Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Mawrth, 2ail Gorffennaf, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AM Y FLWYDDYN DDINESIG 2019/20

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd F. Akhtar yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20.

 

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr C.A. Davies, W.R.A. Davies a H.I. Jones.

 

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

 

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

 

5.

ADEILADU MWY O DAI CYNGOR - EIN HUCHELGAIS A'N CYNLLUN GWEITHREDU pdf eicon PDF 743 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys cynllun trawsnewidiol 'Adeiladu mwy o Dai Cyngor - Ein Huchelgais a'n Cynllun Gweithredu' a oedd â'r nod o ddarparu dros 900 o dai Cyngor newydd dros y 10 mlynedd nesaf.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ac argymhellion arfaethedig mewn perthynas â'r canlynol:

 

·       ble a phryd y byddai'r tai'n cael eu hadeiladu;

·       yr adnoddau sydd ar gael a'r modelau darparu fyddai'n cael eu defnyddio;

·       sut y byddai blaenoriaethau adfywio ehangach ledled y sir yn cael eu cefnogi; 

·       sut y byddid yn manteisio ar gyfleoedd newydd wrth iddynt godi.

 

Byddai'r cynllun gweithredu yn arwain at y cynnydd mwyaf yn nifer y tai Cyngor yn y sir ers y 1970au ac yn dychwelyd y stoc dai i'r lefelau a welwyd ddiwethaf yn y 1990au.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu bod darparu mwy o dai fforddiadwy yn flaenoriaeth strategol allweddol i'r Cyngor sy'n rhan o weledigaeth pum mlynedd i gynyddu'r cyflenwed o dai fforddiadwy. Yn 2016, dechreuodd y Cyngor ar ei rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol 10 mlynedd i ddarparu dros 1000 o dai fforddiadwy ychwanegol ledled y Sir.  Mae'r Cyngor bellach yn ei bedwaredd blwyddyn o ddarparu'r tai fforddiadwy, ac roedd y tair blynedd gyntaf yn llwyddiannus iawn gan fod bron 700 o dai wedi'u hadeiladu ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o 1000 o dai fforddiadwy.

 

Nododd yr Aelodau fod rhaglen ddatblygu'r Cyngor wedi'i llunio gan ddefnyddio strwythur camau darparu a oedd yn dangos pryd y byddai'r tai'n cael eu hadeiladu. Roedd hyn yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys yr amserlenni tebygol o ran cyflawni'r rhaglen, sy'n cynnwys tri cham blaenoriaeth, a ddisgrifiwyd yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       O ran maint y tai newydd, dywedwyd bod y tai Cyngor yn y gorffennol yn gadarn, wedi'u hadeiladu'n dda â gardd o faint da. O gymharu â hynny, mynegwyd pryder y byddai'r tai newydd yn cael eu hadeiladu'n rhy agos at ei gilydd â gerddi llai o faint.  Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'r tai newydd yn cael eu dylunio'n benodol i gynnwys digon o le ar gyfer cartref gydol oes.  Yn ogystal, er mwyn diogelu'r tai at y dyfodol, byddent yn cydymffurfio â'r safonau o ran lle a fyddai felly'n sicrhau eu bod yn addas at y diben.

 

·       Dywedwyd y byddai'n fuddiol i'r aelodau gael dadansoddiad o'r meysydd datblygu mewn perthynas â'r amrywiaeth fesul ward.  Cytunodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'n anfon neges e-bost at yr holl aelodau i gynnwys manylion ynghylch y gweithgarwch o ran tai fforddiadwy fesul ward.

 

 

 

 

 

·         Mynegwyd pryderon ynghylch nifer y ceisiadau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno'n gyson er mwyn cadw'r caniatâd i adeiladu ar y tir heb fod unrhyw waith yn mynd yn ei flaen. Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cydnabod y pryderon, gan ddweud bod trafodaethau ar waith o ran y posibilrwydd o gyfyngu ar nifer y ceisiadau ar gyfer un safle. Cynigiodd y Pennaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2018/19 pdf eicon PDF 437 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2018/19, a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o berfformiad 2018/19 a chynnydd pob un o'r 15 Amcan Llesiant. Canolbwyntiodd yr aelodau ar yr adrannau canlynol yn y ddogfen gan fod y rheiny'n berthnasol i gylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu - Cymunedau:

 

·         Rhagarweiniad

·         AMCAN LLESIANT 2. Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw

·         AMCAN LLESIANT 5. Trechu Tlodi

·         AMCAN LLESIANT 6. Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir

·         AMCAN LLESIANT 7. Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael

·         AMCAN LLESIANT 8. Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra)

·         AMCAN LLESIANT 14. Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru

·         Atodiadau

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at dudalen grynhoi'r Mesurau Llwyddiant Allweddol.  Dywedwyd bod defnyddio gwepluniau'n amhriodol i nodi llwyddiant rhai o'r mesurau.  Cytunodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth a dywedodd y byddai'n chwilio am symbol mwy priodol i ddangos y llwyddiant drwy'r ddogfen.

 

·       Yn dilyn nifer o sylwadau ynghylch y targedau, roedd yr Aelodau o'r farn bod angen i'r targedau fod yn fwy realistig neu'n dryloyw pe byddai tuedd yn cael ei nodi mewn perthynas â diffyg gwelliant bob blwyddyn. Roedd y Pennaeth Hamdden yn cydnabod bod rhai o'r targedau'n uchelgeisiol a bod cynnydd rhai o'r mesurau heb ddatblygu llawer ac efallai y bydd yn cymryd amser ychwanegol i gyflawni gwelliannau.

 

·       O ran y graff yn Amcan Llesiant 9, a ddangosai 'canran y bobl sy'n teimlo bod ganddynt ymdeimlad o gymuned'.  Mynegwyd canmoliaeth gan mai Sir Gaerfyrddin yw'r 4ydd uchaf o flwyddyn i flwyddyn o ran y % newid, ar ôl lleihau o 73% yn 2014/15 i 47.4%.  Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod y llwyddiant oherwydd bod y Tasglu Gwledig yn monitro cymunedau gwledig, a oedd yn gweithio ar ffyrdd i wella cynhwysiant cymdeithasol drwy weithio mewn partneriaeth a chydweithio.

 

Dywedwyd y byddai'r argymhellion o'r adolygiad Gorchwyl a Gorffen ynghylch Unigrwydd yn cyfrannu at Amcan Llesiant 9.  Yn ogystal, dywedodd aelod fod grant o'r gronfa effeithlonrwydd o hyd at £5k ar gael. Fodd bynnag, gan fod y grant hwn yn boblogaidd, cynghorir bod cais yn cael ei gyflwyno'n gyflym.  Roedd y Pennaeth Hamdden yn cytuno ac yn cydnabod mor bwysig oedd i Gynghorwyr a Swyddogion fanteisio ar unrhyw gynlluniau sydd ar gael iddynt.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â'r Caffi a'r Maes Carafanau ym Mharc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y ddigwyddiadau uchel eu proffil niferus wedi bod o fudd i'r ardal ac y byddai'r Caffi'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r hyn a gynigir yn y parc. Roedd rhai problemau cychwynnol o ran y system rhwystr newydd yn y maes parcio ac yn y cyfamser, er mwyn cynorthwyo ag unrhyw faterion a sicrhau bod ceir yn gallu dod i mewn a gadael yn hwylus, roedd staff yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr eglurhad a roddwyd dros beidio â chyflwyno adroddiad craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 225 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 3 Hydref 2019.

 

 

9.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED MAI, 2019 pdf eicon PDF 340 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019 gan eu bod yn gywir.