Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Howells, H.I. Jones, S. Matthews, H. Shepardson a G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

CANOL TREF LLANELLI - ADFYWIO pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad am waith adfywio yng Nghanol Tref Llanelli. Mae hwn yn cyd-fynd â gwaith Tasglu Llanelli a oedd wedi ceisio ysgogi twf a buddsoddiad yng nghanol y dref dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd hynny'n cynnwys cefnogi masnachwyr, lleihau nifer yr eiddo gwag a masnachol, rhoi hwb i fusnesau, hyrwyddo canol y dref fel lle i fyw, gweithio, siopa ac ymweld ag ef, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a chan sicrhau ei fod yn lân ac yn hygyrch i bawb.

 

Nododd y Pwyllgor fod y mentrau/cronfeydd canlynol wedi'u sefydlu/sicrhau i helpu i gyflawni'r nodau a'r cynigion adfywio ar gyfer canol tref Llanelli a'r sir gyfan:-

Ø  Darparu rhaglen Stryd Cyfleoedd;

Ø  Cynllun Benthyciadau Canol Tref;

Ø  Grant Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin;

Ø  Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol Trawsnewid Sir Gaerfyrddin;

Ø  Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio.

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod y cyflwyniad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn am Grant Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd nad oedd y cynlluniau'n benodol i Lanelli a'u bod ar gael yn y sir gyfan. Cyfanswm y cyllid a oedd ar gael oedd £500,000, ac yr oedd unrhyw ddyfarniad o'r grant yn amodol ar nifer o feini prawf cymhwyso.

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr adeilad eglwys sydd wedi'i ddifrodi gan dân yn Stryd Murray, Llanelli, dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd y gallai ymchwilio i'r sefyllfa bresennol o ran yr eiddo hwnnw.

·       Cyfeiriwyd at hygyrchedd canol y dref ar gyfer beicwyr a gofynnwyd am eglurdeb ynghylch y sefyllfa bresennol o ran llunio mapiau gwybodaeth sy'n cyfeirio beicwyr o'r llwybr arfordirol i ganol y dref. Cadarnhawyd, er bod nifer o bwyntiau mynediad at ganol y dref wedi'u creu, fod rhaid gwneud gwaith ychwanegol i hysbysebu'r llwybrau hynny.

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Hamdden fod yr Awdurdod yn paratoi strategaeth feicio sir gyfan. Yr oedd hynny'n cynnwys sefydlu gr?p beicio sy'n ynnwys SUSTRANS, Grwpiau Gwirfoddol a'i Is-adran Cyfathrebu gyda'r nod o ddatblygu dull cydlynus tuag at feicio yn y Sir, a byddai hynny'n cynnwys cyhoeddi map beicio.

Yn deillio o'r uchod, cyfeiriwyd at gynnwys sefydliadau allanol megis y Gymdeithas Dreftadaeth er mwyn cael cyswllt â thwristiaeth ac annog mwy o ymwelwyr i ddod i ganol y dref i hyrwyddo atyniadau megis Plas Llanelly a Pharc Howard ar yr hysbysfyrddau gwybodaeth am dreftadaeth sydd yn yr ardal.

·       Cyfeiriwyd at yr effaith y gallai'r ardrethi busnes masnachol ei chael ar gynigion ailddatblygu canol y dref. Cadarnhawyd, yn dilyn ymarfer ailbrisio a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ailbrisio ym mis Ebrill y llynedd, fod lefel yr ardrethi ar gyfer eiddo yng nghanol y dref wedi lleihau'n sylweddol, hyd at ddwy ran o dair mewn rhai achosion. Yr oedd un o'r gostyngiadau mwyaf yng Nghymru yn Stryd Stepney a Stryd Vaughan.

·       Cyfeiriwyd at y gwaith sy'n cael ei wneud i adnewyddu eiddo yng nghanol y dref ac a yw'r Cyngor, fel landlord, wedi mabwysiadu gofyniad bod tenantiaid yn hyrwyddo dwyieithrwydd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD AMCANION LLESIANT 2017/18 CWARTER 3 - 1AF EBRILL I'R 31AIN O RAGFYR 2017 pdf eicon PDF 180 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Perfformiad Amcanion Llesiant 2017/18 ar gyfer Chwarter 3 i'w ystyried gyda golwg ar y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr 2017.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn am nifer yr ymwelwyr â chanolfannau hamdden y Cyngor, sy'n is na'r disgwyl, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y dangosydd dan sylw yn fesur cenedlaethol sy'n cynnwys cwsmeriaid sy'n talu a heb fod yn dalu ac yn cynnwys y cyfleusterau eraill a reolir gan yr awdurdod megis parciau. Er bod y ffigurau wedi cynyddu 45,000 o'u cymharu â'r un cyfnod y llynedd, yn ogystal â chynnydd cyfatebol mewn incwm, nid oeddent wedi cyrraedd y targed a gallai hyn fod yn gysylltiedig â nifer yr ymwelwyr â chyfleusterau awyr agored. Fodd bynnag, byddai'r ffigurau'n cael eu dadansoddi ymhellach er mwyn cael dealltwriaeth well o'r rhesymau dros beidio â chyrraedd y targed.

·       O ran y cynigion i ddatblygu ystod o opsiynau i wobrwyo tenantiaid am ofalu am eu cartrefi eu hunain, cadarnhaodd y Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod cynigion yn cael eu datblygu, gyda golwg ar eu cyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol. Gallai'r rheiny gynnwys, er enghraifft, gwobrwyo'r tenantiaid sy'n cadw eu cartrefi mewn cyflwr addurnol da, sy'n talu rhent ar amser neu sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol.

·       Ymatebodd y Rheolwr Cyngor a Chymorth Tenantiaeth i gwestiwn am nifer gyfartalog y diwrnodau calendr a gymerwyd i ddarparu Grant Cyfleusterau i'r Anabl a dywedodd fod tua 600 yn cael eu darparu bob blwyddyn, ac mai'r amser a gymerir er mwyn eu darparu o fewn stoc tai'r Cyngor yw 50 diwrnod ar gyfartaledd. Fodd bynnag, gallai'r amser a gymerir yn y sector preifat fod yn hwy o lawer, gan mai perchennog y t?, nid y Cyngor, sy'n gyfrifol am gomisiynu adeiladwr i ymgymryd â'r gwaith. Cadarnhaodd fod y Cyngor yn monitro ansawdd y gwaith a wneir ac nad oedd prosiectau yn cael eu cymeradwyo os nad oedd y safonau gofynnol yn cael eu bodloni.

·       Ymatebodd y Rheolwr Cyngor a Chymorth Tenantiaeth i gwestiwn am ddigartrefedd a chadarnhaodd fod yr Adran yn ymgymryd ag asesiadau rheolaidd ynghylch nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd, a nodwyd yn yr un diweddaraf fod 11 o unigolion o'r fath. O'r rheiny, darparwyd llety i hanner ohonynt ac yr oedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r lleill. Yr oedd strategaeth digartrefedd newydd yn cael ei pharatoi hefyd, mewn ymgynghoriad â'r sector gwirfoddol, i'w chyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol.

·       Cyfeiriwyd at themâu ymgyrchoedd amrywiol o ran twristiaeth e.e. y Flwyddyn Chwedlau, Blwyddyn y Môr 2018 a Blwyddyn Darganfod Cymru Gyfan 2019 ac a yw'r awdurdod yn elwa ar y rheiny. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod yr awdurdod yn gallu cynllunio i gyflwyno pob thema wrth iddi gael ei chyhoeddi, a'i fod yn achub ar bob cyfle i dderbyn cyllid er mwyn helpu i'w hyrwyddo a manteisio ar y buddion i Sir Gaerfyrddin.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

DARPARU BYNGALOS FFORDDIADWY YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad am ddarparu byngalos fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin, a oedd yn cynnwys y canlynol:-

Ø  Golwg gyffredinol ar yr angen, y galw a'r ddarpariaeth bresennol o ran byngalos fforddiadwy;

Ø  Manylion am ddemograffeg tenantiaid presennol ac ymgeiswyr sy'n dymuno dod yn denantiaid i'r Cyngor;

Ø  Amlinelliad o'r dewisiadau eraill ar gael i helpu tenantiaid h?n ac anabl i barhau i fod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at ddiffyg tai un ystafell wely sydd ar gael yn yr ardaloedd gwledig a nifer yr eiddo dwy ystafell wely sydd ar gael sydd, yn unol â pholisi'r Cyngor, yn cael eu dyrannu i'r rheiny sydd dros 55 oed. Gofynnwyd am eglurdeb o ran gweithredu'r polisi hwnnw mewn perthynas â phobl anabl o dan y terfyn oedran hwnnw sydd am aros yn y gymuned yn agos at gymorth eu teuluoedd.

Cadarnhawyd, er bod y Cyngor yn gweithredu'n unol â'r polisi dros 55 wrth ddyrannu, y caniateir eithriadau lle mae cyflyrau meddygol a chorfforol yn berthnasol. Mae'r Cyngor hefyd yn defnyddio cofrestr tai hygyrch lle gellir gwneud addasiadau i eiddo unigolyn er mwyn diwallu ei anghenion penodol.

·       Cafwyd trafodaeth sylweddol o ran y mathau o dai a ddarperir gan y Cyngor a'r angen i ddiwallu anghenion newidiol tenantiaid e.e. symud i d? llai ar ôl i'r plant adael, yr angen am d? mwy wrth i deuluoedd dyfu. Fel rhan o'r drafodaeth honno cyfeiriwyd at gynnwys yr Is-adran Cynllunio wrth edrych ar yr angen i adeiladu eiddo mewn perthynas â pharatoi'r CDLl diwygiedig.

Wrth ymateb i'r materion a godwyd, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor gan Bennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel mai'r galw mwyaf yr oedd y Cyngor yn ei wynebu oedd darparu llety un ystafell wely ar gyfer pobl sengl. Cyfeiriodd at awgrym y Pwyllgor i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen er mwyn archwilio'r ddarpariaeth o fyngalos a dywedodd y byddai angen bod yn benodol o ran maes gorchwyl y gr?p a'r canlyniadau posibl. Felly awgrymodd y byddai'n fuddiol, yn y lle cyntaf, iddo baratoi dogfen gwmpasu sy'n adlewyrchu safbwynt y Pwyllgor ac yn nodi lefel yr adnoddau sydd ar gael i hwyluso'r gwaith o gyflawni unrhyw ganlyniadau.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLbaratoi dogfen gwmpasu ynghylch darparu byngalos fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin i'w chyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhesymau a roddwyd dros beidio â chyflwyno dau adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

9.

30AIN IONAWR, 2018 pdf eicon PDF 272 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at benderfyniad Cofnod 5 a nodwyd yn 'unfrydol'. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod hyn yn anghywir ac y dylai fod wedi darllen 'PENDERFYNWYD'

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Ionawr, 5 yn gofnod cywir yn amodol ar newid y penderfyniadau yng Nghofnod 3 i ddarllen 'PENDERFYNWYD'.

 

10.

16EG CHWEFROR, 2018 pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2018 yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau