Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Evans (Cyngor Sir Ceredigion), L. George (Cyngor Sir Powys) a W. Powell (Cyngor Sir Powys).

 

Nododd y Panel fod Mrs J Woods, Prif Swyddog Cyllid y Comisiynydd, wedi cyflwyno'i hymddiswyddiad a disgwylid gwrandawiad i gadarnhau ei holynydd ar 16 Chwefror, 2018. Dymunodd y Panel yn dda i Mrs Woods yn y dyfodol.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28AIN GORFFENNAF, 2017 pdf eicon PDF 240 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2017 yn gofnod cywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI).

4.1

Cofnod 6 - Adroddiad Blynyddol Y Comisynydd Heddlu a Throseddu

Cofnodion:

(1).    Gofynnwyd am wybodaeth ar addewid y Comisiynydd i ail-fuddsoddi yn y seilwaith ar gyfer Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) yn 2017/18 a hynny mewn perthynas â'r amserlen ar gyfer y buddsoddiad hwnnw yn Aberystwyth, ac a ellid defnyddio'r offer presennol ac a fyddai modd ail-gyflogi cyn-weithwyr i weithredu'r system newydd.

 

Gan fod gwaith yn dal i fynd rhagddo i ddatblygu'r manylion a'r gofynion tendro a chaffael, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd nad oedd mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gynnig amserlen bendant ar gyfer cychwyn y prosiect hwn i ail-fuddsoddi mewn 14 o drefi yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, na chwaith, safle Aberystwyth yn y rhaglen honno.

 

O ran defnyddio'r offer/seilwaith presennol, byddai tîm y prosiect yn asesu pa mor ymarferol fyddai defnyddio'r rheiny.  Fodd bynnag, byddai'n rhaid iddynt fod yn ymwybodol o nifer o ystyriaethau, gan gynnwys a fyddai'r offer yn cydweddu ac yn para, a'r ffaith fod rhai o'r systemau presennol ym meddiant yr awdurdodau lleol ac nid yr Heddlu.

 

O ran ail-gyflogi cyn-weithredwyr CCTV, efallai na fyddai hyn yn bosibl oherwydd mae tua dwy flynedd ers i'r system yn Aberystwyth fod yn weithredol ddiwethaf a gallai'r gweithwyr hynny fod wedi cael gwaith arall neu fod wedi cael eu symud. Cadarnhaodd y byddid yn recriwtio, ar yr adeg briodol, am weithredwyr newydd.

 

(2)     Mewn ymateb i gwestiwn ar osod CCTV ym Mhowys, dywedodd y Comisiynydd ei fod yn credu mai yn nhrefi'r Trallwng, y Drenewydd, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod ac Aberhonddu y byddai'r buddsoddiad hwnnw. Wrth ddewis y trefi hynny, roedd yn rhaid i'r tîm prosiect roi sylw i nifer o feini prawf, ac un ohonynt oedd bod yn rhaid i'r offer fod yn gymesur yn seiliedig ar y gofynion gweithredol, ac nid ar yr angen tybiedig.

 

(3)     Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y £6m o gyllid disgwyliedig i'r astudiaeth a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, dywedodd y Comisiynydd fod yr Ysgrifennydd Cartref newydd gadarnhau'r dyraniad ariannol. Byddai Heddlu De Cymru yn gweinyddu'r gronfa honno, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a byddai ef yn cysylltu â'r cyrff hynny dros y misoedd nesaf i benderfynu ar faint y buddsoddiad/darpariaeth yn Nyfed-Powys.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD

5.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD T.J. JONES

Dangosodd yr ymosodiadau terfysgol ofnadwy yn Llundain yn gynharach eleni mor bwysig yw bod unedau arfog yr heddlu yn cyrraedd lleoliad unrhyw ymosodiad yn gyflym er mwyn lleihau'r nifer a anafir. O ystyried y nifer uchel o dargedau posibl yn ardal ddaearyddol fawr Heddlu Dyfed-Powys, a yw'r Comisiynydd wedi trafod â'r Prif Gwnstabl ynghylch y trefniadau sydd gan yr heddlu ar waith i ymateb i ymosodiadau o'r fath? Gan dybio bod y trafodaethau hynny wedi digwydd, a yw'r Comisiynydd yn fodlon bod y trefniadau hynny'n ddigon cadarn i roi cymaint o ddiogelwch â phosibl i'r cyhoedd, waeth ble neu ba bryd y gallai digwyddiad o'r fath ddigwydd?”.

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd T.J. Jones

 

“Dangosodd yr ymosodiadau terfysgol ofnadwy yn Llundain yn gynharach eleni mor bwysig yw bod unedau arfog yr heddlu yn cyrraedd lleoliad unrhyw ymosodiad yn gyflym er mwyn lleihau'r nifer a anafir. O ystyried y nifer uchel o dargedau posibl yn ardal ddaearyddol fawr Heddlu Dyfed-Powys, a yw'r Comisiynydd wedi trafod â'r Prif Gwnstabl ynghylch y trefniadau sydd gan yr heddlu ar waith i ymateb i ymosodiadau o'r fath? Gan dybio bod y trafodaethau hynny wedi digwydd, a yw'r Comisiynydd yn fodlon bod y trefniadau hynny'n ddigon cadarn i roi cymaint o ddiogelwch â phosibl i'r cyhoedd, waeth ble neu ba bryd y gallai digwyddiad o'r fath ddigwydd?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Sicrhaodd y Comisiynydd y Panel fod gan Heddlu Dyfed-Powys drefniadau ac adnoddau priodol ar waith i ymateb i ddigwyddiadau o'r fath a'i fod wedi cynyddu nifer y swyddogion arfau tanio yn unol â hynny, fel yr oedd holl heddluoedd y DU wedi gwneud. Dywedodd fod angen i bob llu fod mewn sefyllfa i ymateb i weithredoedd terfysgol a dyna oedd un o flaenoriaethau allweddol Gofynion Strategol yr Heddlu. Yn ogystal â hyn, roedd gan y tri heddlu yn ne Cymru drefniadau ar waith ar y cyd, a chanolfannau a oedd wedi'u lleoli'n strategol i ymateb i ddigwyddiadau; roedd tair o'r rhain yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.

 

Dywedodd y byddai trafodaethau'n digwydd ar ddyrannu adnoddau fel rhan o'r adolygiad blynyddol o ofynion strategol yr heddlu, ac ar yr angen i'w haddasu, o bosibl, i fodloni'r gofynion newidiol.

 

5.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD T.J. JONES

Yn ôl erthygl newyddion ar-lein gan y BBC, dyddiedig 4 Medi 2017, mae nifer y profion yfed a gyrru a wnaed gan Heddlu Dyfed-Powys wedi disgyn o 2,751 yn 2016 i 1,133 eleni (gostyngiad o dros 50%) ac awgrymai fod hyn oherwydd pwysau ariannol a gostyngiad yn nifer y swyddogion traffig ar batrôl. A yw'r Comisiynydd wedi herio'r Prif Gwnstabl yngl?n â hyn ac wedi gofyn am esboniad? A all y Comisiynydd sicrhau'r Panel a'r cyhoedd y bydd yn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i'r Prif Gwnstabl er mwyn hwyluso'r profion hyn a thrwy hynny ddiogelu'r cyhoedd rhag gyrwyr meddw?”

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd T.J. Jones

 

“Yn ôl erthygl newyddion ar-lein gan y BBC, dyddiedig 4 Medi 2017, mae nifer y profion yfed a gyrru a wnaed gan Heddlu Dyfed-Powys wedi disgyn o 2,751 yn 2016 i 1,133 eleni (gostyngiad o dros 50%) ac awgrymai fod hyn oherwydd pwysau ariannol a gostyngiad yn nifer y swyddogion traffig ar batrôl. A yw'r Comisiynydd wedi herio'r Prif Gwnstabl yngl?n â hyn ac wedi gofyn am esboniad? A all y Comisiynydd sicrhau'r Panel a'r cyhoedd y bydd yn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i'r Prif Gwnstabl er mwyn hwyluso'r profion hyn a thrwy hynny ddiogelu'r cyhoedd rhag gyrwyr meddw?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Cadarnhaodd y Comisiynydd na fu gostyngiad yn nifer y swyddogion traffig ffyrdd ac roedd y Prif Gwnstabl hefyd wedi rhoi sicrwydd iddo ynghylch hynny, ond nid oedd wedi ei herio ar y mater.  Dywedodd mai'r rheswm am y gostyngiad yn nifer y profion a wnaed oedd bod y rheolau sy'n ymwneud â phwerau stopio wedi newid. Ynghynt, yr arfer oedd stopio ceir ar hap ond erbyn hyn roedd angen rheswm ar blismyn i stopio gyrrwr a amheuid. Roedd y dull hwnnw yn fwy penodol ac wedi ei seilio ar wybodaeth ac roedd wedi arwain at gynnydd yn y gyfran o brofion positif o 2.3% i 5.9%. Serch hynny, roedd wedi arwain at ostyngiad yn y nifer a arestiwyd am yfed a gyrru, o 88 i 67.

 

I gloi, cadarnhaodd nad oedd nifer yr unedau plismona ar y ffyrdd wedi cael eu lleihau.

 

6.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU O'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD

Cofnodion:

Fel rhan o'i drafodaethau ar y cwestiynau cyhoeddus canlynol, cyfeiriodd y Panel at yr amser a allai basio ar ôl iddynt ddod i law a'u cyflwyno i'r Bwrdd, ac yna rhoi ymateb.

 

Tynnodd y Swyddog Arweiniol sylw'r Panel at Eitem 9 ar Agenda o gyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu y diwrnod hwnnw, a dywedodd mai un o'r argymhellion a fynegwyd gan y ddau aelod o'r panel a oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw oedd y dylid cynnal cyfarfod gyda'r Comisiynydd a'i staff i drafod nifer o faterion, gan gynnwys cwestiynau gan y cyhoedd, datganiadau i'r wasg, cyswllt aelodau'r panel â'r Comisiynydd a materion cyffredinol yngl?n â chraffu. Os yw'r Panel eisiau cymeradwyo'r argymhelliad hwnnw, gallai gynnwys trafodaeth ar brosesu'r cwestiynau a ddaw i law'r Panel gan y cyhoedd, a hynny fel rhan o'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Panel yn cytuno â'r argymhelliad i gwrdd â'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a bod mater prosesu'r cwestiynau a ddaw i law'r Panel gan y cyhoedd yn cael ei roi ar agenda'r cyfarfod hwnnw.

 

6.1

CWESTIWN GAN J. HARRINGTON (SIR BENFRO)

Mae Gogledd Sir Benfro yn frith o droseddau moduro ac ymddengys nad yw'r heddlu'n pryderu fawr amdanynt. Mae nifer yr achosion o yrru a defnyddio ffôn, o ddiystyru cyfyngiadau cyflymder (yn enwedig mewn parthau 20mya a 30mya) ac o yrru heb brif oleuadau oll yn sylweddol. A yw'r Comisiynydd yn cytuno bod y rhain yn droseddau na ddylai'r heddlu eu hanwybyddu ac a fydd yn herio'r Prif Gwnstabl ynghylch anallu ei swyddogion i fynd i'r afael â'r problemau hyn yn ddigonol?”

Cofnodion:

Cwestiwn gan J Harrington (Sir Benfro)

Yn unol â phrotocol y Panel, gofynnodd y Cadeirydd y cwestiwn canlynol ar ran Mr Harrington am nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

“Mae Gogledd Sir Benfro yn frith o droseddau moduro ac ymddengys nad yw'r heddlu'n pryderu fawr amdanynt. Mae nifer yr achosion o yrru a defnyddio ffôn, o ddiystyru cyfyngiadau cyflymder (yn enwedig mewn parthau 20mya a 30mya) ac o yrru heb brif oleuadau oll yn sylweddol. A yw'r Comisiynydd yn cytuno bod y rhain yn droseddau na ddylai'r heddlu eu hanwybyddu ac a fydd yn herio'r Prif Gwnstabl ynghylch anallu ei swyddogion i fynd i'r afael â'r problemau hyn yn ddigonol?”

 

Ymateb Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Roedd y Comisiynydd yn amau'r honiad ynghylch anallu ei swyddogion gan ddweud mai barn bersonol oedd hynny, a rhoddwyd sicrwydd iddo gan y Prif Gwnstabl eu bod yn mynd i'r afael ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd yn argyhoeddedig, felly, fod yr heddlu'n gadarn ac yn cyfrannu at fentrau diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoddodd wybod i'r Panel ei fod yn cael gohebiaeth gyson o bob cwr o'r sir ar faterion o'r fath a bod 20% o leoliadau cerbydau'r partneriaethau diogelwch ffyrdd cymunedol yn cael eu pennu gan y gymuned. Pan gafwyd gwybodaeth benodol yngl?n â gyrru gwrthgymdeithasol, tynnwyd sylw'r Rhingyll Ian Price atynt drwy Bartneriaeth 'Gan Bwyll', a oedd â dyletswydd i ymateb. Cytunodd na ddylai achosion o'r fath gael eu hanwybyddu.

 

Hefyd, dywedodd y Comisiynydd mai Dyfed-Powys oedd y llu cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio pwerau newydd a oedd yn ymwneud ag atafaelu cerbydau a oedd heb dreth y car. Yn ogystal, roedd o'r farn bod agwedd gadarn gan yr heddlu at ddal gyrwyr a oedd yn mynd yn rhy gyflym a'r rheiny a oedd yn osgoi talu treth y car.

 

 

6.2

CWESTIWN GAN S. EDWARDS (SIR GAERFYRDDIN)

Mae coed ein trefi o fudd mawr inni. Mae'r coed yng nghanol tref Caerfyrddin wedi'u diogelu ac maent yn werth dros £35k o ran amwynder – ni ddylai teledu cylch cyfyng roi'r coed hyn mewn perygl. A yw'r Comisiynydd yn cytuno y dylai sicrhau, wrth gyllidebu ar gyfer teledu cylch cyfyng newydd a chomisiynu system o’r fath, fod effaith y system ar yr amgylchedd mor fychan â phosibl? Lle bydd ystyriaethau amgylcheddol yn arwain at gostau uwch, a yw'n ymrwymo i beidio rhoi'r gorau i'r ystyriaethau hynny at y diben o arbed arian?”

Cofnodion:

Cwestiwn gan S Edwards (Sir Gaerfyrddin)

Yn unol â phrotocol y Panel, gofynnodd y Cadeirydd y cwestiwn canlynol ar ran Mr Edwards am nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

“Mae coed ein trefi o fudd mawr inni. Mae'r coed yng nghanol tref Caerfyrddin wedi'u diogelu ac maent yn werth dros £35k o ran amwynder – ni ddylai teledu cylch cyfyng roi'r coed hyn mewn perygl. A yw'r Comisiynydd yn cytuno y dylai sicrhau, wrth gyllidebu ar gyfer teledu cylch cyfyng newydd a chomisiynu system o’r fath, fod effaith y system ar yr amgylchedd mor fychan â phosibl? Lle bydd ystyriaethau amgylcheddol yn arwain at gostau uwch, a yw'n ymrwymo i beidio rhoi'r gorau i'r ystyriaethau hynny at y diben o arbed arian”

 

Ymateb Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

 

Rhoddodd y Comisiynydd ei addewid y byddai materion amgylcheddol yn cael eu hystyried fesul achos, gan roi ystyriaeth hefyd i ofynion ymarferol y gwaith, megis ‘llinell weld’ y camerâu. Lle bo'n ymarferol, gellid gwneud asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd.

 

6.3

CWESTIWN GAN M. FOY (POWYS)

Hyd yn hyn eleni, dim ond un swyddog heddlu rwyf i wedi ei weld ar droed yn fy ystâd dai i. A yw'r Comisiynydd wedi herio'r Prif Gwnstabl ynghylch faint o batrolau sy'n digwydd ar droed ac ymhle maent yn digwydd? Os ydyw, a yw'n fodlon bod yr hyn sy'n digwydd yn deg i bob un ohonom sy'n byw yn rhanbarth yr heddlu? Os nad yw wedi herio'r Prif Gwnstabl, pam hynny?”

Cofnodion:

Cwestiwn gan M Foy (Powys)

Yn unol â phrotocol y Panel, gofynnodd y Cadeirydd y cwestiwn canlynol ar ran Mr Foy am nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

“Hyd yn hyn eleni, dim ond un swyddog heddlu rwyf i wedi ei weld ar droed yn fy ystâd dai i. A yw'r Comisiynydd wedi herio'r Prif Gwnstabl ynghylch faint o batrolau sy'n digwydd ar droed ac ymhle maent yn digwydd? Os ydyw, a yw'n fodlon bod yr hyn sy'n digwydd yn deg i bob un ohonom sy'n byw yn rhanbarth yr heddlu? Os nad yw wedi herio'r Prif Gwnstabl, pam hynny?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:-

Er nad oedd ganddo reolaeth weithredol dros ymhle yr anfonid swyddogion gan fod y p?er hwnnw yn perthyn i'r Prif Gwnstabl, dywedodd y Comisiynydd ei fod yn ei herio ac yn trafod darparu plismyn ledled y rhanbarth ag ef yn gyson.  Fodd bynnag, dymunai i'r llu fod yn fwy penodol o ran monitro ymhle y darperid adnoddau'r heddlu. Er bod y galw'n cael ei arwain gan ystafell reoli'r heddlu, roedd angen i'r heddlu fod yn fwy deallus ynghylch sut yr oedd yn mesur faint o amser a dreuliai swyddogion yn y gymuned. Rhoddwyd dyfeisiau llaw i bob swyddog heddlu ac roedd ymgyrch wedi'i lansio'n ddiweddar i roi gwybod i'r cyhoedd am hynny.

 

 

6.4

CWESTIWN GAN M. ROACH (SIR BENFRO)

Mae rhai modurwyr ifanc wedi bod yn gyrru'n wrthgymdeithasol yn Neyland ers blynyddoedd, yn enwedig o gwmpas y marina. Nid yw'r Heddlu wedi gwneud dim am y mater. A yw'r Comisiynydd yn cytuno bod hwn yn fater na ddylid ei anwybyddu ac a fydd yn gofyn i'r Prif Gwnstabl esbonio pam bod ei swyddogion wedi methu â delio â'r broblem?”

Cofnodion:

Cwestiwn gan M Roach (Sir Benfro)

Yn unol â phrotocol y Panel, gofynnodd y Cadeirydd y cwestiwn canlynol ar ran Mr Roach am nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

“Mae rhai modurwyr ifanc wedi bod yn gyrru'n wrthgymdeithasol yn Neyland ers blynyddoedd, yn enwedig o gwmpas y marina. Nid yw'r Heddlu wedi gwneud dim am y mater. A yw'r Comisiynydd yn cytuno bod hwn yn fater na ddylid ei anwybyddu ac a fydd yn gofyn i'r Prif Gwnstabl esbonio pam nad yw ei swyddogion wedi gallu delio â'r broblem”.

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:-

 

Cadarnhaodd y Comisiynydd fod y mater wedi'i godi'n lleol ac wrth wirio'r cofnodion datgelwyd bod cyfanswm o saith galwad wedi'u derbyn gan yr heddlu mewn perthynas â digwyddiadau yn Neyland dros y 12 mis blaenorol. Roedd y digwyddiadau hynny wedi cael eu cyfeirio at Bartneriaeth ‘Gan Bwyll’ a thynnwyd sylw'r arolygydd lleol atynt.

 

7.

6ED GYNHADLEDD FLYNYDDOL I BANELI HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 12 o gyfarfod y Panel ar 28 Gorffennaf 2017, cafodd y Panel adroddiad gan yr aelodau a fu'n bresennol yn y 6ed Gynhadledd Flynyddol ar gyfer Paneli Heddlu a Throseddu a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Warwick ar 6 Tachwedd 2017.

 

Nododd y Panel fod rhaglen y gynhadledd yn cynnwys y canlynol:

1.     Sesiwn lawn ac iddi banel o siaradwyr yn cynrychioli'r Paneli Heddlu a Throseddu. Y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a'r Ganolfan Craffu Cyhoeddus, gan gwmpasu amrywiaeth o bynciau perthnasol a'r bwriad i ffurfio Cymdeithas Genedlaethol y Paneli Heddlu a Throseddu. 

2.     Fforymau Rhanbarthol/Cymru Gyfan a oedd yn trafod materion a oedd yn berthnasol i'r Paneli penodol hynny.

3.     Gweithdai ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ymdrin â chwynion, gwrandawiadau cadarnhau a datblygu ‘Hyrwyddwyr’ y paneli heddlu a throseddu ar faterion penodol.

 

Tynnodd Swyddog Arweiniol y Panel ei sylw at y bwriad i ffurfio Cymdeithas Genedlaethol y Paneli Heddlu a Throseddu ac at ddymuniad y Paneli Heddlu a Throseddu i sefydlu gr?p diddordeb arbennig o dan fantell y Gymdeithas Llywodraeth Leol. Gan fod y broses o sefydlu'r Paneli Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn wahanol i'r un yn Lloegr, dywedodd fod y dymuniad hwnnw'n rhoi Awdurdodau Lleol Cymru mewn sefyllfa anodd gan nad oeddent yn aelodau o'r LGA a'u bod wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gartref na fyddai modd iddynt ddefnyddio'u Grant i dalu'r ffi aelodaeth ofynnol. Fodd bynnag, roedd Cadeiryddion y pedwar Panel o Gymru wedi cytuno y dylent gwrdd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ystyried y sefyllfa. Roedd y trefniadau ar gyfer y cyfarfod hwnnw yn cael eu gwneud gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod dadl wedi'i chynnal fel rhan o'r gynhadledd yngl?n â recriwtio Prif Weithredwr i Gymdeithas Genedlaethol y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, a hynny ar gyflog o oddeutu £100,000. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn aelod o'r Gymdeithas ac, os felly, maint y cyfraniad ariannol a delir i'r Gymdeithas. 

 

Cadarnhaodd y Comisiynydd ei fod yn aelod o'r Gymdeithas a'i fod yn un o'r aelodau Annibynnol/Plaid Cymru a benodwyd i'r Bwrdd. O ran maint y tanysgrifiad, dywedodd y byddai'n rhoi'r wybodaeth honno'n uniongyrchol i aelodau'r Panel am nad oedd yn ymwybodol o'r union swm.

 

·        Cyfeiriwyd at gynnwys cyffredinol y gynhadledd a'r berthynas rhwng y Paneli Heddlu a Throseddu a'u Comisiynwyr. Awgrymwyd y byddai'n fuddiol i'r Panel, pan fydd yn cwrdd â'r Comisiynydd i drafod cwestiynau gan y cyhoedd (gweler cofnod 6 uchod), fanteisio ar y cyfle i drafod ag ef faterion a nodwyd yn y gynhadledd, er enghraifft, y farn a fynegwyd nad oedd y berthynas rhwng y Paneli a'r Cyd-bwyllgorau Archwilio yn ddigon cadarn i gynnig her effeithiol.

 

Wrth ymateb, dywedodd y Comisiynydd ei fod yn hapus i gwrdd â'r Panel, fel yr awgrymwyd, ond ei bod yn bwysig cydnabod bod mesurau ar waith i'w ddal i gyfrif, er bod pryderon o bosibl mewn ardaloedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYD-BWYLLGOR ARCHWILIO pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 8 o'i gyfarfod ar 12 Gorffennaf 2016, cafodd y Panel adroddiad ynghylch cyfarfod y Cyd-bwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 31 Hydref 2017 lle'r oedd y Cynghorydd William Powell yn bresennol ar ei ran fel sylwedydd. Nododd y Panel fod y Cynghorydd Powell wedi manylu ar nifer o arsylwadau yn ei adroddiad ar waith y Cyd-bwyllgor Archwilio gan arwain at lunio'r tri argymhelliad canlynol i'r Panel gael ystyried eu hanfon ymlaen at y Comisiynydd, gyda'r nod o gael y cyhoedd i ddangos diddordeb a chraffu ar waith y Pwyllgor yn sgil ei agwedd agored a thryloyw:-

 

1.     Os oes eitemau ar yr agenda na chyhoeddir adroddiad yn eu cylch, dylai'r agenda gynnwys crynodeb o'r ffeithiau neu'r materion allweddol a drafodir fel y gall y cyhoedd ddeall yn well yr hyn a fydd yn cael ei ystyried a gwneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch bod yn bresennol ai peidio.

2.     Lle bo eitem benodol ar yr agenda sydd i'w thrin fel un sydd wedi'i heithrio rhag cael ei chyhoeddi, dylid nodi'r rhesymau dros beidio â chyhoeddi yn yr agenda gan gyfeirio at set o feini prawf gyhoeddedig (megis cynnwys Deddf Llywodraeth Leol 1972) ynghyd ag eglurhad ynghylch goblygiadau hyn i'r dull o gynnal y cyfarfod. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd fod gwybodaeth yn cael ei chadw yn ôl am resymau priodol a hynny dim ond pan fydd er budd y cyhoedd i wneud hynny.

3.     Os yw'r Panel yn mynd i anfon sylwedyddion yn y dyfodol, awgrymir eu bod yn cael hyfforddiant ariannol arbenigol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·        Cyfeiriwyd at yr adroddiadau a gyflwynwyd i'r Cyd-bwyllgor Archwilio a mynegwyd y farn y dylent fod yn fwy strwythuredig a chynnwys dadansoddiad risg a mesurau lliniaru, a chafodd y rhain eu derbyn gan y Comisiynydd.

·        Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud ag argymhellion a wnaed i Heddlu Dyfed-Powys gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, cadarnhaodd y Comisiynydd nad oeddent yn rhan o gylch gwaith y Cyd-bwyllgor Archwilio i ddechrau ond ei fod wedi cyflwyno newidiadau ar gyfer eu cyflwyno yn y dyfodol i'r Cyd-bwyllgor hwnnw.

·        Cyfeiriwyd at argymhelliad 3, a mynegwyd y farn nad oedd angen gwybodaeth ariannol arbenigol ond y dylai aelodau'r Panel sy'n mynychu'r Cyd-bwyllgor Archwilio fel sylwedyddion gael rhyw fath o drafodaeth gan Swyddog Cyllid y Comisiynydd i esbonio'r gyllideb. I'r perwyl hynny anogwyd aelodau'r panel i fynychu'r seminar sydd i ddod am y gyllideb.

 

Wrth gefnogi'r hyfforddiant esboniadol, atgoffodd y Comisiynydd y Panel mai pwyllgor ymgynghorol a oedd yn adrodd iddo ef a'r Prif Gwnstabl oedd y Cyd-bwyllgor Archwilio. Yn hynny o beth, roedd o'r farn y dylai'r Panel osod cwmpas ar rôl y sylwedyddion ac o ran eu hadborth i'r Panel, os bydd y Panel yn anfon sylwedyddion i gyfarfodydd yn y dyfodol. Awgrymodd y gallai'r Panel roi ystyriaeth i hynny pan fydd yn cwrdd ag ef yn y cyfarfod y cytunwyd arno yng nghofnod 6 uchod.

 

·        Cyfeiriwyd at argymhelliad 2, a dywedodd y Swyddog Arweiniol nad oedd darpariaethau'r Ddeddf Llywodraeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

BWRDD ATEBOLRWYDD YR HEDDLU pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn Cofnod 8 o'i gyfarfod ar 12 Gorffennaf 2016, cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2017 lle'r oedd y Cynghorwyr Rob Summons a Mrs Helen Thomas yn bresennol fel sylwedyddion ar ei ran. Nododd y Panel fod ei gynrychiolwyr wedi manylu ar nifer o arsylwadau yn eu hadroddiad ar waith y Bwrdd gan arwain at lunio'r tri argymhelliad canlynol i'r Panel gael ystyried eu hanfon ymlaen at y Comisiynydd, gyda'r nod o hybu gwaith agored a thryloyw gan y Bwrdd:-

 

1.     Os oes eitemau ar yr agenda na chyhoeddir adroddiad yn eu cylch, dylai'r agenda gynnwys crynodeb o'r ffeithiau neu'r materion allweddol a drafodir fel y gall y cyhoedd ddeall yn well yr hyn a fydd yn cael ei ystyried a gwneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch bod yn bresennol ai peidio.

2.     Lle bo eitem benodol ar yr agenda sydd i'w thrin fel un sydd wedi'i heithrio rhag cael ei chyhoeddi, dylid nodi'r rhesymau dros beidio â chyhoeddi yn yr agenda gan gyfeirio at set o feini prawf gyhoeddedig (megis cynnwys Deddf Llywodraeth Leol 1972) ynghyd ag eglurhad ynghylch goblygiadau hyn o ran y dull o gynnal y cyfarfod. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd fod gwybodaeth yn cael ei chadw yn ôl am resymau priodol a hynny dim ond pan fydd er budd y cyhoedd i wneud hynny.

3.     Bod cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r Comisiynydd a'i staff i drafod y ffordd ymlaen yn y dyfodol. Bydd y cyfarfod hwn yn trafod cwestiynau gan y cyhoedd, datganiadau i'r wasg, cyswllt aelodau'r panel â'r Comisiynydd a materion cyffredinol yngl?n â chraffu.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·        Cyfeiriwyd at un o'r arsylwadau a wnaed yn yr adroddiad ynghylch yr anawsterau TG wrth gyhoeddi rhai dogfennau ar-lein ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd. Cadarnhaodd y Comisiynydd fod anhawster gyda seilwaith TG yr heddlu a fyddai, gobeithio, yn cael ei ddatrys yn y Flwyddyn Newydd pan fydd y wefan newydd yn cael ei lansio.

·        Cyfeiriwyd at bresenoldeb yr arsylwyr yn y cyfarfod ac a ddylai'r Panel gael ei gynrychioli mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Awgrymwyd, gan fod cyfarfodydd y Bwrdd yn cael eu cynnal ledled y sir, y gallai'r aelod agosaf i'r lleoliad fynychu ar ran y Panel.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

10.1

dderbyn yr adroddiad a bod y tri argymhelliad yn cael eu hanfon at y Comisiynydd Heddlu a Throseddu iddo'u hystyried

10.2

Bod yr aelod agosaf i leoliad cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu yn cynrychioli'r Panel yn y cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

 

10.

SYMPOSIWM YMCHWIL pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel adroddiad ar y symposiwm ymchwil diweddar a gynhaliwyd ym Mhencadlys yr Heddlu yn Llangynnwr ar 5 Hydref 2017 lle'r oedd yr Is-gadeirydd, yr Athro I. Roffe, yn ei gynrychioli. Nodwyd taw diben y symposiwm oedd tynnu ynghyd academyddion, arbenigwyr plismona, partneriaid, heddweision a staff i rannu ymchwil ac i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd tystiolaeth ymchwil ym maes plismona. Fe'i cynlluniwyd hefyd i hyrwyddo cydweithio cryfach rhwng yr heddlu a phartneriaid academaidd ac i gynorthwyo staff yr heddlu a heddweision i feithrin partneriaethau gydag addysg uwch ac addysg bellach.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at y 6ed Gynhadledd Flynyddol a gynhaliwyd yn Warwick lle cafwyd trafodaeth dan arweiniad Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru am y posibilrwydd o gyflwyno ‘ystafelloedd cymryd cyffuriau’. Dywedodd y Comisiynydd, heb gyfeirio'n uniongyrchol at ddull Gogledd Cymru, fod Comisiynwyr eraill yn bleidiol i bolisïau tebyg, gan gynnwys darparu cyffuriau ar bresgripsiwn.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod y mater wedi cael ei drafod gan heddluoedd Cymru ar lefel genedlaethol a'i godi gyda Llywodraeth Cymru, lle ystyriwyd bod y mater yn rhywbeth i fynd i'r afael ag ef drwy'r gwasanaeth iechyd ac roedd y Byrddau Gwasanaethau Ardal wrthi'n buddsoddi arian yn y dull hwnnw.

 

O ran cynllun peilot Gogledd Cymru, ystyriai y dylid aros i weld beth fyddai canlyniad hwnnw ac astudiaethau eraill sy'n mynd rhagddynt ledled y DU er mwyn cael safbwynt sy'n cwmpasu'r DU.

·        Mewn ymateb i gwestiwn am droseddau fferm, dywedodd y Comisiynydd ei fod wedi cwrdd â'r NFU yn ddiweddar i drafod eu heffaith ar fywoliaeth ffermwyr, a'i fod yn lansio Strategaeth Troseddau Gwledig yn y Ffair Aeaf sydd i ddod yn Llanelwedd. Yn ogystal, roedd yr heddlu wedi cynnal archwiliad gwledig yn ddiweddar lle nodwyd ei bod yn hanfodol sicrhau darpariaeth gydradd yng nghefn gwlad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

ADRODDIAD AR GYNNYDD O RAN DARPARU GWASANAETHAU A GOMISIYNIR pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd ar ddarparu Gwasanaethau a Gomisiynir, a baratowyd gan swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Nodwyd bod y Comisiynydd yn credu mai blaenoriaeth allweddol at y dyfodol oedd nodi bregusrwydd, risgiau ac anghenion yr unigolyn, boed yn ddioddefwr neu'n droseddwr, gan roi pwyslais ar y cyswllt cyntaf gyda phob unigolyn – byddai angen nodi'r risg a'r anghenion yn gywir ar yr adeg honno a chyfeirio pobl at y gwasanaethau mwyaf priodol. Byddai'r dull hwnnw'n golygu bod modd symleiddio'r llwybr rhwng gwasanaethau gan gynorthwyo'r unigolyn i ddefnyddio'r gwasanaethau hynny sy'n fwyaf tebygol o'i helpu i adfer ei hun a gwella ansawdd ei fywyd.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at gomisiynu'n rhanbarthol Ganolfannau Atgyfeirio Cam-drin Rhywiol ac at y pryderon a nodwyd yn yr adroddiad ar ffurf y tri phwynt bwled ar dudalen 105. Cyfeiriwyd hefyd at y diffyg posibl o £80k ar gyfer ardal Heddlu Dyfed-Powys am eleni, ac at golli swyddi rheng flaen.

 

Cadarnhaodd y Comisiynydd ei fod wedi codi'r mater â Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, bu trafodaethau mewn cyfarfod 'cydweithio rhanbarthol' diweddar ar gomisiynu gwasanaethau drwy'r consortiwm, a oedd yn cynnwys trafodaethau ar gyllid gyda Chadeiryddion y Byrddau Iechyd.

 

Hysbyswyd y Panel fod swyddfa'r Comisiynydd, fel rhan o'i dull gweithredu, yn edrych ar gysondeb y ddarpariaeth wrth iddi gomisiynu yn rhanbarthol ac yn lleol. Yn lleol, cafwyd cyfarfodydd gyda'r byrddau iechyd lleol ar ariannu gwasanaethau, a llwyddwyd i ddatrys y diffyg yn y cyllid gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda; y gobaith oedd y byddai'r sefyllfa parthed Bwrdd Iechyd Powys yn cael ei datrys yn yr un modd yn y dyfodol agos.

·        Cyfeiriwyd at ddarparu gwasanaeth brysbennu yn y ddalfa ar gyfer y rheiny dros 18 oed a pha ddarpariaeth fyddai ar gael ar gyfer pobl dan 18 oed.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Comisiynu fod Bwrdd Prosiect wedi'i sefydlu i drafod y mater hwnnw ac y byddai'r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid yn cymryd rhan ynddo. O safbwynt yr Heddlu, nid oedd yn cael ei ystyried yn briodol fod pobl o dan 18 oed yn dod drwy broses y ddalfa pan oedd dewisiadau eraill, dilys ar gael.

·        Mewn ymateb i gwestiwn am Brosiect Llamau ar Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant, cadarnhaodd y Comisiynydd fod cyfran uchel o blant y riportiwyd eu bod ar goll mewn gofal. Cadarnhaodd hefyd, pan ddeuid o hyd i gam-fanteisio ar blant, fod yr heddlu'n erlyn, gan gynnwys mewn achosion o gam-drin ar-lein.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

12.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad, er gwybodaeth, a fanylai ar y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ystod y cyfnod rhwng 21 Gorffennaf 2017 a 6 Tachwedd 2017.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gyllid Cymunedol nad yw'n cael ei ddyrannu, cadarnhawyd y byddai'n cael ei gario drosodd i'r flwyddyn ariannol nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

13.

GWARIANT Y PANEL pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad diweddaru ar faint o Grant y Swyddfa Gartref ar gyfer 2017/18 y mae wedi ei wario, ac ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2017 a 30 Medi 2017 nododd fod cais o £17,093.46 wedi'i gyflwyno i'r Swyddfa Gartref allan o ddyraniad grant cyfan o £72k.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

14.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd aelodau'r Panel eu bod, yn eu cyfarfod ar 28 Gorffennaf 2017, wedi cytuno i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i wneud darn o waith craffu rhagweithiol; penderfynir yn derfynol ar y pwnc ar ôl ei sesiwn hyfforddi ym mis Medi. Dywedodd y Swyddog Arweiniol fod tri phwnc wedi cael eu cynnig ar ôl y sesiwn, fel y nodir yn yr adroddiad, ond ei bod yn bwysig nad oedd unrhyw bwnc a ddewisir yn gwrthdaro/gorgyffwrdd â gwaith sydd wrthi'n cael ei wneud gan Swyddfa'r Comisiynydd.

 

Yn dilyn amlinelliad gan y Comisiynydd o'r gwaith yr oedd ei swyddfa yn ei wneud yn y tri maes a awgrymwyd, mynegwyd y farn y gallai'r Panel drafod â'r Comisiynydd feysydd eraill posibl y gellid craffu arnynt, a hynny yn y gweithdy oedd i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a chynnal trafodaeth am sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen posibl yn y gweithdy a oedd i ddod gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

 

15.

CWYN YN ERBYN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad a roddai bedwar rheswm pam yr oedd y Cadeirydd yn argymell na ddylai'r Panel gymryd unrhyw gamau gweithredu yn dilyn cwyn a wnaed yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, ar y sail a amlinellir yn rheoliad 15(3) (e) o Reoliadau Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Cwynion a Chamymddygiad) 2012, sef y byddai gwneud fel arall yn camddefnyddio'r gweithdrefnau cwynion a ddisgrifir yn y rheoliadau hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL na ddylai'r Panel gymryd unrhyw gamau gweithredu yn dilyn y g?yn a gafwyd yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a bod y g?yn yn cael ei chau am y pedwar rheswm a nodir yn yr adroddiad.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau