Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Iau, 16eg Ionawr, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.C. Evans a B. Jones.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Alan Speake i'w gyfarfod cyntaf wedi iddo gael ei benodi yn ddiweddar yn aelod o'r Pwyllgor, gan gymryd lle'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Gwnaed y datganiad canlynol ynghylch buddiant personol:-

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

A Davies

6 – Cynllun Busnes Drafft Adran y Prif Weithredwr 2020/23 (portffolio gwledig)

Tenant fferm sirol

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 TAN 2022/23 pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2020/21 hyd 2022/23 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 6 Ionawr 2020.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/2021, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/2022 a 2022/2023 yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol er bod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd o 4.3% fel cyfartaledd ledled Cymru ar setliad 2019/20, fod Sir Gaerfyrddin wedi cael cynnydd o 4.4% (£11.548m) gan gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £274.159m ar gyfer 2020/21. Fodd bynnag, roedd cyfrifoldebau newydd a throsglwyddiadau i'r setliad, gan gynnwys Pensiynau a Chyflogau Athrawon, a oedd yn cael eu hariannu'n rhannol yn unig o fewn y setliad, yn cyfrif am tua £5.8m neu hanner y cynnydd cyffredinol mewn cyllid.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am Grantiau Penodol i Wasanaethau Llywodraeth Cymru, a ddarparwyd ynghyd â'r setliad dros dro ar lefel Cymru gyfan, ac roedd llawer ohonynt yn aros ar lefel weddol debyg i 2018/19.

 

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol at y pwysau gwariant cynyddol ar y gyllideb, fel y nodwyd yn adran 3.4 yr adroddiad, a dywedodd er bod y pwysau hynny yn £13m, mai cyfanswm y gwerth ar gyfer twf, yn seiliedig ar y wybodaeth gyfredol, oedd dim ond £7.4m. Roedd tipyn o'r pwysau yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac yn cynnwys cynigion ynghylch datgarboneiddio, y Cynllun Datblygu Lleol a'r rhaglen Clefyd Coed Ynn. Roedd swm o £325,000 hefyd wedi cael ei gynnwys yn y rhaglen i fynd i'r afael â'r diffyg hanesyddol rhwng y rhagolwg a'r gwir incwm yn yr is-adran gynllunio.

 

Yn gryno, roedd y cynigion ynghylch y gyllideb yn cymryd bod yr holl gynigion o ran arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg yng nghynigion arbedion blynyddoedd ariannol 2021/22 a 2022/23. Byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau a/neu gytuno ar gynnydd mwy yn y dreth gyngor er mwyn mantoli'r gyllideb ar gyfer y ddwy flynedd diwethaf.  At hynny, o ystyried maint y pwysau a'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb, roedd y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor wedi parhau ar lefelau'r cynllun ariannol tymor canolig (MTFP) blaenorol o 4.89% ym mhob un o'r tair blynedd ariannol, a oedd yn cynnig rhywfaint o liniaru ar y cynigion ar gyfer arbedion.

 

I gloi, dywedwyd wrth y Pwyllgor, oherwydd yr oedi o ran derbyn y setliad dros dro a'r ffaith na fydd setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi tan 25 Chwefror 2020, y byddai'r Cyngor Sir yn gosod ei gyllideb derfynol ar 3 Mawrth 2020.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·         Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN CYMUNEDAU 2020 - 2023 pdf eicon PDF 258 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes Drafft 2020 – 2023 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Gwasanaethau Tai a Gwasanaethau Hamdden. Nodwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y drafft ar ôl cael sylwadau ac ymgysylltu â'r pwyllgor craffu, aelodau etholedig a grwpiau staff.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, mewn ymateb i gwestiwn ar ‘fuddsoddi er mwyn arbed’ yn 5 canolfan hamdden y Cyngor i leihau'r defnydd o ynni, mai costau ynni ar gyfer gwresogi pyllau nofio oedd y gost fwyaf a wynebai'r canolfannau. Er mwyn mynd i'r afael â'r rheiny, roedd pob canolfan wedi cael ei hasesu'n annibynnol gan yr Ymddiriedolaeth Garbon ac roedd trafodaethau ar y gweill i weld pa waith ychwanegol y gellid ei wneud i wella mesurau a gyflwynwyd yn flaenorol ar gyfer lleihau ynni. Roedd y mesurau blaenorol hynny wedi cynnwys gosod gorchuddion pwll nofio yn y 5 pwll, yn ogystal â phaneli solar yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin o dan y cynllun 'buddsoddi er mwyn arbed'. Fodd bynnag, gyda chynnydd o £70,000 mewn costau ynni, roedd angen mesurau lleihau pellach i wrthbwyso'r cynnydd hwnnw.

 

Dywedodd y Pennaeth Eiddo fod y Cyngor ar hyn o bryd yn trafod buddsoddiadau mewn technoleg gyda'i ymgynghorwyr ynni 'Ameresco' er mwyn lleihau'r defnydd o ynni yn ei eiddo, gan gynnwys pyllau nofio, a allai gynnwys paneli solar a gwelliannau o ran goleuadau. Rhagwelwyd y byddai'r gwaith hwnnw'n dechrau'n ddiweddarach yn 2020.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar y cyfeirnod risg SS600018 yn ymwneud â diogelwch cyfranogwyr, yn enwedig o amgylch ardaloedd d?r, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden ei fod yn cwmpasu'r risgiau y mae'n rhaid i'r Adran eu hystyried o ran y potensial i bobl foddi a chynnal ac adolygu mesurau i leihau'r risg honno. Er enghraifft, er bod achubwyr bywydau hyfforddedig ar ddyletswydd bob amser yn holl ganolfannau hamdden y Cyngor, mae'r ddarpariaeth honno'n anoddach mewn perthynas ag ardaloedd morol ac ardaloedd d?r eraill. O ran traethau a reolir gan yr awdurdod ym Mhen-bre/Cefn Sidan, mae'r RNLI yn darparu achubwyr bywydau yn ystod misoedd yr haf. Mae'r Adran yn cydnabod y risg sy'n deillio o weithgareddau d?r ac mae'n cael ei monitro yn barhaus.

·         Cyfeiriwyd at elfen y gwasanaethau diwylliannol yn y cynllun busnes sy'n ymwneud â datblygu'r Stordy a chyflawni cynllun trawsnewid yr amgueddfeydd. Gofynnwyd am sicrwydd na fyddai unrhyw ddwy amgueddfa yn cael eu cau ar yr un pryd heb fod dewisiadau eraill ar gael.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau mewn perthynas â'r Stordy a bod y cyfnod sychu o 12 wythnos yn mynd rhagddo ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod yr amodau'n briodol ar gyfer yr archifau a fydd yn cael eu storio. Rhagwelwyd y byddai'r adeilad yn agor tua diwedd gwanwyn 2020.

 

O ran cynllun trawsnewid yr amgueddfeydd, byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau na fydd unrhyw gyfleusterau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2020/2023 pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr elfen o'r adroddiad sy'n ymwneud â phortffolio gwledig y Cyngor)

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar Gynllun Busnes 2020/23 Adran y Prif Weithredwr mewn perthynas â'r Is-adran Adfywio sydd o fewn ei faes gorchwyl.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod cyllid ar gael gan yr UE a gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddai'r Cyngor yn gwneud cais am grantiau i hwyluso datblygiadau newydd o fewn ei safleoedd diwydiannol i greu cyfleoedd gwaith.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio, gan fod ganddo bortffolio diwydiannol mawr, fod y Cyngor bob amser yn archwilio ffyrdd o hawlio arian grant lle bynnag y bo modd, yn ogystal â defnyddio Cynllun Buddsoddi er mwyn Arbed y Cyngor a'r Grant Datblygu Eiddo. Roedd ymchwiliadau hefyd yn cael eu cynnal i ddichonoldeb targedu'r Fenter 10 Tref i ddarparu cyfleoedd gwaith.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd, er y byddai cyllid yr UE yn dod i ben yn 2025, fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio ar ddau gynllun cyfnewid ar gyfer cronfeydd strwythurol yr UE, sef 'Cronfa Ffyniant Gyffredin' y DU a 'Chronfa Buddsoddi Cymru’ Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd fod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru am gyllid gan Gronfa Fuddsoddi Cymru i adlewyrchu anghenion lleol a rhanbarthol ac am iddo gael ei ddatganoli i'r rhanbarthau. Roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, i ddarparu tystiolaeth ddogfennol o'r angen am Gronfa Wledig i Gymru.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar flaenoriaeth 10 ac ystad ffermydd y Cyngor, cadarnhaodd y Cynghorydd D. Jenkins nad oedd gan y Bwrdd Gweithredol unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i waredu unrhyw ran o'r ystad ffermydd. Roedd y flaenoriaeth yn ymwneud yn unig ag archwilio sut y gallai'r Cyngor gael y budd mwyaf posibl o'r ystad, e.e. darparu unedau cychwyn a chynyddu cyfleoedd datblygu/arallgyfeirio i'r eithaf, yn enwedig mewn perthynas â chynhyrchu ynni adnewyddadwy.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2020/2023 yn cael ei dderbyn.

7.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2020/2023 pdf eicon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar Gynllun Busnes 2020/2023 Adran yr Amgylchedd mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Gwasanaethau Cynllunio ac Eiddo, gan amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer yr adran dros gyfnod y Cynllun.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at y cais twf o £100,000 i fynd i'r afael â chlefyd coed ynn yn y Sir a cheisiwyd eglurhad ynghylch lle y byddai hynny'n cael ei ddefnyddio ac a oedd yn ddigonol i fynd i'r afael â'r clefyd ledled y Sir ac i blannu coed newydd.

 

Mewn perthynas â phlannu coed, dywedodd y Pennaeth Cynllunio y byddai'r gost yn cael ei thalu ar hyn o bryd o'r cyllidebau presennol a bod arian cyfatebol ar gael ar gyfer hynny. Y flaenoriaeth ar hyn o bryd i'r Cyngor yw nodi lleoliadau lle y gellid canfod coed ynn ar ei eiddo a byddai'r rhan fwyaf o'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r rhaglen honno a phenodi swyddog cydgysylltu. Er nad yw union gost ailblannu yn hysbys ar hyn o bryd, bydd angen ystyried hynny, ynghyd ag unrhyw drefn cynnal a chadw wedi hynny, yn rhan o gynigion ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol.

 

Dywedodd hefyd fod nifer mawr o goed sydd wedi'u heffeithio ar dir preifat trydydd parti ac mai un o swyddogaethau'r swyddog cydgysylltu fyddai cysylltu â pherchnogion tir preifat ynghylch eu rhwymedigaethau o ran trin/symud/ailblannu. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2020/2023 yn cael ei dderbyn.

8.

CANLYNIADAU AROLWG TENANTIAID Y CYNGOR (STAR) (2019) pdf eicon PDF 513 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ganlyniadau arolwg diweddar tenantiaid y Cyngor (STAR) 2019 a gomisiynwyd gan y Cyngor ac a gynhaliwyd ar ei ran gan ARP Research. Arolygwyd tua 5,000 o denantiaid, a derbyniwyd dros 2,000 o ymatebion i'r 8 maes cwestiynau safonol a ddefnyddiwyd ar draws y tenantiaid tai i gael meincnod mewn perthynas â darparwyr tai eraill. Y prif ymatebion i'r arolwg oedd y cyfraddau bodlonrwydd canlynol:-

 

-       82% - gwasanaethau'r Cyngor,

-       79% - ansawdd cartrefi;

-       77% - gwerth yr arian o ran rhent

-       76% - gwerth yr arian o ran y tâl gwasanaeth;

-       64% - yn gwrando ac yn gweithredu ar safbwyntiau

-       75% - gwaith atgyweirio a gwaith cynnal a chadw cyffredinol;

-       79% - y gwaith trwsio diwethaf

-       85% - y gymdogaeth fel lle i fyw

-       66% - gwasanaeth cynnal tiroedd

-       58% - delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r camau nesaf i'w cymryd mewn ymateb i ganfyddiadau'r arolwg.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar y sgôr o 58% ar gyfer delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, dywedodd y Rheolwr Ymgysylltu a Phartneriaeth ei bod yn sgôr anodd i'w mesur ac y byddai trafodaethau yn cael eu cynnal gyda thenantiaid a'r heddlu yn awr i archwilio materion a nodwyd gan yr arolwg.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr is-adran yn buddsoddi adnoddau ychwanegol yn ei thîm ymddygiad gwrthgymdeithasol a fyddai bellach yn mynd i'r afael â'r materion a nodwyd gan yr arolwg. Fodd bynnag, roedd yn rhaid cydnabod, er nad oedd sicrhau cyfradd fodlonrwydd uchel yn y dangosydd hwn yn hawdd, y byddai'r is-adran yn parhau i geisio gwella'r gyfradd.

·         O ran cwestiwn ar berfformiad y Cyngor o'i gymharu â darparwyr tai eraill, adroddwyd bod Llywodraeth Cymru yn coladu data ar ei pherfformiad ar hyn o bryd ac y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill. Roedd y Cyngor hefyd yn edrych ar ddichonoldeb dod yn aelod o glwb meincnodi lle y gallai asesu ei safle gyda darparwyr eraill o ran darpariaeth tai a chost y ddarpariaeth honno. Un o'r ffactorau a ddylanwadodd ar gymariaethau cost â chymdeithasau tai oedd oedran y stoc, gan fod stoc cymdeithasau, ar gyfartaledd, yn sylweddol iau na stoc awdurdodau lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn canlyniadau STAR 2019.

9.

SAFONAU LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS CYMRU 2017-2020 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch Asesiad Blynyddol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin 2018/19, a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, a osododd ddyletswydd statudol ar yr holl Awdurdodau Llyfrgelloedd Cyhoeddus i 'ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol' ac ar Weinidogion Cymru i 'oruchwylio a hyrwyddo'r gwaith o wella' gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru. Yn unol â'r gofyniad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei asesiad o ffurflen flynyddol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2018/19 yn erbyn y 6ed Fframwaith Asesu Ansawdd, a bodlonodd Sir Gaerfyrddin bob un o'r 12 hawliad craidd yn llawn. O blith y 10 dangosydd ansawdd oedd â thargedau, roedd Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni naw yn llawn a'r llall wedi'i fodloni'n rhannol, ac roedd yn un o ddim ond pedwar awdurdod sydd wedi cyflawni'r lefel honno.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2019/20 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Hydref 2019. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £342k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £1,728k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £333k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Mewn perthynas â chwestiwn ar y swm a ragwelwyd o £55k o werthiant uwch na rhagolwg y gyllideb o ran incwm yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman, cadarnhawyd bod hyn wedi'i briodoli i gryn dipyn o waith a wnaed ar wella ardaloedd gwlyb a sych y ganolfan, gan arwain at gynnydd mewn lefelau aelodaeth.

·         O ran cwestiwn ar yr oedi wrth ddatblygu un cynllun tai â chymorth yn Llanelli, cadarnhaodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel nad oedd yr oedi wedi arwain at gynnydd mewn costau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf.

11.

DIWEDDARIAD GWEITHREDU CRAFFU pdf eicon PDF 292 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

12.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr eglurhad a roddwyd dros beidio â chyflwyno dau adroddiad craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

13.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 31 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 5 Chwefror 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol, ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor sydd i'w gynnal ym mis Chwefror 2020.

14.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19EG TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 248 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 yn gywir.