Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Iau, 25ain Chwefror, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar (Cadeirydd), H. Davies a D. Thomas a'r Cynghorydd L.M. Stephens (Dirprwy Arweinydd y Cyngor).

 

Ar ran y Pwyllgor, estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â'r Cynghorydd Dole yn dilyn marwolaeth ei fam.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr Jason Jones i'r cyfarfod yn dilyn ei benodiad fel Pennaeth Adfywio'r Cyngor.  

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

J Gilasbey

7 - Eitemau ar gyfer y Dyfodol

Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol - Ynghylch: Pennu Rhenti Tai - Aelod o'r Teulu yn un o denantiaid y Cyngor -

J. Gilasbey

7 - Eitemau ar gyfer y Dyfodol

Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol – Ynghylch cau ysgolion - Mae aelod o'r teulu yn athro/athrawes yn un o'r ysgolion yr effeithir arnynt

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018/23 - DIWEDDARIAD EBRILL 2021 pdf eicon PDF 482 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd C. Campbell (Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig) yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer 2018-23, ym mis Ebrill 2021. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn amcanion Llesiant y Cyngor a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018, fel y'i diwygiwyd i adlewyrchu blaenoriaethau sy'n datblygu ac effaith y pandemig Coronafeirws (Covid-19), Brexit a newid yn yr hinsawdd. Er yr ystyriwyd ei bod yn arfer da sicrhau bod y Strategaeth Gorfforaethol wedi'i diweddaru a bod adnoddau wedi'u dyrannu i flaenoriaethau, nododd y Pwyllgor fod yn rhaid cyhoeddi'r Amcanion Gwella yn flynyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Mesur Cymru 2009) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Gwnaed cyflwyniadau ategol hefyd gan Aelodau'r Bwrdd Gweithredol y Cynghorydd E. Dole (Arweinydd y Cyngor sy'n gyfrifol am adfywio) L. Evans (Tai), P. Hughes Griffiths (Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth) a G. Davies (Addysg) mewn perthynas â'u portffolios penodol

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at bwynt gwella 'A' yn Amcan Llesiant 2 sef "cynyddu'r amrywiaeth o gyfleoeddgweithgarwch corfforol sydd ar gael i blant a thargedu'r rheiny sy'n wynebu risg uwch o anweithgarwch". Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y gellid cyflawni hynny heb wahanu plant oddi wrth eu dosbarth.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg, gan nad oedd gweithgareddau'n addas ar gyfer pob disgybl, fod yr awdurdod yn gweithio gydag ysgolion a disgyblion i ddatblygu a chynyddu'r ystod o weithgareddau corfforol sydd ar gael i blant. Byddai anogaeth yn cael ei rhoi i blant, lle bo angen, ond ni fyddai unrhyw blentyn yn cael ei wahanu oddi wrth ei ddosbarth.

·       Cyfeiriwyd at y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU am gyllid ychwanegol i ysgolion ac a ellid defnyddio hynny i fesur gweithgarwch mewn ysgolion fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg, er bod yr arian ychwanegol yn cael ei groesawu, yn yr un modd â dyfarniadau grant eraill a dderbyniwyd yn ddiweddar, byddai'n cael ei ddyrannu i gefnogi llesiant ac addysg plant yn ystod y cyfnod anodd hwn.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar y cynnydd yn y nifer sy'n defnyddio'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim yn dilyn y pandemig, cadarnhaodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg fod y gost yn cael ei thalu gan y cyngor ac na fyddai unrhyw blentyn mewn angen yn mynd hebddo. Cyfeiriodd hefyd at y rhai a oedd wedi colli eu swydd neu wedi'u rhoi ar ffyrlo oherwydd y pandemig a phwysleisiodd pa mor bwysig oedd i rieni yr effeithiwyd arnynt gan yr amgylchiadau hynny, neu amgylchiadau eraill, gysylltu â'r awdurdod/ysgol os oedd angen cymorth arnynt.

·       Cyfeiriwyd at yr amcangyfrif o 3,000 o swyddi a gollwyd ledled Sir Gaerfyrddin ers dechrau'r pandemig ac a oedd yr awdurdod wedi pennu unrhyw amserlen i wneud yn iawn am y colledion hynny.

 

Atgoffodd Arweinydd y Cyngor y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi datblygu cynllun adfer i helpu i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

DIWEDDARIAD GWEITHREDU CRAFFU pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

Rhoddwyd sylw i'r mater canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at benderfyniad y Pwyllgor i gynnal seminar aelodau ar Gredyd Cynhwysol a chadarnhaodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod trefniadau'n cael eu gwneud i'w gynnal ym mis Mai 2021

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig wrth y Pwyllgor y byddai'r Awdurdod yn darparu llinell ffôn benodol cyn bo hir i ddarparu cymorth a chyngor ar gyfer pob ymholiad sy'n ymwneud â budd-daliadau

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

6.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiad(au) craffu canlynol

 

·       Cynlluniau Busnes Adrannol

·       Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2019/20

 

Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai adroddiadau'r Cynllun Busnes Adrannol bellach yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 12 Ebrill, 2021.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 32 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J Gilasbey y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater)

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn y cyfarfod nesaf oedd i'w gynnal ar 12 Ebrill, 2021, ac fel y nodwyd yng Nghofnod 6 uchod, byddai'r Cynlluniau Busnes Adrannol yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 12 Ebrill, 2021, ynghyd â'r Cynlluniau Busnes Adrannol.

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2 CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 353 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: