Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. Davies a B.A.L. Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIP A NODWYD MEWN PERTHYNAS AG UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant personol:-

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G.B. Thomas

4 – Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 – Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir

Ardaloedd Gwledig yn gyffredinol

A Davies

4 – Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 – Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir

Mae wedi cyflwyno cais i gynnwys safle yng Nghynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018-2033.

A Vaughan Owen

4 – Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 – Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir

Mae perthynas wedi cyflwyno cais i gynnwys safle yng Nghynllun Datblygu Lleol Diwygiedig  2018-2033.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018-2033 FERSIWN DRAFFT O'R STRATEGAETH A FFEFRIR pdf eicon PDF 439 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.     Roedd y Cynghorydd G.B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a chaniatawyd gollyngiad gan Bwyllgor Safonau'r Cyngor iddi siarad, ond nid pleidleisio dros faterion yn ymwneud â ffermio.

2.     Roedd y Cynghorydd A. Davies a'r Cynghorydd A. Vaughan Owen wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin (CDLl) 2018-2033 a oedd yn nodi gweledigaeth y Cyngor o ran defnydd tir, amcanion strategol a gofynion twf strategol ar gyfer y Sir hyd at 2033. Nodwyd y cymeradwywyd y Strategaeth gan y Cyngor ar 14 Tachwedd 2018 ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol am gyfnod statudol o 6 wythnos o leiaf, a fyddai'n dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 10 Rhagfyr 2018 am gyfnod o 8 wythnos (gan ystyried y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd), a disgwylir i adroddiad ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad fod yn barod i'w gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mawrth 2019.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar y strategaeth:-

 

·        Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at gyfarfod diweddar y Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig lle trafodwyd y Strategaeth a chodwyd y tri mater canlynol fel meysydd sy'n peri pryder yn unol â'r angen i warchod ac adfywio ardaloedd gwledig:-

 

1.     Nid oedd darpariaeth yn y cynllun i fynd i'r afael â'r trafferthion o ran cael caniatâd cynllunio ar gyfer anheddau bach ar leiniau o dir, yn enwedig tyddynnod, lle'r oedd y perchnogion wedi byw drwy gydol eu bywydau;

2.     Roedd tai fferm traddodiadol yn hen ac yn fach a chafwyd trafferthion o ran cael caniatâd cynllunio i hwyluso'r gwaith o'u hestyn yn fwy na 20-30% o'r maint gwreiddiol. Y farn oedd yr oedd y polisi hwnnw'n gyfyngol, yn enwedig pan roddir caniatâd cynllunio i eiddo mawr newydd mewn ardaloedd anheddau;

3.     Roedd y polisïau cynllunio presennol yn ei gwneud hi'n anodd i'r gymuned ffermio amrywio ei busnesau er mwyn sicrhau'r incwm mwyaf posibl, er enghraifft drwy ddarparu cyfleusterau gwersylla/twristiaeth.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Blaen-gynllunio bod y ddogfen bresennol yn manylu ar weledigaeth y Cyngor o ran defnydd tir, amcanion strategol a gofynion twf strategol ar gyfer y Sir hyd at 2033 ac nid yw'n cynnwys polisïau penodol. Byddai'r rheiny'n rhan o'r fersiwn adneuol drafft o'r Cynllun Datblygu Lleol a fyddai'n manylu ar Bolisïau Cynllun Rheoli Datblygu ac yn cael ei baratoi dros y deuddeg mis nesaf fel rhan o'r broses ymgynghori statudol.

 

·        Cyfeiriwyd at ddyraniadau safleoedd Tai yn y CDLl presennol ac a fyddai rhai o'r rheiny, neu bob un ohonynt, yn cael eu cynnwys yn y Cynllun newydd, o ystyried cynigion i leihau'r dyraniadau dros gyfnod y cynllun.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio mai un o nodau'r Cynllun newydd fyddai sicrhau y bydd modd ei gyflawni, a chan y byddai lefel y dyraniadau tai'n lleihau, byddai angen i'r adran roi sylw beirniadol i'r holl safleoedd sy'n cael eu cyflwyno i'w cynnwys. Os nad oedd perchnogion y safleoedd hynny'n gallu darparu ffeithiau ar sail tystiolaeth er mwyn dangos  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

STRATEGAETH DDIGARTREFEDD RANBARTHOL pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi cymeradwyo'r gwaith o baratoi Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol yn ei gyfarfod ar 11 Mai 2018, ac roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar y diwrnod hwnnw wedi nodi'r themâu a'r blaenoriaethau allweddol ynghylch sut y byddai Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys yn atal digartrefedd dros y blynyddoedd nesaf.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar y strategaeth:-

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr amser i ailgartrefu pobl y mae angen llety arnynt ar frys, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel ei bod yn cymryd oddeutu 3-4 mis ar gyfartaledd. Rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod llety gwely a brecwast ond yn cael ei ddefnyddio mewn argyfwng mewn amgylchiadau o'r fath, a bod y rhan fwyaf o'r unigolion digartref hyn yn cael cartrefi dros dro o ansawdd.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol i'r holl hawlwyr budd-daliadau yn Sir Gaerfyrddin ym mis Rhagfyr 2018, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr awdurdod yn ymwybodol o'r effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar ei denantiaid ac y byddai'n monitro'r sefyllfa'n wythnosol.

 

·        Cyfeiriwyd at Asiantaeth Gosod Tai'r Cyngor ac a yw ei wasanaethau'n cael eu hyrwyddo'n ddigon i'r sector preifat o ystyried y ffaith bod yr 160 o'r eiddo sy'n cael eu rheoli ar hyn o bryd yn llai na'r 180 a oedd yn cael eu rheoli yn y gorffennol.

 

O ran landlordiaid yn mynd i mewn i'r maes gosodiadau tai ac yna'n gadael, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel nad yw nifer yr eiddo a reolwyd gan yr awdurdod wedi newid llawer dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhoddodd sicrwydd fod ymdrechion yn cael eu gwneud yn barhaus i annog landlordiaid preifat i fanteisio ar ei wasanaeth, a gynigir fel pecynnau Efydd, Arian ac Aur. Hefyd roedd trafodaethau'n parhau ynghylch sut y gellid sicrhau bod y pecynnau hynny'n fwy deniadol ledled y sir.

 

·        Cyfeiriwyd at y defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth i atal digartrefedd, a'r gronfa ddata a weithredir gan rai awdurdodau lleol yn Lloegr i fonitro a nodi unigolion sydd mewn perygl a rhannu gwybodaeth â darparwyr tai eraill a'r trydydd sector. Dywedodd yr Arweinydd - Cyngor ynghylch Tai y cafwyd trafodaeth ynghylch mabwysiadu dull Lloegr â Llywodraeth Cymru, a oedd wedi cytuno i'w gyflwyno ar draws Cymru.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch darparu llety i berson sengl, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y cydnabuwyd, er mai nod y model presennol oedd canolbwyntio ar lety i berson sengl mewn ardaloedd penodol megis Heol yr Orsaf, Llanelli, y gallai'r ymagwedd honno gael effaith niweidiol ar unigolion agored i niwed. O ystyried y gydnabyddiaeth honno, roedd archwiliadau'n cael eu cynnal ynghylch y dichonoldeb o ran newid o ddarpariaeth fwy cryno i ddarparu unedau llai wedi'u gwasgaru sy'n haws eu rheoli ac sy'n parhau i fod yn agos i wasanaethau.

 

·        Cyfeiriwyd at y cynnig a nodwyd yn yr adroddiad i'r awdurdod ddarparu cymorth yn y gymuned er mwyn helpu i atal digartrefedd. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2018. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £300k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £362k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £237k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gorwariant rhagamcanol o £326k yn yr Is-adran Cynllunio, dywedodd y Pennaeth Cynllunio nad oedd disgwyl i'r sefyllfa newid yn y dyfodol agos a bod sefyllfa debyg ledled Cymru lle bo gwasanaethau cynllunio yn adennill 60% ar gyfartaledd. Yn ôl y targedau presennol disgwyliwyd i'r Is-adran adennill 80%, ond roedd yn adennill tua 60% mewn gwirionedd, yn unol â'r cyfartaledd yng Nghymru. Roedd yr Is-adran yn archwilio ffyrdd gwahanol o gynyddu ei hincwm a allai gynnwys codi tâl ar gyfer cyngor cyn cynllunio, er enghraifft. Fodd bynnag, dylid nodi hefyd na chaniateir i'r Is-adran godi tâl ar gyfer rhai gwasanaethau, megis dyletswyddau gorfodi.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch refeniw uwch ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod potensial i hwn gynyddu dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig o ystyried cynigion buddsoddi'r Cyngor a oedd yn cynnwys seilwaith newydd, Wi-Fi, bloc cyfleusterau a bwyty. Fodd bynnag, byddai adeg yn dod pan fyddai'r cynnydd yn arafu.

·        Cyfeiriwyd at y diffyg gweithredol yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn ac a oedd gan y Cyngor strategaeth i fynd i'r afael â'r diffyg.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, er bod strategaeth ar waith a oedd yn lleihau'r diffyg, fod angen buddsoddi yn y safle gan fod rhai o'r adeiladau wedi bod ar y safle ers dros 50 mlynedd, ac roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i fynd i'r afael â hynny, a allai arwain at gyflwyno cynnig am gyllid cyfalaf.

·        Cyfeiriodd y Pennaeth Hamdden at gwestiwn ynghylch y costau o £10k yng nghyllideb yr amgueddfeydd ar gyfer cyflogi cynorthwyydd dogfennaeth, a chadarnhaodd fod y swydd wedi'i chreu ar gontract penodedig o flwyddyn er mwyn cynorthwyo â'r gwaith a oedd yn aros i'w wneud o ran cofnodi'r arteffactau a gedwir gan y gwasanaeth, a oedd yn ofynnol i gael eu hachredu.

 

O ran nifer yr arteffactau a gedwir gan y Gwasanaeth Amgueddfeydd, dywedodd fod polisi ar waith ynghylch casgliadau a gwarediadau.

·        Cyfeiriwyd at yr amrywiaeth o £494k yn incwm rhent tai'r awdurdod a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y rheswm dros y cynnydd o 0.8% yn lefel yr eiddo gwag a'r golled cysylltiedig yn yr incwm rhent.

 

Dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod rhagdybiaeth yn cael ei gwneud bob blwyddyn ynghylch lefel yr eiddo gwag yn ystod y flwyddyn fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb. Ar gyfer 2018/19, y rhagdybiaeth hon oedd 2.1% o'r incwm rhent, ond bellach disgwylir iddi gynyddu i 2.9%. Y prif reswm dros yr amrywiaeth oedd nifer o eiddo gwag yr oedd angen gwaith helaeth arnynt er mwyn eu dychwelyd i'r stoc tai. Fodd bynnag, roedd cyllid ar gael i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2017/18 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar y gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn y cyngor 2017/18 i'w ystyried. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a'i fod yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a'r materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Bwrdd Gweithredol, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen a sesiynau datblygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

8.

DIWEDDARIAD GWEITHREDU CRAFFU pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r ceisiadau, neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

O ran CS031 - 17/18 rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y seminar i'r aelodau ar weithgareddau adfywio yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei aildrefnu ar gyfer 30 Ionawr 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 13 Mawrth 2018. Dywedwyd bod yr adroddiad arfaethedig ynghylch y Cynllun Gweithredu Credyd Cynhwysol wedi'i dynnu'n ôl ar ôl i'r agenda ar gyfer y cyfarfod gael ei ddosbarthu, ac y byddai bellach yn cael ei gyflwyno i'w gyfarfod ar 23 Ionawr 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar yr adroddiad ynghylch y Cynllun Gweithredu Credyd Cynhwysol yn cael ei aildrefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Ionawr 2019, gytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a'i chyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar 13 Rhagfyr 2018.

 

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 46 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhesymau a roddwyd dros beidio â chyflwyno pedwar adroddiad craffu.

 

O ran yr oedi cyn cyflwyno'r Adroddiad Safonau Tai Fforddiadwy, cyfeiriwyd at ddatganiad diweddar i'r wasg a ddywedodd fod diffyg staff mewn adrannau cynllunio awdurdodau lleol yn cael effaith niweidiol ar y ddarpariaeth o gartrefi o'r fath yng Nghymru. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllun nad oedd y datganiad yn berthnasol i Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

11.

LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR COFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL

11.1

21AIN MEDI 2018 pdf eicon PDF 209 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Medi 2018 yn gofnod cywir.

 

11.2

4YDD HYDREF 2018 pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 4 Hydref 2018 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau