Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau'r Cynghorwyr A. Davies, W.R.A. Davies, D.C. Evans, G.B. Thomas ac A. Vaughan Owen.
|
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant personol:-
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|||||||||||||
FERSIWN ADNEUOL DRAFFT O GYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 PDF 703 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: 1. Gan fod y Cynghorydd J. Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor tra bo'r Pwyllgor yn ystyried y mater, 2. Roedd y Cynghorwyr W.T. Evans a M.J.A Lewis wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Fersiwn Adneuol Drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 a luniwyd yn unol â phenderfyniad y Cyngor ym mis Ionawr 2018. Nodwyd bod yr adroddiad yn cynrychioli carreg filltir bwysig o ran cyflawni'r Cynllun gan ei fod yn nodi gweledigaeth o ran defnydd y tir, amcanion strategol a gofynion twf strategol y Cyngor hyd at 2033.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor yn dilyn ei ystyriaeth y byddai'r Cynllun, gan gynnwys safleoedd ymgeisio a dogfennau ategol eraill, yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor ym mis Tachwedd 2019 i'w cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, a ragwelir ar gyfer mis Rhagfyr 2019. Byddai unrhyw sylwadau a ddaw i law fel rhan o'r ymgynghoriad, ynghyd â Fersiwn Adneuol Drafft o'r CDLl, yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor i'w hystyried cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2020 er mwyn cynnal Archwiliad Cyhoeddus a'u mabwysiadu'n ffurfiol erbyn mis Rhagfyr 2021.
Nodwyd bod tudalen 9 o Grynodeb Gweithredol yr adroddiad yn manylu ar nifer o'r meysydd polisi a'r themâu allweddol a amlinellwyd yn y CDLl diwygiedig, a nodwyd hefyd mai ethos sylfaenol y Cynllun yw hyrwyddo twf. Roedd y themâu a'r polisïau hynny yn rhoi sylw i faterion megis creu lle, newid hinsawdd a chreu cymunedau cydlynus, yn ogystal ag adlewyrchu Polisïau Cynllunio Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Nodwyd bod Polisi Strategol 12 yngl?n â datblygu gwledig yn amlinellu sut y byddai'r Cynllun yn cefnogi cynigion datblygu a fyddai'n cyfrannu at gynaliadwyedd cymunedau gwledig y sir. Cafodd y cynigion hynny eu croesawu, ond gofynnwyd cwestiwn a allai'r CDLl diwygiedig fynd i'r afael â chyfyngiadau polisïau'r cynllun presennol. Roedd hyn mewn perthynas â galluogi plant ffermwyr i fyw ar y fferm drwy ganiatáu tai newydd.
Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, er y gallai'r CDLl ymdrechu i helpu o ran hyrwyddo'r ddarpariaeth honno, byddai unrhyw bolisïau mabwysiedig yn gorfod rhoi sylw i'r Polisïau Cynllunio Cenedlaethol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru a chydymffurfio â hwy. Dywedodd fod Tasglu Gwledig y Cyngor wedi trafod y mater yn flaenorol a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch hynny a oedd wedi cael eu cynnwys yn y Fersiwn Adneuol Drafft o'r Cynllun, lle y bo modd.
Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio hefyd nad oedd y sefyllfa uchod yn unigryw i Sir Gaerfyrddin a'i bod yn cael ei gweld ledled cefn gwlad Cymru. Er y gallai swyddogion lobïo Llywodraeth Cymru yngl?n â hyn, byddai'n rhaid gwneud sylwadau gwleidyddol tebyg hefyd. · Cyfeiriwyd at 4.30 ar dudalen 46 yr adroddiad ynghylch lefelau mudo a gofynnwyd am eglurhad yngl?n â'r rhesymau dros y cynnydd yn y gr?p oedran 30-44 sy'n symud i'r sir.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor, er bod yr ystadegau'n dangos ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 122 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 19 Tachwedd 2019. Nodwyd bod bwriad hefyd i gyflwyno adroddiad monitro'r gyllideb yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o'r eitemau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 19 Tachwedd 2019 yn amodol ar gynnwys yr adroddiad monitro'r gyllideb
|