Lleoliad: Ystafell Pwyllgor a, Neuadd y Sir, Llandrindod Wells
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Howell (Cyngor Sir Caerfyrddin), M. James (Cyngor Sir Penfro) a S. Joseph (Cyngor Sir Penfro).
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan Aelodau'r Panel.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU O'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
CADARNHAU PENODIAD PRIF SWYDDOG ARIANNOL PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd wrth y Panel fod eitem 5 ar agenda cyfarfod y diwrnod hwnnw yn ymwneud â rôl y Panel o ran cadarnhau penodiad gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i swydd Prif Swyddog Ariannol. Er y byddai'r Panel yn cyfweld â'r ymgeisydd llwyddiannus, dywedodd taw'r unig beth y byddai'r Panel yn gallu ei wneud oedd cadarnhau'r penodiad gan nad oedd gan y Panel b?er i roi feto. Er hynny, os oedd yn briodol, gallai roi argymhellion/sylwadau ar y penodiad hwnnw i'r Comisiynydd. Aeth y Panel ati i gyfweld â'r ymgeisydd llwyddiannus, Ms. B. Peatling, a oedd wedi ei phenodi'n Brif Swyddog Ariannol. Ar hynny diolchodd y Cadeirydd i Ms. Peatling am ddod. Yn dilyn hyn, gadawodd y cyfarfod gyda chynrychiolwyr eraill y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gadarnhau'r penodiad canlynol oedd wedi ei wneud gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: Ms.B. Peatling - Prif Swyddog Ariannol. Galwyd Ms. Peatling a chynrychiolwyr eraill y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ôl i'r cyfarfod er mwyn rhoi gwybod iddi am benderfyniad y Panel. Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau iddi hi ar gael ei phenodi, a dymunodd bob llwyddiant iddi yn ei swydd.
|
|
PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD PDF 120 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Panel adroddiad, er gwybodaeth, a oedd yn manylu ar benderfyniadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ynghylch ailstrwythuro ei Swyddfa er mwyn sicrhau y rhoddir cefnogaeth effeithlon ac effeithiol iddo gyflawni ei gyfrifoldebau statudol. Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:- · Mewn ymateb i sylw, dywedodd y Comisiynydd fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod y cyflenwyr a'r gwasanaethau yn cael eu caffael o fewn ardal Dyfed-Powys; · dywedodd y Comisiynydd y byddai'n gwneud ei orau i fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo gwaith y Panel; · estynnodd y Comisiynydd wahoddiad i'r Panel ymweld â'i swyddfeydd a'i staff pan fo hynny'n gyfleus; · eglurodd y Comisiynydd y rhesymau dros benodi y Prif Swyddog Ariannol newydd yn rhan amser, a oedd yn cynnwys cael swyddog penodedig yn hytrach na rhannu'r swydd yn llawn amser gyda'r heddlu, oherwydd gallai gwrthdaro buddiannau godi. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
CYDYMFFURFIAETH O RAN Y RHEOLIAD DIOGELU DATA CYFFREDINOL PDF 121 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Panel y byddai'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn dod i rym ym mis Mai 2018, yn lle gofynion y Ddeddf Diogelu Data. Cofrestrwyd Paneli Heddlu a Throseddu fel rheolwyr data ar wahân gyda'r Comisiynwyr Gwybodaeth ac felly mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion y Rheoliad. Roedd yn ofynnol i'r Panel weithredu mesurau sefydliadol a thechnegol priodol a oedd yn sicrhau ac yn dangos bod y Panel yn cydymffurfio â'r rheoliad. Mewn gwirionedd, nid oedd y Panel yn cadw neu brosesu unrhyw ddata personol ei hunan, ac roedd unrhyw weithgaredd o'r fath yn cael ei gyflawni drwy'r awdurdod cynnal. Roedd cofnodion y Panel yn cael eu cadw yn swyddfeydd yr Awdurdod hwnnw, a oedd yn cefnogi'r gwaith o weithredu gwefan y Panel. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu a gweithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Diogelu Data yr awdurdod cynnal, sy'n bodoli o dro i dro. |