Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Iau, 4ydd Hydref, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H. Davies.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Gwobrau TIC a gynhaliwyd yn ddiweddar (Trawsnewid i Wneud Cynnydd) a mynegodd ei llongyfarchiadau i'r staff yn y gwasanaeth Llyfrgelloedd ar ennill gwobr am y prosiect  'Stordy Creadigol' yn Llyfrgell Rhydaman.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIP A NODWYD MEWN PERTHYNAS AG UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Cafwyd y datganiad o fuddiant canlynol:

 

Y cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J Gilasbey

6 – Chwarter 1 – Adroddiad Monitro Perfformiad 1Ebrill i 30 Mehefin

Ymddiriedolwr Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNLLUNIO BLYNYDDOL pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Perfformiad Blynyddol yr Is-adran Gynllunio ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018, lluniwyd yr adroddiad yn unol â gofyniad Tabl y Fframwaith Perfformiad Cynllunio, ac yr oedd rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn i'w werthuso'n unol â'r dangosyddion a'r targedau a bennwyd. Yn dilyn y gwerthusiad, byddai perfformiad pob awdurdod cynllunio lleol yn cael ei osod mewn un o dri band perfformiad: Gwella (Coch), Gweddol (Ambr), Da (Gwyrdd) sy'n cael eu hasesu ar draws y pum agwedd allweddol ar ddarparu'r gwasanaeth cynllunio fel y nodir:-

 

Ø  Gwneud cynlluniau;

Ø  Effeithiolrwydd;

Ø  Ansawdd;

Ø  Ymgysylltu;

Ø  Gorfodi.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) a p'un a oedd gan yr Is-adran Gynllunio unrhyw gynigion i gyhoeddi canllawiau ychwanegol yn y dyfodol agos, er enghraifft mewn perthynas â defnydd cymysg.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio er bod yr Is-adran, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi cyhoeddi nifer o Ganllawiau Cynllunio Atodol, byddai unrhyw ganllawiau yn y dyfodol, yn rhan o broses adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Os oedd gan yr aelodau unrhyw feysydd yr oeddent yn teimlo bod angen eu hystyried o ran cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol, dylent roi gwybod i'r Adain Blaen-gynllunio a fyddai'n edrych ar yr ymarferoldeb o fynd i'r afael â rhain o fewn y CDLl diwygiedig.

·       Cyfeiriwyd at dudalen 21 yr adroddiad at gyllideb weithredol yr Is-adran Gynllunio yn ystod y cyfnod 2012/13 a 2017/18. Gofynnwyd am eglurhad pam mae'r incwm gwirioneddol sy’n cael ei gronni yn aml yn llai na'r incwm a gafodd ei gyllidebu, ac, a oedd cyfiawnhad dros archwilio targed y gyllideb er mwyn adlewyrchu'r lefel incwm gwirioneddol yn fwy cywir.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod nifer o ffactorau yn effeithio ar lefelau incwm, y mwyaf amlwg oedd y niferoedd a'r categorïau o ran ceisiadau cynllunio a oedd yn dod i law, er enghraifft ceisiadau cynllunio bach domestig a cheisiadau diwydiannol/masnachol mawr a lefel y ffioedd y gellid eu codi yn ôl pob categori.

 

Hefyd roedd lefel y ffioedd sy’n cael eu codi yn broblem i Awdurdodau Lleol yng Nghymru gan nad oedd hawl ganddynt i brosesu ceisiadau cynllunio ar sail adfer cost lawn, yn yr un modd ag y mae awdurdodau yn Lloegr yn gwneud. Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bwlch hwnnw, roedd yn disgwyl i awdurdodau lleol yng Nghymru gynyddu eu lefelau incwm cyn y byddai'n rhoi ystyriaeth i godi ffioedd cynllunio. Roedd yr Awdurdod felly’n ystyried cyflwyno Atodlen o ffioedd ar gyfer y gwasanaethau sy’n cael eu darparu'n rhad ac am ddim ar hyn o bryd e.e. cyngor cyn cynllunio. Pe bai hynny'n cael ei gyflwyno, byddai'r cynnydd o ran incwm hefyd yn helpu i leihau'r gwarged, ond ni fyddai'n gwneud yn iawn am y diffyg gwirioneddol. Fodd bynnag, byddai cyflwyno ychydig o gynlluniau mawr yn helpu i leihau'r diffyg hwnnw.

 

Roedd y drydedd agwedd yn gysylltiedig â chostau'r is-adran gynllunio wrth ymgymryd â rôl orfodi'r Awdurdod Cynllunio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

YMWELIADAU GWIRIO CARTREF pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar yr Ymweliadau Gwirio Cartref a gynhaliwyd ar stoc tai y Cyngor i sicrhau ei fod yn cynnal y safon a osodwyd o dan y Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy sy'n galluogi'r awdurdod i:-

 

Ø  Nodi unrhyw atgyweiriadau y gellir adennill eu costau yr oedd y tenant yn gyfrifol amdanynt

Ø  Darparu cyngor cynnal a chadw ataliol

Ø  Nodi unrhyw faterion llesiant a chytuno ar y camau nesaf

Ø  Darparu cyngor ar arian os oes angen

Ø  Asesu a oedd y cartrefi yn bodloni anghenion aelwydydd yn y dyfodol

Ø  Adroddiad ar faterion sy'n weddill ac angen eu hatgyweirio

Ø  Nodi unrhyw achosion o dorri tenantiaeth

 

Nodwyd bod dwy ran i'r broses o ymgymryd â'r ymweliadau Yn gyntaf, mae'n cynnwys archwiliad blynyddol sylfaenol gan swyddogion tai, gweithwyr atgyweirio, arolygwyr technegol neu gontractwyr gwasanaeth. Yn ail, byddai unrhyw faterion a fyddai'n codi o'r archwiliad sylfaenol o ran y denantiaeth a/neu lesiant yn cael eu hadrodd yn ôl i'r tîm ymgysylltu a fyddai'n cynnal ymweliad mwy manwl â chartref y tenant. Ar gyfer y cyfnod 1Ionawr i 1 Medi 2018 cyflawnwyd cyfanswm o 7,611 o wiriadau sylfaenol i dai'r Cyngor, o blith stoc o 9,000, gyda 322 o dai (5%) yn cael eu cyfeirio ar gyfer ymweliad mwy trylwyr gan swyddog tai.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn am adborth tenantiaid ar ymweliadau mwy trylwyr, roedd y Rheolwr Partneriaeth ac Ymgysylltu wedi atgoffa'r Pwyllgor mai hon oedd blwyddyn gyntaf yr Ymweliadau Gwirio Cartref o weithredu. Y gobaith oedd wrth i amser fynd heibio, y byddai adborth yn y dyfodol yn darparu gwybodaeth werthfawr am farn y tenantiaid am y gwasanaeth tai.

 

Nodwyd hefyd bod cynigion ar gyfer y dyfodol yn cynnwys yr is-adran yn cynnal 'arolwg seren', yn ogystal â'r adborth am yr ymweliadau gwirio cartref, gan geisio barn yr holl denantiaid am y gwasanaeth a ddarperir ynghyd ag unrhyw feysydd y maent yn teimlo y gellid eu gwella/darparu er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus i'r gwasanaeth.

 

Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel mai un ffactor pwysig sydd wedi deillio o arolygon o'r fath oedd datblygu rhaglen cynnal a chadw ataliol i sicrhau bod adnoddau priodol yn eu lle i dargedu atgyweiriadau megis nwyddau d?r glaw i atal problemau rhag codi yn y dyfodol. Yn ogystal, wrth i'r arolygon ddatblygu byddai'r awdurdod yn gallu casglu rhagor o wybodaeth am farn ei denantiaid.

 

·        Cyfeiriwyd at y 7,611 o wiriadau sylfaenol a gyflawnwyd a chafwyd cais i aelodau'r Pwyllgor gael, drwy e-bost, ddadansoddiad o'r rheini fesul ward ac a oedd rhain wedi cael eu cynnal gan y swyddogion tai, contractwyr gwasanaethau yn ystod ymweliadau atgyweirio neu mewn ymateb i alwadau cymorth i denantiaid ac ati.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad Ymweliadau Gwirio Cartref

 

6.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CWARTER 1 - 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2018 pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Datganodd y Cynghorydd J. Gilasbey fuddiant yn ystod yr eitem hon oherwydd ei bod yn Ymddiriedolwr Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli)

 

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 1 sef rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2018 i'w ystyried a oedd yn rhoi manylion y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018/19 o ran cyflawni'r Amcanion Llesiant yn ei gylch gwaith.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn am y canran o aelwydydd a lwyddwyd i'w hatal rhag dod yn ddigartref (dangosydd PAM/01), dywedodd y Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel mai un o'r rhwystrau mwyaf o ran y dangosydd oedd pobl yn cyflwyno'u hunain yn hwyr i'r adran dai a oedd mewn perygl gwirioneddol o fod yn ddigartref. Pwysleisiodd mor bwysig oedd i bobl oedd ar fin dod yn ddigartref i  gysylltu â'r adran pan fo awgrym o hynny er mwyn eu helpu i ddod o hyd i ateb ar gyfer eu hanhawster. Roedd yr adran, mewn partneriaeth â'r sector gwirfoddol a'r trydydd sector, yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu a hefyd pwysleisio'r angen am ymyrraeth gynnar.

·        Gofynnwyd am eglurhad ar gyfer dangosydd PAM/039 a pham yr oedd staff asiantaeth yn cael eu penodi i leihau nifer yr eiddo gwag.

 

Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod adnoddau wedi cael eu neilltuo i ymgymryd ag atgyweiriadau i eiddo gwag y Cyngor, roedd tua 70 angen gwaith sylweddol. Yr Is-adran Eiddo yn yr Awdurdod oedd yn gyfrifol am ddylunio/amserlennu'r gwaith hwn ac er mwyn eu cwblhau ar y dyddiad cynharaf posibl roedd wedi bod yn angenrheidiol i benodi staff asiantaeth i gynorthwyo gyda'r llwyth gwaith yn y tymor byr. Rhagwelwyd y gellid gwneud cynnydd sylweddol dros y 6-12 mis nesaf i ailgyflwyno'r eiddo hynny i'r stoc tai.

·        Nododd y Rheolwr Datblygu Economaidd, mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â Gweithred 13165 a'r Ddogfen Trawsnewidiadau, eu bod yn ymwneud â Strategaeth Adfywio'r Cyngor ar gyfer y cyfnod 2015-2030 i greu gwaith yn y tair prif ganolfan sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, y llain arfordirol, ardaloedd gwledig a Cross Hands. Dywedodd hefyd fod adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i 'safleoedd ymgeisio' ar gyfer cyflogaeth i'w cyflwyno i'r adran gynllunio fel rhan o'r adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf ar gyfer Tai, Adfywio, Cynllunio a Gwasanaethau Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 3O Mehefin, 2018. Nodwyd bod y gyllideb refeniw yn rhagweld gorwariant o £331k, tanwariant o £246k yn y gyllideb gyfalaf, ac roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £98k.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf yn cael ei dderbyn.

 

 

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 44 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr eglurhad a roddwyd dros beidio â chyflwyno adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 23 Tachwedd 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 23 Tachwedd 2018.