Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Iau, 3ydd Hydref, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D.C. Evans.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Gwnaed y datganiad buddiannau personol canlynol:-

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

G.B. Thomas

7 -  Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2019/20

Marchnad Da Byw yn Nant y Ci - Wedi derbyn gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond i beidio â phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig ar faterion yn ymwneud â Ffermio ac Amaeth neu'n sy'n debygol o effeithio arnynt.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNLLUNIO BLYNYDDOL 2019 pdf eicon PDF 527 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Blynyddol yr Is-adran Gynllunio am y cyfnod Ebrill 2018 - Mawrth 2019, a luniwyd yn unol â Thabl y Fframwaith Perfformiad Cynllunio a fabwysiadwyd yn 2014. Nodwyd bod y Fframwaith yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru, erbyn 31 Hydref bob blwyddyn, ar eu perfformiad er mwyn ei werthuso yn erbyn targedau gosod. Wedi'r gwerthusiad hwnnw, bydd perfformiad pob awdurdod lleol yn cael ei gategoreiddio i un o dri band perfformiad: Gwella (coch), Gweddol (ambr), Da (Gwyrdd) a aseswyd ar draws y pum agwedd allweddol canlynol ar ddarparu gwasanaeth cynllunio:-

 

Ø  Gwneud cynlluniau;

Ø  Effeithlonrwydd;

Ø  Ansawdd;

Ø  Ymgysylltu;

Ø  Gorfodi.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at dudalen 25 yr adroddiad ar gyllideb weithredol yr Is-adran gynllunio dros y cyfnod 2014/15 i 2018/19 gan roi sylw penodol i flwyddyn ariannol 17/18 a 18/19 lle'r oedd y gwir incwm oddeutu £400k yn llai ar gyfer pob blwyddyn na'r incwm a dargedwyd, sef £1.25m. Gofynnwyd cwestiwn a ellid lleihau'r incwm hwn i oddeutu £900k, gan ddileu'r gwahaniaethau cyllidebol i bob pwrpas.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i leihau yr incwm a dargedwyd fel yr awgrymwyd. Fodd bynnag, byddai'n rhaid ystyried costau staffio er mwyn sicrhau bod yr awdurdod mewn sefyllfa i ddarparu'r gwasanaeth statudol, fel yr oedd rheidrwydd arno i'w wneud.

 

Cadarnhaodd ymhellach fod y gyllideb bresennol yn cael ei harchwilio'n feirniadol gyda'r nod o leihau'r costau lle bynnag y bo modd.

·         Cyfeiriwyd at y cynnydd yn nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i'r awdurdod benderfynu ar geisiadau cynllunio a oedd wedi codi o 95 yn 2017 i 106 yn 2018/19 ond, mewn cymhariaeth, dim ond 77 diwrnod oedd cyfartaledd Cymru. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y rheswm dros y cynnydd ac a allai fod yn gysylltiedig â lefelau staffio.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Cynllunio fod yr Is-adran yn 2015 wedi cael adolygiad Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC), ac o ganlyniad, cyflwynwyd gwasanaeth ar ei newydd wedd gyda'r nod o weithio gyda datblygwyr i sicrhau cymeradwyo ceisiadau cynllunio, lle bynnag y bo modd. Er bod cwsmeriaid yn fwy bodlon â'r gwasanaeth hwnnw, roedd penderfyniadau yn cymryd mwy o amser. O ganlyniad, byddai'r Is-adran yn cynnal adolygiad o'r gwasanaeth yn ystod y chwe mis nesaf.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a'i anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau sef 31 Hydref.

 

5.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2018/19 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 715 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) 2018/19 ynghylch gweithrediad Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, a hwn oedd y pedwerydd adroddiad o'r fath a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2015. Yn unol ag Adran 76 o'r Ddeddf, nodwyd bod dyletswydd ar yr awdurdod i gynhyrchu'r AMB i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref bob blwyddyn wedi i'r cynllun gael ei fabwysiadu.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriodd y Rheolwr Blaen-gynllunio at gwestiwn ar ddynodi Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Llandeilo. Cadarnhaodd y byddai cynnwys ‘xxx’ yn yr adroddiad yn cyfeirio at ddata sydd ar ddod a fyddai, ar ôl ei dderbyn, yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad cyn cyhoeddi’r AMB a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

·         Cyfeiriwyd at rôl ddatblygol y Cynlluniau Lleoedd drwy'r Agenda Cynllunio Cadarnhaol a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 ac at nifer y cynlluniau sydd eisoes ar waith.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, er nad oedd unrhyw gynlluniau ar waith ar hyn o bryd, fod eu datblygiad yn broses gymharol newydd ac oherwydd diffyg eglurder, byddai angen darparu cymorth ac arweiniad ynghylch rôl Cynghorau Tref a Chymunedol a grwpiau cymunedol yn y dyfodol. Y pwynt allweddol oedd bod yn rhaid i'r cynlluniau fod yn gysylltiedig â'r CDLl ac roedd angen i'r Is-adran Gynllunio gysylltu â chymunedau am y cwmpas a'r paratoi ar ôl mabwysiadu'r CDLl diwygiedig ar gyfer 2018-2033.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL/CYNGOR fod y pedwerydd Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, a'i argymhellion, yn cael ei gymeradwyo i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref.

 

 

 

6.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CWARTER 1 - 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 1 - 1 Ebrill i 30 Mehefin 2019, a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau a'r mesurau yn Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018/19 o ran cyflawni'r Amcanion Llesiant o fewn ei faes gorchwyl.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at berfformiad y gwasanaethau hynny sy'n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor. Er y cydnabuwyd bod oddeutu 90% o'r perfformiad targed yn cael ei gyflawni, diwygiwyd 16 targed â dyddiad cwblhau diweddarach heb unrhyw esboniad ar gyfer y diwygiad. Mynegwyd barn y dylai'r adroddiad gynnwys rhesymau dros newid y dyddiadau targed er mwyn i'r pwyllgor graffu ar berfformiad yn effeithiol.

·         Cyfeiriwyd at gam 13945 yn yr adolygiad o seilwaith a rhaglennu Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn. Atgoffwyd y Pwyllgor o'i ymweliad safle diweddar â'r Ganolfan a'r angen i'r aelodau gefnogi gweithrediad parhaus y Ganolfan.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Busnes a Phrosiectau, er bod arfarniad opsiynau wedi'i wneud yn y ganolfan, fod angen gwneud rhagor o waith ar gyflwr ffisegol yr ystafelloedd cysgu a gwella profiad yr ymwelydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

6.1

Derbyn yr adroddiad

 

6.2

Bod y Pwyllgor yn cael esboniad pam roedd 16 o'r camau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad wedi derbyn dyddiadau targed diwygiedig. 

 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd G.B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon mewn perthynas â'r farchnad da byw yn Nant y Ci)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2018/19 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2019. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £574k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £236k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £172k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar y diffyg o £55k a ragwelir yng nghyllideb y farchnad da byw yn Nant y Ci, hysbyswyd y pwyllgor, er nad oedd y wybodaeth ar gael yn hwylus, y byddai trefniadau yn cael eu gwneud i aelodau gael ymateb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf yn cael ei dderbyn.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CANMOLIAETH A CHWYNION 2018/19 pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer y cyfnod 2018/19 gan dalu sylw penodol i Adrannau 10.4 a 10.6 a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl. Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y canlynol:-

 

·         nifer y cwynion yr ymchwiliwyd ac yr ymatebwyd iddynt rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019 fesul adran,

·         ystadegau o ran y negeseuon a gafwyd gan y Tîm Cwynion, ac a ailgyfeiriwyd. Roedd y rheiny'n ymwneud ag ymholiadau a cheisiadau am gymorth a oedd, unwaith y'u cyflwynwyd, yn cynnig y cyfle i geisio eu datrys

·         cwynion yr oedd yr Ombwdsmon yn penderfynu arnynt,

·         dadansoddiad o gwynion a chanmoliaeth fesul adran.

·         Crynodeb o ymholiadau cynghorwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer 2018/19.

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2018/19 pdf eicon PDF 366 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar y gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn y cyngor 2018/19 i'w ystyried. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a'i fod yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a'r materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Bwrdd Gweithredol, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen a sesiynau datblygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 30 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 16 Hydref 2019.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 16 Hydref 2019.

 

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2 GORFFENNAF, 2019 pdf eicon PDF 248 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2019 yn gofnod cywir.