Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Aberaeron

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Cofnodion:

 

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Howell (Cyngor Sir Caerfyrddin).

Cafodd y Comisiynydd Heddlu ei ganmol am gyfweliad radio a wnaeth yn ddiweddar, fodd bynnag, credid y gallai hefyd fod wedi manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at waith y Panel. Mynegodd y Comisiynydd Heddlu ei ddiolch am y ganmoliaeth ac ychwanegodd y byddai'n ystyried y sylw a wnaed.

Gan ymateb i sylw arall, dywedodd y Comisiynydd ei fod yn ymroi'n llwyr i gyflogi Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac y byddai'n parhau i lobïo Llywodraeth Cymru am gyllid yn hyn o beth.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION - 16 TACHWEDD 2017 pdf eicon PDF 376 KB

Cofnodion:

Tynnodd y Comisiynydd sylw at y ffaith mai ‘Llywelyn’ ac nid ‘Llewelyn’ oedd ei gyfenw.

Gwnaed y sylw y dylai penderfyniad 10.2 nodi:

‘Bod y ddau aelod agosaf i leoliad cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu yn cynrychioli'r Panel yn y cyfarfodydd yn y dyfodol.’

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys oedd wedi ei gynnal ar 16 Tachwedd, 2017 am eu bod yn gywir, yn amodol ar y newidiadau uchod.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Cofnodion:

Cofnod 9 - Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu

Gan ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd y bydd yr anawsterau TG yn cael eu datrys erbyn diwedd y mis gobeithio.

 

Cofnod 10 - Symposiwm Ymchwil

Dywedodd y Comisiynydd fod lansiad y Strategaeth Troseddau Gwledig wedi cael ymateb da yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd ac y byddai'r fforwm cyntaf mewn cyfres o fforymau heddlu gwledig Dyfed-Powys yn cael ei gynnal yn fuan. Cytunodd i anfon dyddiadau'r fforymau at y Panel.

 

Cofnod 11 - Adroddiad Cynnydd ar ddarparu Gwasanaethau a Gomisiynir

Gan ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd y byddai mater ariannu gwasanaethau a gomisiynir yn cael ei ddatrys yn fuan gobeithio.

 

Cofnod 13 - Gwariant y Panel

Gan ymateb i ymholiad, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod gan y Panel swm sylweddol yn weddill o Grant y Swyddfa Gartref ar gyfer 2017/18, a bod y swm hwnnw ar gael.

 

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD:

5.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD A. LLOYD JONES:

"Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyfarfod diwethaf y Panel hwn, cadarnhaodd eich swyddfa fod eich tanysgrifiad blynyddol i Gymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn costio £19,750.00 a TAW ac mai ffi safonol yw hon sy'n daladwy gan bob Comisiynydd Heddlu a Throseddu sy'n aelod o'r gymdeithas. Gallai hyn gyfateb i gyllideb flynyddol o £869,000 i'r gymdeithas ac mae'n darparu ar gyfer 13 aelod o staff; o'u plith, caiff 11 ohonynt eu disgrifio ar wefan y Gymdeithas fel 'rheolwyr'.

 

  1. Beth ydych chi (a thrwy hynny, pobl Dyfed-Powys) yn ei gael yn gyfnewid am y tanysgrifiad hwnnw?
  2. Sut mae hyn yn cymharu â'r gymdeithas debyg o awdurdodau heddlu a oedd yn bodoli cyn creu’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu?"

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd A. Lloyd Jones

"Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyfarfod diwethaf y Panel hwn, cadarnhaodd eich swyddfa fod eich tanysgrifiad blynyddol i Gymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn costio £19,750.00 a TAW ac mai ffi safonol yw hon sy'n daladwy gan bob Comisiynydd Heddlu a Throseddu sy'n aelod o'r gymdeithas. Gallai hyn gyfateb i gyllideb flynyddol o £869,000 i'r gymdeithas ac mae'n darparu ar gyfer 13 aelod o staff; o'u plith, caiff 11 ohonynt eu disgrifio ar wefan y Gymdeithas fel 'rheolwyr'.

 

  1. Beth ydych chi (a thrwy hynny, pobl Dyfed-Powys) yn ei gael yn gyfnewid am y tanysgrifiad hwnnw?
  2. Sut mae hyn yn cymharu â'r gymdeithas debyg o awdurdodau heddlu a oedd yn bodoli cyn creu'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Mewn ymateb dywedodd y Comisiynydd mai Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu oedd y corff cenedlaethol a oedd yn darparu cymorth i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a chyrff plismona lleol ledled Cymru a Lloegr. Dywedodd fod y Gymdeithas yn rhoi arweiniad yn genedlaethol ac yn ysgogi newidiadau ym maes plismona a chyfiawnder troseddol. Roedd y gost o danysgrifio ychydig yn llai nag o'r blaen.

 

5.2

CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE:

“Gan ystyried canfyddiadau adroddiad HMICFRS ynghylch cymorth awyr yr heddlu ym mis Tachwedd 2017 mae'n rhaid dod i'r casgliad anochel nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cael gwerth am arian o'r gwasanaeth hwnnw nac yn derbyn y cymorth amserol sydd ei angen arnynt.Gan fod y Comisiynydd yn aelod o fwrdd rheoli NPAS, a fyddai modd iddo gadarnhau beth mae'n ei wneud er mwyn gwella'r gwasanaeth yn unol â'r argymhellion sydd yn yr adroddiad ac yn benodol, er mwyn gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei dderbyn gan Heddlu Dyfed-Powys.

 

Yn ogystal, yng ngoleuni'r canfyddiadau yn yr adroddiad ynghylch y defnydd o dronau di-griw gan luoedd yr heddlu, a fyddai modd i'r Comisiynydd gadarnhau pa gamau mae'n eu cymryd ar y cyd â'r Prif Gwnstabl i edrych ar ffynonellau eraill o gymorth awyr gan gofio am fodolaeth y ganolfan ragoriaeth yn y maes hwn yn Aberporth."

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan yr Athro Ian Roffe

“Gan ystyried canfyddiadau adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) ynghylch cymorth awyr yr heddlu ym mis Tachwedd 2017, mae'n rhaid dod i'r casgliad anochel nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cael gwerth am arian o'r gwasanaeth hwnnw nac yn derbyn y cymorth amserol sydd ei angen arno. Gan fod y Comisiynydd yn aelod o fwrdd rheoli NPAS, a fyddai modd iddo gadarnhau beth mae'n ei wneud er mwyn gwella'r gwasanaeth yn unol â'r argymhellion sydd yn yr adroddiad ac, yn benodol, er mwyn gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei dderbyn gan Heddlu Dyfed-Powys.

 

Yn ogystal, yng ngoleuni canfyddiadau'r adroddiad ynghylch y defnydd o dronau di-griw gan luoedd yr heddlu, a fyddai modd i'r Comisiynydd gadarnhau pa gamau mae'n eu cymryd ar y cyd â'r Prif Gwnstabl i edrych ar ffynonellau eraill o gymorth awyr, gan gofio am fodolaeth y ganolfan ragoriaeth yn y maes hwn yn Aberporth.”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Dywedodd y Comisiynydd fod cost cymorth awyr ar gyfer yr heddlu ledled ardal Dyfed-Powys wedi gostwng ond bellach roedd yn bosibl cael mynediad i'r gefnogaeth bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd, sef darpariaeth nad oedd ar gael o'r blaen. Y gobaith oedd y byddai cyflwyno tanceri tanwydd symudol hefyd yn helpu i wella'r ddarpariaeth tua'r gorllewin. Yn ogystal, disgwylid y byddai'r ddarpariaeth gan awyrennau ag adennydd yn cael ei lledaenu'n ehangach nag a gynigiwyd yn wreiddiol a hynny er mwyn ategu gwaith yr hofrennydd. O ran defnyddio dronau, dywedodd y Comisiynydd fod yn rhaid i'r Llu ddibynnu ar asiantaethau eraill ond mai'r gobaith oedd y byddai mwy o gydweithredu dros y 12 mis nesaf. Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod y cyfleuster ym maes awyr Pen-bre yn cael ei ddefnyddio hyd eithaf ei gapasiti a'r gobaith hefyd oedd y gellid defnyddio'r trac rasio i hyfforddi gyrwyr.

 

5.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS:

“Roedd yna ddigwyddiad yng Nghanolbarth Ceredigion ar Nos Galan yn ymwneud, fel y deallaf, ag yfed dan oedran. Cafodd y Dafarn ei chau'n gynnar y noson honno gan yr Heddlu, a olygodd fod gwesteion dilys wedi gorfod gadael hefyd. Wrth gwrs, mater i'r Heddlu yw hwnnw.

 

Pa waith neu raglenni, os o gwbl, y mae'r Comisiynydd yn eu comisiynu'n bersonol, neu drwy weithio mewn partneriaethau ag eraill, er mwyn ceisio addysgu pobl ifanc ynghylch yfed a chyffuriau? A ydych yn gwybod a yw hon yn broblem fwy yn ardal Uned Reoli Sylfaenol Ceredigion o gymharu ag Unedau Rheoli Sylfaenol eraill yn ardal yr Heddlu?”

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd K. Evans

“Roedd digwyddiad yng nghanolbarth Ceredigion ar Nos Galan a oedd yn ymwneud, fe ddeallaf, ag yfed dan oed. Cafodd y dafarn ei chau gan yr Heddlu yn gynnar y noson honno ac o ganlyniad bu'n rhaid hel gwesteion dilys allan.  Mater i'r Heddlu yw hynny wrth gwrs.

Pa waith neu raglenni y mae'r Comisiynydd yn bersonol yn eu comisiynu, os o gwbl, neu sy'n deillio o waith mewn partneriaeth ag eraill, i geisio addysgu ein pobl ifanc mewn perthynas ag yfed a chyffuriau? Ar sail eich gwybodaeth chi, a yw hyn yn fwy o broblem/ystyriaeth yn ardal Uned Reoli Sylfaenol Ceredigion o gymharu ag unedau rheoli sylfaenol eraill yn rhanbarth y Llu?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Dywedodd y Comisiynydd ei bod yn anodd mesur a yw yfed a chyffuriau yn fwy o broblem ymhlith pobl ifanc yn ardal Uned Reoli Sylfaenol Ceredigion. Nid oedd yn credu hynny ond roedd yn derbyn bod yfed alcohol yn elfen sy'n cyfrannu'n sylweddol at droseddu a phwysleisiodd mor bwysig yw addysgu pobl ifanc drwy'r rhaglen cyswllt ysgolion. Roedd wrthi'n lobïo Llywodraeth Cymru am ragor o arian ar gyfer y gwaith hwn ac roedd ef ei hun wedi cynyddu'r arian sydd ar gael i'r tîm troseddau ieuenctid.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod llythyr i gefnogi gwaith lobïo'r Comisiynydd am ragor o arian yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru.

 

6.

PRAESEPT YR HEDDLU pdf eicon PDF 57 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei adroddiad ar y praesept/cyllideb arfaethedig ar gyfer 2018/19. Dywedodd ei fod wedi ymgynghori â'r cyhoedd ac wedi trafod yn fanwl gynlluniau'r Prif Gwnstabl ar gyfer lefelau staffio, gwasanaethau'r heddlu ac anghenion buddsoddi yn y dyfodol wrth gytuno ar gyllideb yr Heddlu ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod elfennau craidd y gyllideb wedi arwain at ei argymhelliad ynghylch cynyddu praesept 2017/18 gan 2.57% yn gyffredinol. Petai hyn yn cael ei dderbyn gan y Panel, byddai’n arwain at braesept yr heddlu o £49.788 miliwn a fyddai, yn sgil ei gyfuno â chyllid canolog a lleol, yn rhoi cyfanswm cyllideb o £99.100 miliwn. Byddai eiddo treth gyngor Band D ar gyfartaledd yn talu £224.56, sef 5% yn uwch na lefel 2017/18. Dywedodd y Comisiynydd fod y cynllun ariannol tymor canolig yn cynnwys gostyngiad o 4% yn y grant canolig o 2021/22 ymlaen i adlewyrchu newid posibl i'r fformiwla ac effaith hynny ar Ddyfed-Powys.

 

Ymhlith y cwestiynau/materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad oedd y canlynol:-

 

  • Cadarnhaodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y dylai'r datganiad ‘Risg a Nodwyd’ sy'n ymwneud â Chostau Cyflogau Staff yr Heddlu [gan gynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu] nodi: ‘Ni chytunwyd ar y codiad cyflog ar gyfer 2017/18 eto ac mae ansicrwydd sylweddol ynghylch hyn a chodiadau cyflog yn y dyfodol’;

·         Croesawodd yr Aelodau'r cynigion twf a gymeradwywyd a oedd yn cynnwys cyllid ar gyfer ymchwilio i seiberdroseddu, prosesu ceisiadau am arfau tanio a chyflogi prentisiaid modern;

·         Cydnabu'r Comisiynydd y byddai'r rheoliadau Ewropeaidd ynghylch data personol sydd ar fin dod i rym yn arwain at ragor o faich ariannol o ran rheoli data a sicrhau bod y broses o gadw a dileu data yn gadarn;

·         Gan ymateb i ymholiad ynghylch a fyddai modd talu am gostau ymchwiliadau mawr, annisgwyl – megis y tân angheuol yn Llangamarch – drwy gyllid allanol yn hytrach nag o gronfeydd wrth gefn, dywedodd y Comisiynydd fod cymorth ar gael gan y Swyddfa Gartref ar gyfer ymchwiliadau a oedd yn costio mwy nag £1 miliwn ond nad oedd hyn yn debygol o fod yn berthnasol yn yr achos hwn. Felly, byddai angen rhannu'r gost gyda'r Awdurdod Tân;

·         Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch y prosiect arfaethedig 'brysbennu yn y ddalfa' yn Hwlffordd y disgwylid iddo ddechrau ym mis Mai 2018.

·         Gan ymateb i gwestiwn, dywedodd y Comisiynydd fod Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi o'r farn fod y gymhareb o ran staff / heddweision yn ardal Heddlu Dyfed-Powys yn dda; 

·         Rhoddodd y Comisiynydd wybod ei fod yn Gadeirydd ar y Bwrdd Asedau ar y Cyd a oedd yn ystyried materion megis rheoli'r fflyd gerbydau a defnyddio ceir trydan;

 

Bu i'r Aelodau groesawu'r eglurder a roddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i'r materion a godwyd a gwnaethant ddiolch iddo am y gwahoddiad i'r seminar a drefnwyd ganddo ar 6 Rhagfyr 2017 mewn perthynas â'r gyllideb.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynnig y Comisiynydd i gynyddu praesept Heddlu Dyfed-Powys gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad, er gwybodaeth, a fanylai ar y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ystod y cyfnod rhwng 7 Tachwedd 2017 a 16 Ionawr 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

CWYN YN ERBYN COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad a roddai'r rhesymau pam yr oedd y Cadeirydd yn argymell na ddylai'r Panel gymryd unrhyw gamau gweithredu yn dilyn c?yn a wnaed yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, ar y sail a amlinellir yn rheoliad 15(3) (e) o Reoliadau Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Cwynion a Chamymddygiad) 2012, sef y byddai gwneud fel arall yn camddefnyddio'r gweithdrefnau cwyno a ddisgrifir yn y rheoliadau hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL na ddylai'r Panel gymryd unrhyw gamau gweithredu yn dilyn y g?yn a gafwyd yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a bod y g?yn yn cael ei chau am y rheswm a nodir yn yr adroddiad.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau