Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AM WEDDILL Y FLWYDDYN DDINESIG 2018/19.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd F. Akhtar yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn y cyngor 2018/2019.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIP A NODWYD MEWN PERTHYNAS AG UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant:-

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

J. Gilasbey

 

Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli - Caniatawyd gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau iddi siarad ond nid pleidleisio

Ann Davies

5 – Strategaeth Gorfforaethol  2018-23 - Diweddariad Mehefin 2019

Amcan Llesiant 7 - Landlord Preifat

G. Thomas

5 – Strategaeth Gorfforaethol  2018-23 - Diweddariad Mehefin 2019

Amcan Llesiant 7 - Perchennog ar d? gwag

Arwel Davies

5 – Strategaeth Gorfforaethol  2018-23 - Diweddariad Mehefin 2019

Ymddiriedolwr Ymddiriedaeth Letitia Cornwallis

Ann Davies

6 – Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 – Fersiwn Drafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir

Wedi cyflwyno safle i'w gynnwys yn y cynllun diwygiedig

G. Thomas

6 – Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 – Fersiwn Drafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir

Mae aelodau'r teulu wedi cyflwyno safle i'w gynnwys yn y cynllun diwygiedig ac wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig

A Vaughan Owen

6 – Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 – Fersiwn Drafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir

Mae perthynas wedi cyflwyno safle i'w gynnwys yn y cynllun diwygiedig

 

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H. Shepardson.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018-23 - DIWEDDARIAD DRAFFT MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr Ann Davies, Arwel Davies a Gareth Thomas eisoes wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach

 

 Derbyniodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 - Diweddariad Drafft Mehefin 2019 mewn perthynas â'r Cynlluniau Cyflawni Llesiant canlynol a oedd yn perthyn i'w gylch gwaith:-

 

·         Amcan Llesiant 2. - Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw

·         Amcan Llesiant 6 – Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir;

·         Amcan Llesiant 7 – Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael;

·         Amcan Llesiant 8 – Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra;

·         Amcan Llesiant 14 – Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 2 ac at y modd yr oedd y Cyngor yn bwriadu gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i fuddsoddi mewn uwchraddio cyfleusterau hamdden lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Busnes a Phrosiectau y byddai hyn yn cael ei wneud gan swyddogion sy'n rhoi cyngor a chymorth i'r awdurdodau hynny ar sut i hyrwyddo gweithgareddau yn eu parciau a helpu i wneud y defnydd gorau o'u cyfleusterau. Gallai hynny hefyd gynnwys cyfeirio at wahanol ffynonellau grant a rhoi cymorth i gyflwyno ceisiadau am grant.

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y byddai'r Cyngor yn adolygu ac yn gweithredu gwell llwybr o ran darpariaeth nofio er mwyn galluogi cyfranogwyr i gyrraedd eu potensial llawn (mae Amcan Llesiant 2 yn cyfeirio at hyn).

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai elfen o ailstrwythuro yn yr Is-adran Hamdden, gan gynnwys cyflogi staff ychwanegol i addysgu nofio, gyda'r nod yn y pendraw o gael pob plentyn i nofio.

 

Cyfeiriwyd at y gost i ysgolion o gymryd rhan mewn gwersi nofio ac i gais blaenorol y Pwyllgor i'r Cyfarwyddwr Addysg a Phlant i ariannu'r cyfraniad hwnnw o £150k ar ran ysgolion at y diben hwnnw (Mae cofnod 7 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth yn cyfeirio at hyn). Er bod y Pwyllgor yn cydnabod ymateb y Cyfarwyddwr i'r cais hwnnw a'r rhesymau pam nad oedd mewn sefyllfa i gytuno â hynny, teimlwyd, o ystyried pa mor bwysig oedd hi i blant allu nofio, y dylid gofyn i'r Bwrdd Gweithredol ailystyried ariannu'r costau hyn.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor, er bod cost y gwersi nofio am ddim i ysgolion, roedd y gost ei hun yn ymwneud â darparu cludiant yn unig.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar Amcan Llesiant 7 ar ailddefnyddio tai gwag, cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, er bod gan y Cyngor bwerau cyfreithiol i ddweud wrth berchenogion am adnewyddu'r eiddo hynny, a oedd yn golygu proses gyfreithiol hirfaith, y cam cyntaf fyddai trafod â'r perchenogion i uwchraddio eu heiddo yn wirfoddol, ac amcangyfrifir bod 2,500 o'r rhain yn y sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

5.1

Bod Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 – Diweddariad Drafft Mehefin 2019 yn cael ei derbyn;

5.2

Gofyn i'r Bwrdd Gweithredol ystyried talu'r gost a amcangyfrifir yn £150k y mae'n rhaid i ysgolion cynradd ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 FERSIWN DDRAFFT O'R STRATEGAETH CYN-ADNEUO A FFEFRIR pdf eicon PDF 347 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.    Gan fod y Cynghorydd G.B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem gan y Pwyllgor;

2.    roedd y Cynghorwyr A. Davies ac A.Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad arFersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 a luniwyd mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr, 2018 i ddechrau ar y gwaith o baratoi cynllun diwygiedig a oedd yn cynrychioli carreg filltir bwysig i’r Cyngor o ran cyflawni ei gyfrifoldebau statudol i baratoi cynllun cyfredol ar gyfer y Sir (ac eithrio'r ardal sy'n dod o fewn awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog)

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys 344 o sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i'r ymarfer ymgynghori â'r cyhoedd a gynhaliwyd rhwng 12 Rhagfyr 2018 a 8 Chwefror 2019. Roedd y sylwadau hynny, ynghyd ag ymatebion ac argymhellion y swyddogion a chefndir y strategaeth a ffefrir, wedi’u cynnwys yn yr atodiadau canlynol i'r adroddiad:-

 

  • Atodiad 1 – Fersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir – Cefndir;
  • Atodiad 2 – Strategaeth a Ffefrir – Crynodeb o'r Sylwadau a'r Ymatebion -Argymhellion;
  • Atodiad 3 – Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad Cychwynnol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol – sylwadau a ddaeth i law;
  • Atodiad 4 – Adroddiad Sgrinio yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd – sylwadau a ddaeth i law;
  • Atodiad 5 – Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad yr Asesiad Amgylcheddol Strategol – sylwadau a ddaeth i law

 

Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 7 Mai a byddai'r Cyngor yn ei ystyried ar gyfer ei fabwysiadu'n ffurfiol ar 15 Mai, 2019.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cadarnhaodd y Rheolwr Blaengynllunio, mewn ymateb i gwestiwn ar gynnwys darpar safleoedd yn y CDLl diwygiedig, y byddai'n rhaid unrhyw unigolyn neu sefydliad, gan gynnwys y Cyngor Sir, sy'n dymuno cynnwys darn o dir, ei gyflwyno i'r Cyngor cyn diwedd Awst, 2018. Roedd cyfanswm o 926 o safleoedd wedi'u cyflwyno erbyn y dyddiad hwnnw ac roedd tua 4,000 o ymatebion wedi'u derbyn yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Ar hyn o bryd, roedd yr adran yn dadansoddi pob un o'r 926 o safleoedd er mwyn asesu eu priodoldeb ac roedd disgwyl y byddai'r broses honno'n cael ei chwblhau erbyn diwedd haf 2019. Yn dilyn yr asesiad hwnnw, pe bai'n dod i'r amlwg bod safle yn anaddas, neu'n mynd yn groes i Strategaeth y Cynllun neu bolisi cenedlaethol, ni fyddai'n cael ei ystyried yn briodol i'w gynnwys yn y Cynllun Adneuo.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr arfer o ran 'bancio tir ', dywedwyd wrth y Pwyllgor bod dros 10,000 o unedau heb eu cwblhau ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin, gyda chanran uchel o'r rhain heb ddynodi eu bwriad ar gyfer y safle. Fel rhan o'r broses yn ymwneud ag adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol presennol byddai'r safleoedd yn cael eu herio o ran eu cynnwys yn y dyfodol ac os  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD GWEITHREDU CRAFFU pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AR GYFER 2019/20 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor, yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, yn ystyried ei Flaenraglen Waith ddrafft ar gyfer 2019/20 a oedd yn nodi manylion materion ac adroddiadau i'w hystyried yn ystod y blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith drafft 2019/20.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 2 Gorffennaf 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 2 Gorffennaf 2019.

 

10.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28AIN MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 217 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 28 Mawrth 2019 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau