr adolygiad o Gynllun yr Heddlu a Throseddu gan amlinellu cyd-destun y Cynllun, adolygu gweithgareddau Panel yr Heddlu a Throseddu a statws presennol y Cynllun. Dywedwyd wrth y Panel fod Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 yn gosod dyletswydd statudol ar Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu i adolygu Cynllun yr Heddlu a Throseddu yn sgil unrhyw argymhellion a wnaed gan Banel yr Heddlu a Throseddu.

 

Diolchodd y Panel i'r Athro Roffe am ei adroddiad helaeth a diddorol. Croesawodd y Panel awgrym y Comisiynydd y dylai'r Prif Gwnstabl fynd i gyfarfod y Panel yn ddiweddarach eleni i roi safbwynt gweithredol ynghylch cyflawni'r Cynllun. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad ynghylch adolygu Cynllun yr Heddlu a Throseddu yn cael ei dderbyn.

 

6.

BLAENORIAETH 2 Y PANEL - BWRDD ATEBOLRWYDD YR HEDDLU pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mrs Helen Thomas adroddiad i'r Panel ynghylch cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2019 yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman. Soniwyd yn gadarnhaol am y Comisiynydd yn ymgysylltu â disgyblion y Chweched Dosbarth yn y cyfarfod. Diolchodd y Panel i Mrs Thomas am ei hadroddiad trylwyr a llawn gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad ynghylch cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2019 yn cael ei nodi.

 

7.

BLAENORIAETH 2 Y PANEL - SUT Y MAE'R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU YN DAL Y PRIF GWNSTABL I GYFRIF pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd William Powell adroddiad i'r Panel ynghylch sut y mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn atebol. Atodwyd yr adroddiad gyda rhestr o feini prawf ynghylch gwybodaeth eithriedig fel y nodir yn Adrannau 21-33 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac Adran 13 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol. Nodwyd er bod cyfarfodydd Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu yn cael eu cynnal yn gyhoeddus a'u gwe-ddarlledu yn fwy diweddar, fod y Panel wedi mynegi pryder ynghylch peidio â datgelu adroddiadau sy'n gysylltiedig â'r cyfarfodydd hyn. Argymhellwyd yn yr adroddiad felly fod y Comisiynydd yn mabwysiadu'r meini prawf a nodir yn yr atodiad. Diolchodd Aelodau'r Panel i'r Cynghorydd Powell am ei adroddiad helaeth a diddorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

7.1.    Nodi'r adroddiad;

7.2.    Argymell i'r Comisiynydd ei fod yn mabwysiadu'n ffurfiol y meini prawf arfaethedig ar gyfer cyhoeddi papurau Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu.

 

8.

ADRODDIAD GAN AROLYGIAETH CWNSTABLIAETH A GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB EI MAWRHYDI - PLISMONA AC IECHYD MEDDWL pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Mawrhydi ynghylch Plismona ac Iechyd Meddwl, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018 a oedd yn atodol i Goncordat Gofal Mewn Argyfwng Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad yn disgrifio rôl bresennol yr heddlu o ran ymdrin â phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ac yn gosod pum prif argymhelliad. Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod yr eitem wedi'i chyflwyno er mwyn llywio gwaith y Panel yn y dyfodol, mewn ymateb i Aelodau'r Panel sydd wedi mynegi pryderon ynghylch plismona ac iechyd meddwl ar sawl achlysur.

 

Cafwyd nifer o sylwadau a oedd yn nodi bod problemau capasiti ac amserau teithio hir i fynd i 'safleoedd diogel' yn peryglu pobl â phroblemau iechyd meddwl. Awgrymwyd y dylid darparu mwy o safleoedd diogel er mwyn osgoi gorfod cadw unigolion â phroblemau iechyd meddwl yn nalfa'r heddlu heb oruchwyliaeth gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig.

 

Dywedodd y Comisiynydd mai'r Prif Gwnstabl oedd yr arweinydd cenedlaethol o ran materion iechyd meddwl a'i fod yn ymwybodol o'r problemau o ran safleoedd diogel. Rhoddwyd adnoddau ar waith i barhau â'r Cynllun Brysbennu ynghylch Iechyd Meddwl ar gyfer Swyddogion yr Heddlu a gweithwyr proffesiynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dywedodd y Comisiynydd hefyd ei fod yn rhoi pwysau ar Arolygydd ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid iechyd meddwl ychwanegol i leihau'r pwysau ar wasanaethau'r heddlu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

9.

AROLWG TROSEDDAU GWLEDIG CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch Arolwg Troseddau Gwledig Cenedlaethol 2018. Cyhoeddwyd yr adroddiad gan y Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol, sef sefydliad o Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a rhanddeiliaid gwledig eraill, sydd â'r nod o wella plismona gwledig a'i drefniadau cyllido gan ywodraeth ganolog. Nododd yr adroddiad deg canfyddiad allweddol mewn perthynas â chanfyddiad y cyhoedd ac ofni troseddau, diffyg adrodd am droseddau, a'r gred bod yna ddiffyg cymorth a dealltwriaeth.

 

Dywedodd y Comisiynydd nad oedd Heddlu Dyfed-Powys wedi cymryd rhan yn yr arolwg oherwydd y goblygiadau o ran costau, ond bod Strategaeth Troseddau Gwledig yr Heddlu yn seiliedig ar waith ymchwil lleol a gynhaliwyd gan Brifysgol Aberystwyth.

 

Roedd y cwestiynau a sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:

 

-        Awgrymodd Aelodau'r Panel fod angen cael rhagor o bresenoldeb yr heddlu mewn ardaloedd gwledig er mwyn mynd i'r afael â phroblemau megis dwyn da byw. Ymatebodd y Comisiynydd drwy ddweud bod y Tîm Troseddau Gwledig yn cydweithio â Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â'r materion hyn. Gwnaed sylw oedd yn croesawu ymgysylltiad yr Heddlu â chymunedau gwledig mewn digwyddiadau megis marchnadoedd da byw.

-        Awgrymwyd y gallai'r Comisiynydd gynyddu ymwybyddiaeth o'r ffaith efallai y bydd ar gymunedau ffermio angen cymorth ychwanegol o ran iechyd meddwl a lles ar ôl Brexit.

-        Gwnaed sylw yn awgrymu bod gwell seilwaith ffyrdd, megis ffordd osgoi'r Drenewydd, wedi cael sgil-effaith negyddol o ran gwneud ardaloedd gwledig yn fwy hygyrch i droseddwyr o'r tu allan. Ymatebodd y Comisiynydd gan ddweud bod yr Heddlu yn defnyddio system adnabod rhifau cofrestru yn awtomatig a chysylltiadau gwybodaeth gyda Thîm Troseddau Gwledig Gogledd Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon.

-        Ynghylch cyfathrebu a datblygu cysylltiadau gwybodaeth gyda phoblogaeth wledig wasgaredig, ymatebodd y Comisiynydd drwy ddweud bod yr Heddlu yn defnyddio gwasanaeth negeseuon Heddlu Dyfed-Powys ynghyd â chyfryngau cymdeithasol eraill megis Facebook a Twitter.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

10.

NODYN CYNGOR SWYDDFA ANNIBYNNOL YMDDYGIAD YR HEDDLU (IOPC) pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i nodyn cyngor gweithredol gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Bwriad y nodyn oedd rhoi cymorth i baneli heddlu a throseddu o ran ymdrin â chwynion a materion ymddygiad a gofnodwyd yn erbyn comisiynwyr heddlu a throseddu. Dywedwyd wrth y Panel nad oedd y ddeddfwriaeth berthnasol wedi newid ers 2012 a bod y nodyn er gwybodaeth yn unig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y nodyn cyngor gweithredol.