Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
Dydd Gwener, 25ain Ionawr, 2019 10.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Michael James (Cyngor Sir Penfro), William Powell (Cyngor Sir Powys) a Robert Summons (Cyngor Sir Penfro).

 

Estynnodd y Cadeirydd air o gydymdeimlad i'r Cynghorwyr Lloyd Edwards (Cyngor Sir Ceredigion) a Jim Jones (Cyngor Sir Caerfyrddin).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 16EG TACHWEDD 2018 pdf eicon PDF 560 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2018 yn gofnod cywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

4.1

Cofnod 4.4 – Eitem Agenda, Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Panel, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod data'r arolwg staff diweddar wedi cael ei ddadansoddi, a gallai'r Panel gael y canlyniadau cyn bo hir.

 

4.2

Cofnod 5 – Eitem Agenda, Cwestiwn i'r Panel gan A.T., Sir Gaerfyrddin

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O ran ymholiad y Panel i'r Swyddfa Gartref, hysbyswyd yr Aelodau na fyddai'r Swyddfa Gartref yn gwneud sylwadau mewn egwyddor ar gynnydd mewn aelodaeth annibynnol. Yn hytrach, roedd y Swyddfa Gartref wedi datgan y byddai'n rhaid i'r Panel recriwtio Aelodau Cyfetholedig ychwanegol ac wedyn ceisio cymeradwyaeth y Swyddfa Gartref ar gyfer penodiadau unigol. Dywedodd y Swyddog Arweiniol, gan na fyddai'r Panel yn gallu newid ei drefniadau aelodaeth heb gymeradwyaeth y Swyddfa Gartref mewn egwyddor, byddai hyn yn golygu rhoi unigolion drwy broses recriwtio heb wybod a fyddent yn cael eu penodi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL drefnu Aelodaeth Annibynnol yn eitem agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y Panel.

 

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD LES GEORGE

“Wrth imi fynychu gweithgareddau yn fy ward, daw pobl ataf yn rheolaidd i sôn am achosion difrifol ac annifyr o droseddau gwledig.

 

Dywedir wrthyf fod achosion parhaus o ddwyn da byw, dwyn cerbydau tir garw, a nifer cynyddol o achosion o dipio anghyfreithlon a phoeni defaid. Mae’r problemau hyn yn unig yn amharu ar fywydau pobl onest yn yr ardaloedd gwledig ond nawr maent hefyd yn profi fandaliaeth ddifrifol wedi’i threfnu gan grwpiau sy’n gwrthwynebu ffermio da byw.

 

Fel Comisiynydd, a allwch roi sicrwydd i’r Panel y byddwch yn sicrhau bod digon o gyllid ar gael i’r prif gwnstabl er mwyn mynd i’r afael â’r problemau hyn? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod y Prif Gwnstabl a’i swyddogion yn rhoi blaenoriaeth uchel i’r problemau hyn?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd Les George:

“Wrth fynychu gweithgareddau lawer yn fy ward, daw pobl i siarad â mi'n rheolaidd am achosion difrifol o droseddau gwledig sy'n peri cryn bryder.

 

Rhoddir gwybod i mi fod dwyn da byw a lladrata cerbydau addas ar gyfer pob math o dir yn arferion parhaus, a bod cynnydd yn yr achosion o dipio anghyfreithlon a phoenydio defaid, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'r problemau hyn ynddynt eu hunain yn amharu ar fywyd pobl radlon mewn ardaloedd gwledig, ond bellach maent hefyd yn gorfod ymdopi â fandaliaeth ddifrifol wedi'i threfnu gan grwpiau sy'n gwrthwynebu ffermio da byw.

 

Fel Comisiynydd a allwch roi sicrwydd i'r Panel y bydd cyllid digonol ar gael i'r Prif Gwnstabl fynd i'r afael â'r problemau hyn? Pa gamau byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod y Prif Gwnstabl a'i swyddogion yn rhoi blaenoriaeth uchel i'r problemau hyn?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

Dywedodd y Comisiynydd mai'r Prif Gwnstabl oedd Arweinydd Cymru mewn perthynas â throseddau bywyd gwyllt a materion gwledig a bod ganddo ddealltwriaeth drylwyr o'r problemau dan sylw. Roedd Strategaeth Troseddau Gwledig wedi cael ei lansio yn 2017 a ganolbwyntiai ar wella cyfathrebu dwy ffordd â chymunedau gwledig mewn ymateb i'r duedd a nodwyd o beidio â rhoi gwybod i'r Heddlu am droseddau. Roedd yr Heddlu hefyd wedi trefnu cyfarfodydd troseddau gwledig strategol yn y pedwar awdurdod unedol ac roedd croeso i aelodau'r Panel fynd iddynt. Yn ogystal, roedd yr Heddlu wedi sefydlu tîm troseddau gwledig arbenigol amser llawn ym mis Rhagfyr 2018, a oedd yn gweithio ochr yn ochr â thîm profiadol Gogledd Cymru. Pwysleisiodd y Comisiynydd y byddai'r Heddlu'n datblygu cydweithio pellach a'r gobaith oedd y byddai hynny yn y pen draw yn arwain at ymateb Cymru Gyfan i droseddau gwledig.  Un o lwyddiannau diweddar Tîm Troseddau Gwledig Dyfed-Powys, a oedd wedi cael sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd datgelu cyfleuster lladd anghyfreithlon gyda chymorth gwybodaeth dda yn y gymuned. Dywedodd y Comisiynydd ei fod yn dawel ei feddwl fod ymateb yr Heddlu i droseddau gwledig wedi gwella'n ddiweddar ond y byddai'n ceisio gwneud gwelliannau pellach yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i ymholiadau'r Panel, dywedodd y Comisiynydd fod y Tîm Troseddau Gwledig yn ymgysylltu â chymunedau ffermio lleol ynghylch atal troseddau a chymorth iechyd meddwl.

 

5.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL

“Sut bynnag y bydd y sefyllfa o ran Brexit yn datblygu dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf, mae nifer o uwch-swyddogion yr heddlu wedi rhybuddio y gallai fod cryn effaith ar heddluoedd ledled y DU, gan gynnwys tarfu ar drafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus a’r perygl o aflonyddwch sifil.  Beth ydych chi’n ei wneud fel Comisiynydd i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys mor barod ag y gall fod ar gyfer pob digwyddiad posibl, boed hynny’nBrexit heb fargen’ ddiwedd mis Mawrth, gohirio Brexit tan ryw ddyddiad yn y dyfodol, refferendwm arall neu ganslo Brexit hyd yn oed?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd gan fod y Cynghorydd William Powell wedi anfon ei ymddiheuriadau, byddai'n cael ymateb ysgrifenedig i'w gwestiwn. Darllenodd y Cadeirydd y cwestiwn ar ei ran.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd William Powell:

“Sut bynnag y bydd sefyllfa Brexit yn datblygu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, mae nifer o ffigurau amlwg o fewn yr Heddlu wedi rhybuddio y gallai fod effaith sylweddol ar Heddluoedd ledled y DU, gan gynnwys tarfu ar drafnidiaeth a gwasanaethau gwledig a'r perygl o aflonyddwch sifil. Beth ydych yn ei wneud fel Comisiynydd i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys mor barod ag y gall fod ar gyfer pob posibilrwydd, boed hynny'n 'Brexit heb ddêl' ar ddiwedd mis Mawrth, oedi Brexit tan rywbryd yn y dyfodol, refferendwm arall neu hyd yn oed canslo Brexit?

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

Ymateb y Comisiynydd oedd ei fod wedi cael diweddariadau rheolaidd gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol dros dro, a oedd yn cadeirio Fforwm Lleol Cymru Gydnerth. Roedd y fforwm yn cynnal ymarferion cynllunio penodol ar gyfer Brexit gyda phartneriaid. Dywedodd y Comisiynydd fod paratoadau Brexit yn enwedig yn hollbwysig o ran porthladdoedd Abergwaun a Phenfro. Dywedodd fod Gr?p Aur yr Heddlu a Grwpiau Tasgau a Chydgysylltu yn sicrhau bod adnoddau penodol ar gael yn ystod y cyfnod hanfodol ar ôl 29 Mawrth 2019 a bod cynllun galluogi'r Heddlu ar waith. Roedd y Comisiynydd yn hyderus fod yr Heddlu'n gwneud popeth yn ei allu i baratoi ar gyfer Brexit. Hefyd roedd yr Heddlu'n cyfrannu at y cynllunio yn y Ganolfan Gydlynu Genedlaethol ac wedi cael cyllid gan y Ganolfan ar gyfer swydd Prif Arolygydd i gydlynu paratoadau Brexit. Roedd y Comisiynydd yn cydnabod bod perygl y gellid mynd ag adnoddau o Ddyfed-Powys a'u hailddosbarthu i'r De-ddwyrain fel rhan o berthynas cymorth cydfuddiannol. Byddai ef yn cysylltu â'r Prif Gwnstabl ynghylch gweithgareddau lobïo ar y mater hwn.

 

5.3

CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE

“Mae adroddiadau diweddar wedi dangos bod rhai Comisiynwyr yn cyfeirio adnoddau tuag at droseddau ar lefel isel mewn ymateb i’r galw gan y cyhoedd, ar draul troseddau mwy difrifol a chyfundrefnol. A all y Comisiynydd roi sicrwydd bod cydbwysedd addas o ran dyrannu adnoddau Dyfed-Powys?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cwestiwn gan yr Athro Ian Roffe:

“Mae adroddiadau diweddar wedi nodi bod rhai Comisiynwyr yn cyfeirio adnoddau i droseddau lefel isel mewn ymateb i'r galw cyhoeddus, ar draul troseddau mwy difrifol a throseddau cyfundrefnol. All y Comisiynydd roi sicrwydd bod yr adnoddau a ddyrennir i Ddyfed-Powys yn addas gytbwys?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

Dywedodd y Comisiynydd fod adroddiadau yn y wasg, a oedd yn honni bod comisiynwyr yn anwybyddu troseddau difrifol a throseddau cyfundrefnol, wedi deillio'n bennaf o gyfweliad gan Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Yn dilyn hyn roedd llythyr wedi'i anfon at Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu lle roedd y Cyfarwyddwr Cyffredinol wedi egluro nad oedd y pennawd yn adlewyrchu'r cyfweliad roedd hi wedi ei roi mewn unrhyw fodd o gwbl. Roedd y Cyfarwyddwr Cyffredinol o'r farn fod troseddau difrifol a throseddau cyfundrefnol yn aml yn gudd ac y gallai troseddau ar lefel is felly gael eu hystyried gan y cyhoedd yn rhai â blaenoriaeth uwch ac nad oedd gorfodi'r gyfraith yn aros ar flaen y gad fel petai.

 

Dywedodd y Comisiynydd er taw gwaith y Prif Gwnstabl yn y pen draw oedd penderfynu sut oedd adnoddau yn cael eu defnyddio, roedd diogelu cymunedau rhag niwed difrifol a rhwystro troseddau difrifol a throseddau cyfundrefnol yn un o'r prif flaenoriaethau a bennwyd yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu (gweler Blaenoriaeth 3). Dywedodd y Comisiynydd hefyd ei fod yn cwrdd bob chwarter â Rheolwyr y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a bod ei staff yn cael gwybodaeth am ymagwedd yr Heddlu at y problemau hyn o ran Byrddau Troseddau Difrifol a Throseddau Cyfundrefnol yn y pedwar awdurdod unedol. Dywedodd y Comisiynydd fod diweddariad ar waith proffil galw'r Heddlu, a oedd yn dadansoddi lle roedd adnoddau'n cael eu defnyddio, wedi rhoi sicrwydd iddo fod yr adnoddau'n addas gytbwys. Byddai'r Gr?p Prif Swyddogion yn parhau i asesu'r cydbwysedd hwn mewn ymgynghoriad ag Uwch-swyddogion a byddai'r gwaith galw yn cael ei ailadrodd eto o fewn y flwyddyn galendr.

 

6.

CWESTIWN Â RHYBUDD I'R COMISIYNYDD GAN P.D.R. O SIR GAERFYRDDIN

“Pan oeddwn wedi ceisio cwyno i Heddlu Dyfed-Powys yn ddiweddar ynghylch twyll gwerth miliynau o bunnoedd oedd yn digwydd yn yr ardal, cefais fy nghyfeirio at Action Fraud. A yw hyn yn golygu nad oes gan Heddlu Dyfed-Powys adnoddau i ymchwilio i droseddau o’r fath?” Beth mae’r Comisiynydd yn ei wneud i sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys yr adnoddau priodol i ddiogelu ei drigolion rhag twyll o’r fath?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cwestiwn gan P.D.R:

“Pan geisiais gwyno yn ddiweddar i Heddlu Dyfed-Powys am achos o dwyll gwerth miliynau o bunnoedd oedd yn digwydd yn yr ardal, cefais fy nghyfeirio i Action Fraud. A yw hyn yn golygu nad oes gan Heddlu Dyfed-Powys yr adnoddau i ymchwilio i droseddau o'r fath? Beth mae'r Comisiynydd yn ei wneud i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cael yr adnoddau priodol i ddiogelu trigolion rhag twyll o'r fath?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

Eglurodd y Comisiynydd fod cyfeirio achosion o dwyll er mwyn i Action Fraud eu dadansoddi a'u hasesu yn ofynnol yn ôl polisi cenedlaethol, ac felly nid oedd yn golygu bod diffyg adnoddau i ymchwilio i droseddau o'r fath yn Nyfed-Powys. Dywedodd fod y rhan fwyaf o droseddau twyll yn cael eu cyflawni'r tu allan i ardal Dyfed-Powys, ac wedi rhoi gwybod i Action Fraud amdanynt, byddid naill ai'n ymchwilio iddynt ar lefel genedlaethol neu'n eu hanfon ymlaen i'r Heddlu lle mae'r drwgweithredwyr. Dim ond pecynnau adroddiadau am droseddau twyll a gyflawnwyd yn ardal Dyfed-Powys yr oedd Heddlu Dyfed-Powys yn eu cael. Dywedodd y Comisiynydd ei fod yn cael trafodaethau mynych â'r Prif Gwnstabl mewn perthynas ag ariannu'r Tîm Twyll a'i fod wedi defnyddio arian yn sgil fforffedu ac elw gweithgarwch troseddu i ariannu swyddi ychwanegol o fewn yr uned ymchwilio i dwyll. Yn ogystal, roedd wedi cefnogi tîm Operation Signature, a oedd yn gweithio gyda'r diwydiant bancio ac wedi diogelu dros £1m yn ardal Dyfed-Powys o fewn deuddeg mis ar ôl cael ei sefydlu.

 

7.

ARIANNU TEG AR GYFER PLISMONA GWLEDIG pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel adroddiad am gyllid ar gyfer plismona gwledig a baratowyd gan y Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol ar y cyd â Phrifysgol Plymouth. Rhoddwyd gwybod i'r Panel mai sefydliad o Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a rhanddeiliaid gwledig eraill oedd y Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol a'i nod oedd gwella plismona gwledig a'r trefniadau cyllid oedd mewn bodolaeth gan y llywodraeth ganolog. Roedd yr adroddiad yn ystyried sut oedd gwahanol fformiwlâu cyllido yn effeithio ar heddluoedd gwahanol ac wedi gwneud argymhellion ynghylch trefniadau cyllido y dyfodol. Dywedwyd wrth y Panel fod yr adroddiad wedi cael ei gynnwys ar yr agenda i roi gwybodaeth gefndir cyn trafod Praesept yr Heddlu (Eitem Agenda 8).

 

Nododd y Comisiynydd er ei fod yn gefnogol i ganfyddiadau'r adroddiad, roedd yr adroddiad yn hen ac yn dibynnu ar ddata o 2015-16. Dywedodd y gallai adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol am ariannu'r heddlu, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2018, ddarparu gwybodaeth fwy cyfredol o bosibl mewn perthynas â'r Praesept. Awgrymodd fod y ddau adroddiad yn feirniadol iawn o ymagwedd bresennol y Swyddfa Gartref at ariannu plismona gwledig a phlismona'n fwy cyffredinol.

 

Mewn perthynas â sylwadau am wasanaethau'r heddlu nad oeddent yn ymwneud â throseddau megis diogelu unigolion agored i niwed, dywedodd y Comisiynydd fod y gwasanaethau hyn mewn perygl o bosibl dan y setliadau cyllido presennol.

 

Gwnaed nifer o sylwadau a awgrymai fod yr adroddiad yn dangos bod y fformiwla cyllido bresennol yn amhriodol ac y dylid gwneud sylwadau i'r Swyddfa Gartref er mwyn tynnu sylw at hyn ac i sicrhau bod yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant a'r adolygiad o fformiwla cyllido'r heddlu yn cael eu llywio gan arbenigedd annibynnol. Awgrymwyd y gellid gwahodd Panelau Heddlu a Throseddu eraill Cymru i fod yn rhan o hyn. Dywedodd y Comisiynydd y byddai ei Swyddfa yn cefnogi unrhyw weithgaredd i'r perwyl hwn a bod y Swyddfa eisoes yn gwneud gwaith lobïo tebyg drwy Gymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Dywedodd y byddai sylwadau gan y Panel yn amserol gan fod Cam 1 yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ar waith ar hyn o bryd, gyda'r canlyniadau'n ddisgwyliedig yr hydref hwn, ac roedd Cam 2 y fformiwla cyllido ddiwygiedig ar waith ar hyn o bryd, gyda'r canlyniadau'n ddisgwyliedig y flwyddyn ganlynol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

7.1.    Nodi'r adroddiad Ariannu Teg ar gyfer Plismona Gwledig;

7.2.    Gwneud sylwadau i'r Swyddfa Gartref gan dynnu sylw at broblemau'r  trefniadau ariannu cyfredol ar gyfer plismona gwledig ac annog defnyddio arbenigedd arbenigol i lywio'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ac i lywio'r gwaith o adolygu fformiwla cyllido'r heddlu.

 

8.

PRAESEPT YR HEDDLU pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Comisiynydd ei adroddiad am braesept arfaethedig yr heddlu ar gyfer 2019/20 i'r Panel. Dywedwyd wrth y Panel y gallai wneud y penderfyniad naill ai i gymeradwyo, gwrthod, neu roi feto i'r praesept arfaethedig yn y cyfarfod, ac ar ôl hynny byddai'n rhaid iddo roi gwybod i'r Comisiynydd am ei benderfyniad. Gallai'r penderfyniad i gymeradwyo neu wrthod gael ei wneud gan fwyafrif syml ond roedd yn rhaid i bleidlais feto gael ei gwneud gan fwyafrif o ddwy ran o dair o aelodaeth y Panel cyfan. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid i bob un o'r deg aelod o'r panel oedd yn bresennol yn y cyfarfod gefnogi'r feto. Dywedwyd pe bai'r Panel yn dewis rhoi feto ni fyddai'r Comisiynydd yn gallu cyflwyno'r praesept arfaethedig a byddai'n rhaid iddo gyhoeddi ymateb i adroddiad y Panel, gan nodi praesept arfaethedig arall, erbyn 15fed Chwefror 2019. Ni fyddai'r Panel yn gallu rhoi feto i'r praesept arfaethedig diwygiedig, dim ond penderfynu ei gymeradwyo neu ei wrthod.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn tybio gostyngiad o £7.9m yn y grant canolog ond yn y pen draw yn dibynnu ar ffigur hollbwysig a oedd yn anhysbys, gan y byddai fformiwla cyllido newydd yn dod i rym yn 2021/22. Pwysleisiodd fod Heddlu Dyfed-Powys wedi colli £14m (22%) mewn cyllid craidd ers yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn 2010 ac mai gan Heddlu Dyfed-Powys oedd y lefelau praesept isaf yng Nghymru. Dywedodd fod penderfyniad blaenorol i ostwng y praesept 5% ac yna rhewi'r praesept wedi arwain at ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn, a oedd wedi wynebu pwysau ychwanegol sylweddol yn ddiweddar gan setliad cyflogau'r Swyddfa Gartref a'r costau oedd ynghlwm wrth ymchwilio i dân Llangamarch.

 

Dywedodd y Comisiynydd ei fod wedi ymgynghori â'r cyhoedd ac wedi trafod yn fanwl gynlluniau'r Prif Gwnstabl ar gyfer lefelau staffio, gwasanaethau'r heddlu ac anghenion buddsoddi yn y dyfodol wrth gytuno ar gyllideb yr Heddlu ar gyfer 2019/20. Dywedodd fod elfennau craidd y gyllideb wedi arwain ato'n argymell praesept yr heddlu o £55.247m, gydag eiddo'r dreth gyngor Band D arferol yn talu £248.56, lefel 10.7% yn uwch na lefel 2018/19. Pe cai ei dderbyn gan y Panel, byddai'n arwain at gyfanswm cyllideb o £106.897m o'i gyfuno â chyllid canolog a chyllid lleol.

 

Yn dilyn datganiad y Comisiynydd, cafwyd cyflwyniad gan arweinydd ariannol y Panel ynghylch sut oedd y Panel wedi Craffu ar adroddiad Praesept yr Heddlu 2019/20.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/materion a godwyd ynghylch adroddiad y Comisiynydd:

 

-        Dywedwyd bod cynnig y Comisiynydd yn argymell cynnydd mawr iawn yn y praesept,  y byddai'n rhaid i nifer go fechan o'r talwyr praesept dalu amdano. Gallai'r cyflogau cymharol isel a'r gweithgarwch economaidd isel yn ardal Dyfed-Powys ei gwneud yn anodd i rai unigolion godi'r incwm ychwanegol hwn.

-        Gwnaed sylw bod y defnydd o Fand D fel band sampl yn gamarweiniol gan fod y band cyfartalog ar gyfer eiddo ym Mhowys yn uwch a byddai'n rhaid i rai pobl dalu £56 y flwyddyn yn ychwanegol.

-        Mewn ymateb  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er gwybodaeth, cafodd y Panel adroddiad a fanylai ar y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ystod y cyfnod 12 Tachwedd 2018 - 15 Ionawr 2019.

 

Mewn ymateb i gais, cytunodd y Comisiynydd i ddarparu adroddiad ar y Fforwm Ieuenctid oedd newydd ei sefydlu a'r ymagwedd newydd o ran ymgysylltu ag ieuenctid cyn gynted ag y byddai data ystyrlon ar gael. Rhoddodd wybod mai'r amser tebygol ar gyfer gwneud hyn fyddai chwe mis.

 

O ran caffael, dywedodd y Comisiynydd fod contractau'n cael eu dyfarnu'n lleol lle roedd hynny'n bosibl a bod Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio proses gaffael gwerthwchigymru. Fodd bynnag roedd pwysau cynyddol i flaenoriaethu gwerth am arian yn sgil toriadau diweddar. Cytunodd y Comisiynydd i gysylltu â'r Finance Gold Group i geisio darparu data am faint o wariant yr Heddlu oedd yn cael ei wario yn ardal Dyfed-Powys.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd fod gan Heddlu Dyfed-Powys ei Dîm Gwasanaethau Cyfreithiol ei hun ond ei fod weithiau'n defnyddio cyngor cyfreithiol allanol arbenigol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

COFNODI DATA TROSEDDAU - ADRODDIAD GAN AROLYGIAETH CWNSTABLIAETH A GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB EI MAWRHYDI pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel adroddiad ar uniondeb data troseddau gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018. Dywedwyd wrth y Panel fod yr adroddiad wedi'i seilio ar archwilio adroddiadau troseddau o Hydref 2017 i Fawrth 2018. Canfu'r adroddiad, er bod cofnodi troseddau gan yr Heddlu wedi gwella'n gyffredinol ers yr arolygiad diwethaf yn 2014, fod angen gwneud rhagor o welliannau gan gynnwys troseddau rhyw, troseddau'r drefn gyhoeddus a throseddau treisgar, yn enwedig cam-drin domestig.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod yr Heddlu wedi cymryd camau sylweddol tuag at wella cofnodi troseddau ac yn anelu at gyfradd cofnodi troseddau gyffredinol o 95%. Byddai'n ystyried cyflwyno tendr ar gyfer system rheoli cofnodi newydd i'r Heddlu o fewn y deuddeg mis nesaf.

 

Cwestiynwyd y datganiad yn yr adroddiad fod tîm y Prif Swyddogion yn gymharol newydd, o gofio y byddai'r Prif Swyddogion wedi bod yn eu rôl am o leiaf 18 mis adeg yr arolygiad. Dywedodd y Comisiynydd er bod hyn yn adleisio tuedd ehangach o Brif Swyddogion yn ymddeol yn gynharach ar draws holl heddluoedd Cymru a Lloegr, ni fyddai'n disgrifio tîm sydd wedi bod yn ei le am 18 mis fel un newydd. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Comisiynydd fod newidiadau i lwfansau blynyddol mewn perthynas â'r pot pensiynau yn brif ysgogydd o ran y duedd i ymddeol yn gynharach.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.