Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Gwener, 18fed Mai, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Committee Room 2, County Hall, Haverfordwest

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Edwards (Cyngor Sir Ceredigion), L. George (Cyngor Sir Powys), K. Howell (Cyngor Sir Caerfyrddin) a M. James (Cyngor Sir Penfro).

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

COFNODION pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfodydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 26 Ionawr, 2018 a 16 Chwefror 2018 yn gofnodion cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD:

4.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD A. LLOYD JONES:

"Mae strategaeth y llywodraeth sy'n ymwneud â Thrais Difrifol a gyhoeddwyd yn Ebrill 2018 yn trafod nifer o ffactorau y credir eu bod yn cyfrannu at y lefelau o drais difrifol yn ein cymunedau. Yn benodol ar dudalennau 29-30 mae'r strategaeth yn trafod y cysylltiadau rhwng yfed alcohol, safleoedd trwyddedig a thrais difrifol. Er ei bod yn ymddangos o'r data yn y strategaeth fod yr achosion o ran trais difrifol yn Nyfed-Powys yn gymharol isel, a all y Comisiynydd gadarnhau pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran datblygu ymateb ar y cyd i droseddau sy'n ymwneud ag alcohol, a hyrwyddo economi hwyr y nos fwy diogel fel y cyfeirir ati ym Mlaenoriaeth 1 yn y Cynllun Heddlu a Throseddu a darparu copi o'r ymateb ar y cyd hwnnw i'r Panel?"

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd A. Lloyd Jones:

"Mae strategaeth y llywodraeth sy'n ymwneud â Thrais Difrifol a gyhoeddwyd yn Ebrill 2018 yn trafod nifer o ffactorau y credir eu bod yn cyfrannu at y lefelau o drais difrifol yn ein cymunedau. Yn benodol ar dudalennau 29-30 mae'r strategaeth yn trafod y cysylltiadau rhwng yfed alcohol, safleoedd trwyddedig a thrais difrifol. Er ei bod yn ymddangos o'r data yn y strategaeth fod yr achosion o ran trais difrifol yn Nyfed-Powys yn gymharol isel, a all y Comisiynydd gadarnhau pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran datblygu ymateb ar y cyd i droseddau sy'n ymwneud ag alcohol, a hyrwyddo economi hwyr y nos fwy diogel fel y cyfeirir ati ym Mlaenoriaeth 1 yn y Cynllun Heddlu a Throseddu a darparu copi o'r ymateb ar y cyd hwnnw i'r Panel?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

"Lansiwyd Strategaeth y llywodraeth sy'n ymwneud â Thrais Difrifol ym mis Ebrill 2018, i ddarparu cymorth i'r Heddlu mewn ymateb i'r cynnydd mewn Troseddau Treisgar. Diolch byth, mae nifer yr achosion o droseddau treisgar difrifol yn isel yn ardal Dyfed Powys; fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu ein bod yn ddiogel rhag y problemau hyn. Yr wythnos hon, cefais ddiweddariad gan y Swyddfa Gartref ynghylch y strategaeth a dywedwyd wrthyf y bydd cronfa ychwanegol o £11 miliwn ar gael i'r heddlu wneud cynnig amdani er mwyn cynorthwyo'r gwaith o gyflwyno'r strategaeth hon. Mae'n werth nodi, fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, credaf fod y strategaeth hon yn bennaf ar gyfer ardaloedd trefol mewn ymateb i'r cynnydd sylweddol mewn troseddau treisgar difrifol a llofruddiaethau yn Llundain.Mae gan Heddlu Dyfed-Powys ddull partneriaeth amlochrog ar gyfer mynd i'r afael ag anrhefn sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn lleol. Er enghraifft, mae gwaith swyddogion trwyddedu ein sir ar y cyd â'r pedwar Awdurdod Unedol, a'r mentrau megis y Noson Fawr Allan lle cafwyd adnoddau ychwanegol dros gyfnod y Nadolig, yn dangos bod Heddlu Dyfed-Powys yn ymateb yn rhagweithiol. Mae hefyd yn werth nodi'r holl waith caled y mae'r swyddogion cyswllt cymunedol ac ysgol yn ei gyflawni a'r effaith y maent yn ei chael ar bobl ifanc. Mae'r swyddogion hyn yn darparu cwricwlwm safonol ledled Cymru gan drosglwyddo negeseuon ynghylch diogelwch personol yn ogystal â pheryglon camddefnyddio alcohol a sylweddau. Fodd bynnag mae'n peri pryder bod awgrym y bydd Llywodraeth Cymru yn tynnu'r cyllid yn ôl o'r Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan o fis Ebrill 2019 ymlaen. Rwy'n lobïo ochr yn ochr â'r tri Comisiynydd Heddlu a Throseddu eraill yng Nghymru i geisio dylanwadu ar safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn, er hynny, nid yw'r negeseuon diweddar a gafwyd gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Iechyd yn dangos bod y Llywodraeth yn ystyried newid ei safbwynt ynghylch y mater hwn. Buddsoddwyd hefyd mewn technoleg. Er enghraifft, fel rhan o'r rhaglen gyfalaf, cefnogais y buddsoddiad mewn dros 800 o gamerâu fideo a wisgir ar y corff ar gyfer swyddogion mewn lifrai. Ers i'r swyddogion wisgo'r camerâu hyn,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.1

4.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD A. LLOYD JONES:

"Ar dudalen 69 o strategaeth y llywodraeth sy'n ymwneud â Thrais Difrifol a gyhoeddwyd yn Ebrill 2018 cyfeirir at ba mor bwysig yw gweithio i feithrin gwytnwch yn erbyn trais mewn cymunedau lleol. Mae'r strategaeth yn benodol yn cyfeirio at bwysigrwydd gweithio gyda phobl ifanc er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o'r risgiau yn sgil cario cyllell a'r peryglon y gallai hynny eu peri. A yw'r Comisiynydd yn gallu rhoi gwybod i'r Panel pa gynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas ag elfennau o Flaenoriaeth 2 yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu sy'n benodol yn ymwneud â datblygu rhaglenni atal wedi'u targedu ar gyfer pobl ifanc a darparu cyllid i brosiectau dargyfeirio i'r ieuenctid?”

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd A. Lloyd Jones:

"Ar dudalen 69 o strategaeth y llywodraeth sy'n ymwneud â Thrais Difrifol a gyhoeddwyd yn Ebrill 2018 cyfeirir at ba mor bwysig yw gweithio i feithrin gwytnwch yn erbyn trais mewn cymunedau lleol. Mae'r strategaeth yn benodol yn cyfeirio at bwysigrwydd gweithio gyda phobl ifanc er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o'r risgiau yn sgil cario cyllell a'r peryglon y gallai hynny eu peri. A yw'r Comisiynydd yn gallu rhoi gwybod i'r Panel pa gynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas ag elfennau o Flaenoriaeth 2 yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu sy'n benodol yn ymwneud â datblygu rhaglenni atal wedi'u targedu ar gyfer pobl ifanc a darparu cyllid i brosiectau dargyfeirio i'r ieuenctid?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

"Yn bersonol, rwyf yn gwerthfawrogi'r prosiectau dargyfeirio i'r ieuenctid a chredaf fod y dystiolaeth ar gyfer y gweithgaredd hwn yn gryf. Rwyf yn falch o'r cyllid ychwanegol rwyf yn ei ddarparu i gefnogi eu gwaith yn ein cymunedau. Darperir £45,000 i bob un o dimau Troseddu Ieuenctid y sir (cyfanswm o £180,000 y flwyddyn), sy'n cyfateb i oddeutu 30% o'r cyllid ar gyfer eu rhaglen ymyriadau ar hyn o bryd. Rwyf yn cwrdd â rheolwyr pob Awdurdod Unedol yn chwarterol, ac maent yn darparu gwybodaeth er mwyn mesur gwerth y buddsoddiad hwnnw a gwerth ychwanegol yr ymyriadau. Diben y buddsoddiad hwn gan fy swyddfa yw cael effaith gadarnhaol ar y galw ar y swyddogion a staff rheng flaen drwy leihau'r angen i ymateb i fân droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r Timau Troseddu Ieuenctid yn ystyried cyfleoedd i weithio gyda'i gilydd yn strategol lle bo modd, a rhannu arferion gorau gyda fy nghefnogaeth i, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.Yn ogystal â hyn, mae Swyddogion Cymuned Ysgol Heddlu Dyfed-Powys yn chwarae rôl ganolog o ran darparu cyswllt rhwng ysgolion a cholegau'r ardal, a'r heddlu. Mae'r cwricwlwm yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o Drais Domestig a'r angen i hysbysu'r heddlu am fater yn gynnar, y peryglon sydd ynghlwm wrth gamddefnyddio sylweddau, a cham-fanteisio rhywiol. Credaf mai dyma sylfaen ein hymgysylltiad â phobl ifanc, ac felly rwy'n lobïo Llywodraeth Cymru i geisio sicrhau cyllid parhaus ar gyfer y Rhaglen Gyswllt Ysgolion. Os bydd Llywodraeth Cymru yn tynnu y cyllid yn ôl ar gyfer y rhaglen, byddai'n golygu gostyngiad o £1.89 miliwn o ran gwasanaethau plismona.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ei ymdrechion i geisio sicrhau cyllid parhaus o Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Gyswllt Ysgolion.

 

4.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD K. EVANS:

“Yn y misoedd diwethaf rydym wedi gweld yr hyn sy'n ymddangos yn gynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau a'r trychinebau yn ardal yr Heddlu. Mae'r rhain yn amrywio o ddamweiniau ffyrdd i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â thân a bywydau'n cael eu colli heb eglurhad. A yw'r Comisiynydd yn fodlon bod gan yr Heddlu y sgiliau priodol a digon o Swyddogion arbenigol i fynd i'r afael â'r archwiliadau amrywiol hyn y mae iddynt yn aml nifer o agweddau?”

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd K. Evans:

“Yn y misoedd diwethaf rydym wedi gweld yr hyn sy'n ymddangos yn gynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau a'r trychinebau yn ardal yr Heddlu. Mae'r rhain yn amrywio o ddamweiniau ffyrdd i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â thân a bywydau'n cael eu colli heb eglurhad. A yw'r Comisiynydd yn fodlon bod gan yr Heddlu y sgiliau priodol a digon o Swyddogion arbenigol i fynd i'r afael â'r archwiliadau amrywiol hyn y mae iddynt yn aml nifer o agweddau?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

"Mae ymdrin â marwolaeth a thrychineb yn realiti anffodus i'r rhai sy'n gweithio ar gyfer Gwasanaeth yr Heddlu.  Bydd gan bob swyddog heddlu a rhai aelodau o staff yr heddlu brofiad o ymdrin â marwolaeth a thrychineb.  Ar ddiwedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yr wythnos hon, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod yr effaith bersonol y mae hyn yn ei chael ar y swyddogion a'r staff hynny, a all fod yn sylweddol ar brydiau. Yr wythnos hon rwyf wedi mynd i ddigwyddiad a gynhaliwyd ym Mhencadlys yr Heddlu yn Sir Gaerfyrddin fel rhan o'r sioe deithiol wythnos o hyd, i ddangos fy nghefnogaeth.

Defnyddir arbenigwyr yn ôl y math o ddigwyddiad neu ymchwiliad sydd wedi digwydd.  Mae gan yr heddlu nifer o Swyddogion Cyswllt â Theuluoedd sydd yn bennaf yn ymchwilwyr sy'n cefnogi aelodau teuluoedd ac yn darparu cyswllt uniongyrchol i dîm ymchwilio. Gall Swyddogion Cyswllt â Theuluoedd arbenigo mewn Marwolaethau ar y Ffordd neu Ddynladdiadau ac rwyf wedi cael adborth personol ar y rôl gadarnhaol y maent yn ei chyflawni. Mae'r gan yr Heddlu hefyd Uwch-swyddogion Ymchwilio hyfforddedig sy'n gyfrifol am oruchwylio yr achosion mwyaf difrifol sy'n digwydd yn ogystal ag Ymchwilwyr Gwrthdrawiadau Fforensig arbenigol.Yn ogystal â'r adnoddau sydd ar gael yn yr Heddlu, mae adnoddau hefyd ar gael drwy'r broses o 'gymorth cydfuddiannol' sy'n galluogi'r Heddlu i ofyn am adnoddau arbenigol o lefydd eraill. Mae trefniadau cymorth cydfuddiannol ar waith ledled Cymru a Lloegr ac maent yn ein galluogi ni i gynyddu'r adnoddau sydd ar gael er mwyn ymateb pan fo digwyddiadau gweithredol anarferol yn digwydd. Rwyf wedi trafod y mater â'r Prif Gwnstabl, sydd wedi rhoi sicrwydd i mi ei fod yn fodlon bod ganddo ddigon o adnoddau arbenigol er mwyn ymateb ac ymchwilio i droseddau a digwyddiadau difrifol sy'n gallu digwydd ar draws ardal yr Heddlu."

 

4.4

CWESTIWN GAN YR ATHRO I. ROFFE:

“Mae'r Comisiynydd wedi nodi ei fwriad i wella perfformiad gwasanaeth Heddlu Dyfed-Powys. Roedd yr adroddiad PEEL diweddar: Effeithiolrwydd yr Heddlu (gan gynnwys arweinyddiaeth) 2017 ar gyfer Heddlu Dyfed Powys wedi rhoi cipolwg o safbwynt Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi ar berfformiad yr Heddlu. Mae elfennau cadarnhaol yn bresennol megis dealltwriaeth o'r galw a'r ardaloedd a aseswyd fel rhai y mae angen eu gwella – megis cynllunio ar gyfer y galw yn y dyfodol a'r angen am archwiliad o sgiliau ac ati. Gwerthfawrogir y bu’n rhaid sicrhau arbedion angenrheidiol o ran staff yr heddlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, a fyddai modd i'r Comisiynydd egluro sut y bydd yn sicrhau bod y pwyntiau gweithredu a nodir yn Adroddiad Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn cael sylw?”

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan yr Athro Ian Roffe:

"Mae'r Comisiynydd wedi nodi ei fwriad i wella perfformiad gwasanaeth Heddlu Dyfed-Powys. Roedd yr adroddiad PEEL diweddar: Effeithiolrwydd yr Heddlu (gan gynnwys arweinyddiaeth) 2017 ar gyfer Heddlu Dyfed Powys wedi rhoi cipolwg o safbwynt Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi ar berfformiad yr Heddlu. Mae elfennau cadarnhaol yn bresennol megis dealltwriaeth o'r galw a'r ardaloedd a aseswyd fel rhai y mae angen eu gwella – megis cynllunio ar gyfer y galw yn y dyfodol a'r angen am archwiliad o sgiliau ac ati. Gwerthfawrogir y bu’n rhaid sicrhau arbedion angenrheidiol o ran staff yr heddlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, a fyddai modd i'r Comisiynydd egluro sut y bydd yn sicrhau bod y pwyntiau gweithredu a nodir yn Adroddiad Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn cael sylw?

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

"I ddechrau mae'n werth nodi'r cynnydd cadarnhaol y mae'r Heddlu wedi'i wneud yn ystod arolygiadau PEEL diweddar yr Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Mawrhydi. Mae dau o'r tri arolwg diwethaf wedi dod i'r casgliad bod yr Heddlu wedi symud o radd 'Angen Gwella' i radd 'Da' a hoffwn bwysleisio eto mai fy uchelgais yw gweld Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau gradd 'Rhagorol'. Mae'r newid hwn o ran perfformiad yn rhannol oherwydd fy mod wedi blaenoriaethu gweithgaredd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi yn y Cynllun Heddlu a Throseddu ac yn bwysicach oll, oherwydd y tîm arweinyddiaeth. Mae'r Dirprwy Brif Gwnstabl, Darren Davies, yn arbennig wedi cymryd cyfrifoldeb personol am ei waith. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd Gr?p Llywodraethu Cwnstabliaeth ei Mawrhydi Heddlu Dyfed-Powys. Yn y cyfarfodydd hyn, y mae tîm arweinyddiaeth yr Heddlu, dan gymorth a chyfarwyddyd y Dirprwy Brif Gwnstabl, yn goruchwylio holl argymhellion arfaethedig Arolygydd Cwnstabliaeth ei Mawrhydi ac yn goruchwylio'r paratoadau ar gyfer arolygiadau'r dyfodol. Mae strwythur llywodraethu newydd yr Heddlu yn cefnogi gwell cyfathrebu a pherchnogaeth dros argymhellion Arolygydd Cwnstabliaeth ei Mawrhydi, ac mae pob argymhelliad yn cael ei neilltuo i'r gr?p llywodraethu perthnasol er mwyn rhoi sylw iddo. Mae sicrhau llinellau atebolrwydd mwy eglur a chyfnewid gwybodaeth yn sicrhau bod gweithrediadau a phenderfyniadau yn cael eu gwneud ar y lefel briodol. Mae tîm Llywodraethu a Pherfformiad newydd yr Heddlu yn cynorthwyo'r gwaith o gydlynu ac mae fy swyddfa yn gweithio'n agos gyda'r tîm i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw gynnydd, camau gweithredu a phroblemau yn gynnar yn y broses. Rwyf hefyd yn cwrdd yn rheolaidd â swyddogion Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi ac rwyf yn llwyr barchu gwerth ychwanegol eu trefn archwilio."

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL longyfarch y Prif Gwnstabl ar gynnydd yr Heddlu a'i berfformiad.

 

4.5

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD M. JAMES:

"A all y Comisiynydd gadarnhau a oes gan Heddlu Dyfed-Powys ddata ystadegol yn debyg i'r data a nodwyd yn adroddiad Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ym mis Chwefror 2018 ynghylch poeni da byw, ac os yw'r data ganddo, a all ddarparu'r data hwnnw? Yn arbennig:

Am y cyfnod rhwng 01/09/13 a 31/08/17

1. Nifer yr achosion cofnodedig o boeni da byw yn ardal yr heddlu

2. Nifer yr achosion cofnodedig o dda byw a laddwyd o ganlyniad i ddigwyddiadau o'r fath

3. Nifer yr achosion cofnodedig o dda byw a anafwyd o ganlyniad i ddigwyddiadau o'r fath

4. Nifer yr achosion cofnodedig lle saethwyd y ci a oedd yn troseddu

5. Nifer yr achosion cofnodedig lle nad oedd perchennog y ci yn bresennol

6. Nifer yr achosion cofnodedig lle'r oedd y ci/perchennog yn gysylltiedig â digwyddiad tebyg o'r blaen

7. Colled ariannol gofnodedig yn deillio o ladd/anafu da byw

8. Cyfanswm y dirwyon a roddwyd gan y llysoedd i berchnogion a oedd wedi troseddu

 

A oes angen newid Strategaeth Troseddau Gwledig y Comisiynydd i roi sylw penodol i'r mater ynghylch poeni da byw, o ystyried nad yw'n sôn am y mater ar hyn o bryd?"

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd M. James:

"A all y Comisiynydd gadarnhau a oes gan Heddlu Dyfed-powys ddata ystadegol yn debyg i'r data a nodwyd yn adroddiad Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ym mis Chwefror 2018 ynghylch poeni da byw, ac os yw'r data ganddo, a all ddarparu'r data hwnnw? Yn arbennig:

Ar gyfer y cyfnod rhwng 01/09/13 a 31/08/17

1. Nifer yr achosion cofnodedig o boeni da byw yn ardal yr heddlu

2. Nifer yr achosion cofnodedig o dda byw a laddwyd o ganlyniad i ddigwyddiadau o'r fath

3. Nifer yr achosion cofnodedig o dda byw a anafwyd o ganlyniad i ddigwyddiadau o'r fath

4. Nifer yr achosion cofnodedig lle saethwyd y ci a oedd yn troseddu

5. Nifer yr achosion cofnodedig lle nad oedd perchennog y ci yn bresennol

6. Nifer yr achosion cofnodedig lle'r oedd y ci/perchennog yn gysylltiedig â digwyddiad tebyg o'r blaen

7. Colled ariannol gofnodedig yn deillio o ladd/anafu da byw

8. Cyfanswm y dirwyon a roddwyd gan y llysoedd i berchnogion a oedd wedi troseddu

 

A oes angen newid Strategaeth Troseddau Gwledig y Comisiynydd i roi sylw penodol i'r mater ynghylch poeni da byw, o ystyried nad yw'n sôn am y mater ar hyn o bryd?"

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

"Nid yw achosion o boeni da byw yn droseddau hysbysadwy felly nid yw gwybodaeth yr heddlu am nifer yr achosion ar gael yn rhwydd.  Yr unig ffordd o gasglu data fyddai drwy ddadansoddi data unigol y system Gorchymyn a Rheoli (System ar gyfer Rheoli Adnoddau Gweithredol a Thasgau) a fyddai'n cymryd tua 2000 o oriau (cafwyd y wybodaeth o Gais Rhyddid Gwybodaeth blaenorol). Fodd bynnag mae'r heddlu yn gallu dweud y bu 13 o erlyniadau yn ystod y 5 mlynedd diwethaf o ran troseddau poeni da byw.  O blith y 13 o erlyniadau, gosodwyd cyfanswm o £2525 mewn dirwyon.  Yn ogystal â'r dirwyon, dyfarnwyd iawndal o £2975.43 i'r dioddefwyr; roedd cyfanswm o £325 o ran gordal dioddefwr a £1810 o ran y costau. Yn gynharach eleni, cymerodd y Prif Gwnstabl, Mark Collins, ran mewn cyfweliad radio ar Heart FM i godi ymwybyddiaeth am droseddau poeni da byw a'r gwaith sy'n cael ei gyflawni yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â'r mater. Y Prif Gwnstabl yw arweinydd Cymru dros Droseddau Bywyd Gwyllt a Materion Gwledig ac mae'n gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol a'r Gwasanaeth Tân.  Mae darparu gwasanaeth cydradd i gymunedau ynysig yn flaenoriaeth i'r Prif Gwnstabl ac mae'r flaenoriaeth hon yn rhan o'r Strategaeth Troseddau Gwledig a lansiwyd ar ddiwedd 2017 gyda chymorth arweinwyr cymunedol lleol ac undebau amaethyddol. Byddaf yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cael ei datblygu'n rhywbeth ymarferol ar gyfer ein cymunedau ffermio lleol."

 

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU O'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD:

5.1

CWESTIWN GAN J. ELLIS:

“Yng ngoleuni ymrwymiad y Comisiynydd ar dudalen 12 yn y Cynllun Heddlu a Throseddu ynghylch diogelwch ffyrdd, ydy e'n cytuno â galwad yr AS Jessica Morden i greu corff annibynnol ledled y DU i roi cymorth i swyddogion sy'n ymchwilio i ddamweiniau ffyrdd, nodi tueddiadau a rhannu gwersi a ddysgwyd o ymchwiliadau unigol. Os ydyw'n cytuno beth fydd e'n ei wneud i helpu i weithredu hyn? Os nad ydyw'n cytuno â Ms Morden, all e egluro pam na?”

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan J. Ellis:

"Yng ngoleuni ymrwymiad y Comisiynydd ar dudalen 12 yn y Cynllun Heddlu a Throseddu ynghylch diogelwch ffyrdd, a ydyw'n cytuno â phenderfyniad yr AS Jessica Morden i greu corff annibynnol ledled y DU i roi cymorth i swyddogion sy'n ymchwilio i ddamweiniau ffyrdd, nodi tueddiadau a rhannu gwersi a ddysgwyd o ymchwiliadau unigol. Os ydyw'n cytuno beth fydd e'n ei wneud i helpu i weithredu hyn? Os nad ydyw'n cytuno â Ms Morden, a fyddai modd iddo egluro pam?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

"Yn gyffredinol rwyf o blaid yr hyn y mae'r AS Jessica Morden yn ei awgrymu, fodd bynnag mae hwn yn fater sy'n gofyn am gydweithio sylweddol gyda sefydliadau datganoledig megis Llywodraeth Cymru ar gyfer y cefnffyrdd ac Awdurdodau Lleol o ran y priffyrdd. Felly, mae modd cwestiynu pa mor ymarferol yw creu corff annibynnol ledled y DU yn y cyd-destun hwn. Rwyf yn croesawu'r cyfle i weithio gydag asiantaethau partner i wella diogelwch ar y ffyrdd a byddwn yn cefnogi dull mwy cydlynol tuag at weithgarwch ledled Cymru. Rwyf wedi codi'r mater hwn â Ken Skates, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a'r Seilwaith gan fy mod yn awyddus i asiantaethau gydweithio'n agosach i fynd i'r afael â'r mater hwn. Rwyf yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd gan yr Heddlu ynghylch mentrau diogelwch ar y ffyrdd penodol, megis Ymgyrch Darwen a Menter 'Gan Bwyll' Cymru, ac rwyf hefyd yn cefnogi defnyddio 'Cadw Llygad ar Gyflymder yn y Gymuned' yn ardal yr Heddlu.

 

 

5.2

CWESTIWN GAN A. WILLIAMS:

“Darlledodd y Comisiynydd blaenorol gyfarfodydd y Panel ar y we o siambr y Cyngor yn Hwlffordd. Mae cyfleusterau darlledu tebyg ar gael yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin. A oes gan Mr Llewelyn unrhyw fwriadau tebyg i ddarlledu ei gyfarfodydd 'cyhoeddus' â'r Panel Troseddu? Ble ar y we y gellir darllen cofnodion y cyfarfodydd blaenorol?”

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan A. Williams:

"Darlledodd y Comisiynydd blaenorol gyfarfodydd y Panel ar y we o siambr y Cyngor yn Hwlffordd. Mae cyfleusterau darlledu tebyg ar gael yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin. A oes gan Mr Llewelyn unrhyw fwriadau tebyg i ddarlledu ei gyfarfodydd 'cyhoeddus' â'r Panel Troseddu? Ble ar y we y gellir darllen cofnodion y cyfarfodydd blaenorol?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

"Yn wir roedd y cyn-Gomisiynydd yn darlledu ei gyfarfodydd Atebolrwydd â'r Prif Gwnstabl, er hynny, rwyf wedi penderfynu  peidio â dilyn yr un drefn ar hyn o bryd oherwydd credaf y gall y dull hwn atal trafodaeth. Er hynny, rwyf yn awyddus i gynnwys pobl leol mewn gwaith craffu a llywodraethu ac felly cynhelir y cyfarfodydd atebolrwydd â'r Prif Gwnstabl mewn llefydd cyhoeddus, a rhoddir hysbysiad cyhoeddus ohono ar y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol. Rydym hefyd yn anfon gwahoddiad i grwpiau e.e. gwahoddwyd disgyblion Ysgol y Strade i gyfarfod a gynhaliwyd yn Llanelli.  Wedi dweud hynny, nid wyf yn gwrthod ystyried darlledu'r cyfarfodydd hynny yn y dyfodol. O ran darlledu cyfarfodydd y Panel Heddlu a Throseddu, penderfyniad y Panel fyddai hynny."

 

Nodwyd, er eglurhad, y byddai'r mater ynghylch darlledu cyfarfodydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cael ei ystyried yn ei gyfarfod blynyddol.

 

6.

ADRODDIAD EFFEITHIOLRWYDD AROLYGIAETH CWNSTABLIAETH A GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB EI MAWRHYDI. pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Mawrhydi a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018 ynghylch effeithlonrwydd Heddlu Dyfed-Powys gan ddefnyddio'r meini prawf canlynol:

·         Ymchwilio i Drosedd a lleihau ail-droseddu [GRADD: Da];

·         Diogelu pobl agored i niwed [GRADD: Angen gwella];

·         Galluoedd Arbenigol [GRADD: Heb eu graddio].

Mewn ymateb i bryder ynghylch y defnydd o gelloedd yr heddlu wrth ymdrin â phobl agored i niwed oherwydd diffyg cyfleusterau priodol, rhoddodd y Comisiynydd Heddlu sicrwydd i'r Panel fod y mater yn cael sylw a chyfeiriwyd at y ddalfa arfaethedig newydd yn Llanelli. Fodd bynnag, ychwanegodd fod yr heddlu yn aml yn gorfod sicrhau cydbwysedd rhwng diogelwch y cyhoedd a gofal yr unigolion dan sylw. Nodwyd bod Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Mark Collins, hefyd yn arweinydd iechyd meddwl Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a bod y mater hwnnw wedi hoelio sylw yng Nghynhadledd Dydd G?yl Dewi Dyfed-Powys eleni a gynhaliwyd ym mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys. Roedd cefnogaeth ychwanegol hefyd yn cael ei darparu i bartneriaid iechyd, ac roedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cael eu lleoli mewn ysbytai.

Mewn ymateb i ymholiad, cytunodd y Comisiynydd Heddlu i wneud ymholiadau ynghylch y rheswm na chafodd 'Galluoedd Arbenigol' eu graddio, er y dywedodd yr oedd o bosibl yn ymwneud â'r ffaith bod materion o'r fath y tu hwnt i ffiniau'r Heddlu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1 nodi'r adroddiad;

6.2 cefnogi'r Comisiynydd Heddlu yn ei ymdrech i geisio sicrhau bod cyfleusterau priodol ar gael i'r heddlu pan fydd yn rhaid symud person o fan cyhoeddus i le diogel dan Adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl.

 

7.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD. pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er gwybodaeth, cafodd y Panel adroddiad a fanylai ar y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ystod y cyfnod 27 Chwefror 2018 - 10 Mai 2018. Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol:

 

·         Gan gyfeirio at y penderfyniad i beidio â phrynu adeilad yn Sanclêr i'w addasu i fod yn Amgueddfa'r heddlu, cyfeiriodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu at gynnig gan y Prif Gwnstabl i sefydlu cyfleuster tebyg mewn lleoliad mwy canolog ym Mhencadlys yr Heddlu. Ychwanegodd fod yr arolwg ecolegol ym Mhenprys, Llanelli, yn ymwneud yn bennaf â Chlymog Japan a bywyd gwyllt;

·         Mewn ymateb i bryder ynghylch y gostyngiad yn y cyllid ar gyfer contract camddefnyddio sylweddau 2018/2019, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod rhai o'r gweithgareddau cyfeirio eisoes yn rhan o'r Prosiect Braenaru;

·         O ran y 4 penderfyniad a wnaethpwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar 10 Mai 2018, dywedwyd wrth y Panel fod y rhain yn benderfyniadau statudol y mae'n rhaid eu gwneud bob blwyddyn. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

BWRDD ATEBOLRWYDD YR HEDDLU pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel agenda, adroddiadau a chofnodion cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2018.

 

Mewn ymateb i bryder ynghylch y nifer o ddamweiniau ffyrdd gan feicwyr a oedd yn ymddangos fel pe baent yn cynnwys beicwyr gwrywaidd h?n ar feiciau pwerus, cyfeiriodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu at waith Heddlu Dyfed-Powys a phartneriaid eraill drwy Ymgyrch 'Darwen' a dargedai pobl ifanc a phob h?n er mwyn eu haddysgu am bwysigrwydd diogelwch a, lle y bo'n briodol, gorfodi'r gyfraith.

Cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd y targed ar gyfer 'Lleihau nifer y beicwyr modur a gaiff eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol gan 25% erbyn 2020' wedi'i gyflawni dros 10 mlynedd ac awgrymwyd y dylid gosod targed sy'n gyraeddadwy.

 

Canmolodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yr holl waith y mae Gwasanaeth Dioddefwyr a Thystion Goleudy yn ei gyflawni.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r materion a godwyd yng nghyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2018.

 

9.

GWARIANT Y PANEL 2017-2018 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Yn unol â Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad a oedd yn nodi'r gwariant a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2017-2018. Awgrymwyd y dylid ystyried y posibilrwydd y gallai'r Panel ymgymryd â gwaith craffu manylach ynghylch rôl a phenderfyniadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

10.

CYLLIDEB DDRAFFT Y PANEL AR GYFER 2018-2019 pdf eicon PDF 120 KB

Cofnodion:

 Bu'r Panel yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2018/19. Cafodd gwaith y Panel Heddlu a Throseddu ei ariannu gan grant a gafwyd gan y Swyddfa Gartref, a disgwylid grant o £71,000 ar gyfer 2018-2019.

Awgrymwyd y bydd y mater o ddarlledu cyfarfodydd yn cael ei ystyried yn y Cyfarfod Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r gyllideb ddrafft.

 

11.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

12.

UNRHYW EITEMAU ERAILL Y GALL Y CADEIRYDD, OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU Y DYLID EU HYSTYRIED YN FATERION BRYS

Cofnodion:

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 11 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Dosbarthodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu adroddiad y Prif Swyddog Ariannol a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa y gyllideb amcangyfrifedig o ran yr alldro yn erbyn cyllidebau Heddlu Dyfed-Powys a'r Comisiynydd Heddlu ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 o ran refeniw a chyfalaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.