Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H.B. Shepardson.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod yr eitem hon wedi'i chynnwys ar yr agenda yn ddamweiniol.

3.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIP A NODWYD MEWN PERTHYNAS AG UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant.

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

R. Evans

5 – Safonau Llyfrgell Gyhoeddus Cymru 2017-2020

Mae ei ferch yn gweithio yn Llyfrgell Llanelli

J. Gilasbey

7 – Chwarter 3 – 1 Ebrill i 31 Rhagfyr 2018 Adroddiad Monitro Perfformiad

Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli - Caniatawyd gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau iddi siarad ond nid pleidleisio

A Vaughan Owen

8 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf

Deiliad Trwydded ar gyfer Neuadd Chwaraeon y Gwendraeth

 

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

SAFONAU LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS CYMRU 2017-2020 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Datganodd y Cynghorydd R. Evans ddiddordeb tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried)

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch Asesiad Blynyddol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin 2017/18, a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, a osododd ddyletswydd statudol ar yr holl Awdurdodau Llyfrgelloedd Cyhoeddus i 'ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol' ac ar Weinidogion Cymru i 'oruchwylio a hyrwyddo'r gwaith o wella' gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru. Yn unol â'r gofyniad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei asesiad o ffurflen flynyddol Llyfrgelloedd Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2017/18 yn erbyn y 6ed Fframwaith Asesu Ansawdd, a bodlonodd Sir Gaerfyrddin bob un o'r 12 hawliad craidd yn llawn. O blith y 10 dangosydd ansawdd oedd â thargedau, roedd Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni naw yn llawn a'r llall wedi'i fodloni'n rhannol.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·         O ran cwestiwn am nifer yr ymwelwyr â'r llyfrgell deithiol, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Llyfrgelloedd fod y gwasanaeth yn cael ei sefydlu o hyd ac roedd adolygiadau'n cael eu cynnal bob chwarter er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni anghenion y gymuned. Dywedodd, er bod lefel y materion stoc wedi aros yn rhesymol sefydlog, fod y gymuned yn defnyddio'r gwasanaeth fel modd o gael gwybodaeth am wasanaeth eraill y cyngor. O ran hynny, roedd lefel darpariaeth y gwasanaeth wedi'i hestyn yn ddiweddar er mwyn cynnwys cynrychiolwyr dau 'Hwb' y Cyngor a'r Adran Tai.

·         Cyfeiriwyd at y mater o ddarpariaeth y rhyngrwyd yn yr ardaloedd mwy gwledig o'r sir, ac at yr anawsterau allai hynny achosi i'r cyhoedd, yn enwedig plant y mae angen arnynt ddefnyddio'r rhyngrwyd i gwblhau gwaith cartref. Gofynnwyd a fyddai'r gwasanaeth llyfrgelloedd yn gallu cynorthwyo i sicrhau mynediad i'r rhyngrwyd.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Llyfrgelloedd fod y gwasanaeth yn ymwybodol o anawsterau o'r fath ac roedd yn archwilio ffyrdd o gynorthwyo. Gallai hynny gynnwys estyn oriau'r llyfrgell deithiol gyda'r hwyr ac ar y penwythnos yn ogystal â chaniatáu mynediad i'r prif lyfrgelloedd y tu allan i'r oriau agor arferol. Er enghraifft, er bod staff ond yn bresennol am 15 awr yr wythnos yn Llyfrgell Llandeilo, roedd yn parhau i fod ar agor yn ystod oriau swyddfa arferol, ac mae trefniadau tebyg ar waith yn Y Gât yn Sanclêr.

·         Croesawodd y Pwyllgor y datganiad yn 3.1 yr adroddiad a nododd fod 96% o'r plant a atebodd yr arolwg wedi dweud bod ymweld â llyfrgelloedd y Cyngor wedi helpu o ran eu dysgu. Rhoddwyd sgôr gyffredinol o 9.1 allan o 10, sy'n well na'r canlyniadau o dan y 5ed Fframwaith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

6.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT - YNNI GWYNT AC YNNI'R HAUL A CHANLLAW DYLUNIO PRIFFYRDD CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am ddwy ddogfen yn ymwneud â'r Canllawiau Cynllunio Atodol a gafodd eu paratoi i gefnogi ac ymhelaethu ar bolisïau a darpariaethau Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin.

 

Nodwyd bod y Pwyllgor wedi ystyried y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft o ran Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul yn wreiddiol yn ei gyfarfod ar 11 Mai 2018, pan argymhellwyd i'r Bwrdd Gweithredol/Cyngor eu bod yn cael eu cymeradwyo at ddibenion ymgynghori. Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, mae'r adroddiad presennol yn manylu ar chwe ymateb i'r ymgynghoriad a ddaeth i law ynghyd ag argymhellion y Pennaeth Cynllunio ynghylch y mater.

 

Mewn perthynas â'r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft o ran Dylunio Priffyrdd, roedd y rheiny wedi'u hystyried gan y Pwyllgor ar 13 Rhagfyr 2018. Roedd yr adroddiad presennol bellach yn cael ei ailgyflwyno fel Canllawiau Cynllunio Atodol i'w cymeradwyo am gyfnod ymgynghori cyhoeddus cyn eu mabwysiadu’n ffurfiol.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cadarnhawyd y byddai'r canlyniadau/ymatebion a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y Canllaw Dylunio Priffyrdd yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Pwyllgor/Cyngor i'w hystyried.

·         Mewn perthynas ag adran 4.7 o'r Canllawiau Cynllunio Atodol o ran Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul am 'Ynni'r Gymuned', roedd y canllawiau'n manylu ar ddisgwyliadau'r awdurdod cynllunio lleol ynghylch grwpiau ynni cymunedol. Nid oedd y broses o geisio buddiannau i'r gymuned drwy gynlluniau o'r fath yn rhan o gwmpas ystyriaethau cynllunio a byddai unrhyw drafodaethau am hynny'n cael eu cynnal rhwng y gymuned a'r datblygwr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL/Y CYNGOR:-

 

6.1

Derbyn yr ymatebion a ddaeth i law mewn perthynas â'r Canllawiau Atodol drafft o ran Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul a chymeradwyo'r argymhellion yn yr adroddiad;

6.2

Mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol o ran Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul, yn amodol ar yr argymhellion yn yr adroddiad;

6.3

Cymeradwyo'r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft o ran Dylunio Priffyrdd, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad, at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol 6 wythnos;

6.4

Caniatáu awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Cynllunio gywiro gwallau argraffu, gwallau cartograffig neu wallau gramadegol a gwneud diwygiadau er mwyn gwella'r cywirdeb a gwneud yr ystyr yn gliriach.

 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CWARTER 3 - 1AF EBRILL I'R 31AIN O RHAGFYR 2018 pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J. Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach gan ei fod yn ymddiriedolwr Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli. Caniatawyd gollyngiad gan Bwyllgor Safonau'r Cyngor iddi siarad, ond nid pleidleisio dros faterion yn ymwneud â'r Amgueddfa).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 1 - 1 Ebrill i 30 Mehefin 2018, a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau a'r mesurau yn Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018/19 o ran cyflawni'r Amcanion Llesiant o fewn ei faes gorchwyl.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn am anhyfywedd ôl-osod technoleg adnewyddadwy yn stoc tai'r Cyngor, cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr adran yn archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio 'Cartrefi yn Orsafoedd P?er' fel rhan o brosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe a byddai adroddiad ar hynny'n cael ei gyflwyno yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol, a fyddai'n cynnwys cartrefi gofal y Cyngor.

·         Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn ei gyfarfod ar 13 Rhagfyr 2018, wedi awgrymu i'r Bwrdd Gweithredol/Cyngor ystyried bod y Cyngor yn talu'n uniongyrchol y gost a amcangyfrifir ar gyfer darparu gwersi nofio mewn ysgolion cynradd, sef £150k, a hynny fel rhan o Ymgynghoriad Cyllideb Refeniw 2019/20. Gan nad oedd hynny'n bosibl fel rhan o'r gyllideb, awgrymwyd ei fod yn cael ei gyfeirio at yr Adran Addysg i'w ystyried. Os caiff hyn ei fabwysiadu, yn ogystal â rhoi cymorth ariannol i ysgolion, byddai'n helpu i hyrwyddo ffitrwydd ymhlith plant fel rhan o'r agenda iechyd

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Hamdden er bod gwersi nofio'n cael eu darparu gan yr ysgolion fel rhan o gwricwlwm Cyfnod Allweddol 2, roedd opsiynau eraill ar gael i blant ddysgu nofio. Roedd Llywodraeth Cymru yn darparu gwersi nofio am ddim yn ystod gwyliau ysgol, a oedd yn cynnwys nifer o wersi am ddim. Roedd y Cyngor hefyd yn darparu gwersi nofio, am gost, y tu allan i oriau ysgol.

·         Atgoffwyd y Pwyllgor fod y Cyngor wedi ystyried pa mor ymarferol fyddai cyflwyno 'cerdyn sir' yn flaenorol, er mwyn cynnig gostyngiadau/cymhellion i breswylwyr ddefnyddio cyfleusterau'r Cyngor. Gofynnwyd a oedd cynnydd wedi'i wneud o ran y fenter.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod yr Adran yn archwilio pa mor ymarferol fyddai'r cerdyn sir, neu rywbeth tebyg, a'r posibilrwydd o gysylltu â sefydliadau eraill megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fodd bynnag, roedd materion technegol yn gysylltiedig â'r cynnig o ran rhannu cronfeydd data a thechnolegau, ac roedd y rheiny'n cael eu harchwilio gan Gr?p Trawsnewid Digidol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1

Derbyn yr adroddiad;

7.2

Gofyn i'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant ystyried talu'r gost a amcangyfrifir o £150k y mae'n rhaid i ysgolion cynradd ei thalu er mwyn darparu gwersi nofio fel rhan o gwricwlwm Cyfnod Allweddol 2.

 

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2018. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £225k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £1.442k yn y gyllideb gyfalaf, a rhagwelid y byddai'r Cyfrif Refeniw Tai yn cyrraedd y targed. Nodwyd hefyd y disgwylir na fydd arbedion rheoli o £160k wedi'u gwneud erbyn diwedd y flwyddyn, ond disgwylir i'r arbedion polisi gyrraedd y targed.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gorwariant rhagamcanol o £355k yn yr Is-adran Cynllunio, dywedodd y Pennaeth Cynllunio nad oedd disgwyl i'r sefyllfa newid yn y dyfodol agos a bod sefyllfa debyg ledled Cymru lle bo gwasanaethau cynllunio yn adennill 60% o gostau ar gyfartaledd. Er bod yr Adran yn archwilio ffyrdd eraill o gynyddu ei hincwm, ac y byddai adroddiad ar hynny'n cael ei gyflwyno drwy'r broses wleidyddol maes o law, dylid nodi na chaniateir iddi godi tâl ar rai gwasanaethau megis dyletswyddau gorfodi a gwrthwynebiadau i geisiadau cynllunio.

 

Dywedodd hi hefyd fod Awdurdodau Lleol Cymru wedi cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru am gynnydd yn y ffïoedd, yn enwedig o ystyried cynnydd o 20% a gyflwynwyd ar gyfer Awdurdodau Lloegr.Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi sefydlu Gweithgor i ystyried y mater hwnnw, a disgwylir i'w ganfyddiadau fod ar gael ymhen blwyddyn.

·         Mewn ymateb i gwestiwn am y gyllideb o £75k ar gyfer Clwb Bowlio Dan Do Bro Myrddin, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden ei fod yn ymwneud â chostau canolog na ellir eu rheoli ac mai’r gr?p cymunedol sy’n rheoli’r clwb sy’n gyfrifol am y costau cynnal a chadw a’r costau gweithredu o ddydd i ddydd.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar y pennawd yn y gyllideb o dan 5 x 60(E), dywedodd y Pennaeth Hamdden ei fod yn ymwneud â chynllun allanol a gyllidir gan Chwaraeon Cymru er mwyn annog pob disgybl uwchradd i wneud 60 munud o weithgarwch corfforol o leiaf 5 gwaith yr wythnos. Roedd hynny’n rhan o ymgyrch ehangach Pobl Ifanc Egnïol, a oedd yn cynnwys cynllun tebyg o’r enw Campau’r Ddraig mewn ysgolion cynradd, â’r nod o sefydlu clybiau allgyrsiol ar gyfer gweithgarwch corfforol yn yr ysgolion.

·         Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y gorwariant o £750k ar eiddo gwag yn adlewyrchu buddsoddiad ychwanegol i wneud atgyweiriadau mawr er mwyn defnyddio'r eiddo hynny unwaith eto. Disgwylir y byddai'r is-adran yn gweld lleihad yn nifer yr eiddo gwag dros y 3-6 mis nesaf o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf yn cael ei dderbyn.

 

9.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14EG CHWEFROR, 2019 pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019 yn gywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau