Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. Davies a B.A.L. Roberts
|
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIP A NODWYD MEWN PERTHYNAS AG UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant personol:-
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: 1. Roedd y Cynghorydd G.B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a chaniatawyd gollyngiad gan Bwyllgor Safonau'r Cyngor iddi siarad, ond nid pleidleisio dros faterion yn ymwneud â ffermio. 2. Roedd y Cynghorydd A. Davies a'r Cynghorydd A. Vaughan Owen wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach).
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin (CDLl) 2018-2033 a oedd yn nodi gweledigaeth y Cyngor o ran defnydd tir, amcanion strategol a gofynion twf strategol ar gyfer y Sir hyd at 2033. Nodwyd y cymeradwywyd y Strategaeth gan y Cyngor ar 14 Tachwedd 2018 ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol am gyfnod statudol o 6 wythnos o leiaf, a fyddai'n dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 10 Rhagfyr 2018 am gyfnod o 8 wythnos (gan ystyried y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd), a disgwylir i adroddiad ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad fod yn barod i'w gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mawrth 2019.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar y strategaeth:-
· Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at gyfarfod diweddar y Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig lle trafodwyd y Strategaeth a chodwyd y tri mater canlynol fel meysydd sy'n peri pryder yn unol â'r angen i warchod ac adfywio ardaloedd gwledig:-
1. Nid oedd darpariaeth yn y cynllun i fynd i'r afael â'r trafferthion o ran cael caniatâd cynllunio ar gyfer anheddau bach ar leiniau o dir, yn enwedig tyddynnod, lle'r oedd y perchnogion wedi byw drwy gydol eu bywydau; 2. Roedd tai fferm traddodiadol yn hen ac yn fach a chafwyd trafferthion o ran cael caniatâd cynllunio i hwyluso'r gwaith o'u hestyn yn fwy na 20-30% o'r maint gwreiddiol. Y farn oedd yr oedd y polisi hwnnw'n gyfyngol, yn enwedig pan roddir caniatâd cynllunio i eiddo mawr newydd mewn ardaloedd anheddau; 3. Roedd y polisïau cynllunio presennol yn ei gwneud hi'n anodd i'r gymuned ffermio amrywio ei busnesau er mwyn sicrhau'r incwm mwyaf posibl, er enghraifft drwy ddarparu cyfleusterau gwersylla/twristiaeth.
Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Blaen-gynllunio bod y ddogfen bresennol yn manylu ar weledigaeth y Cyngor o ran defnydd tir, amcanion strategol a gofynion twf strategol ar gyfer y Sir hyd at 2033 ac nid yw'n cynnwys polisïau penodol. Byddai'r rheiny'n rhan o'r fersiwn adneuol drafft o'r Cynllun Datblygu Lleol a fyddai'n manylu ar Bolisïau Cynllun Rheoli Datblygu ac yn cael ei baratoi dros y deuddeg mis nesaf fel rhan o'r broses ymgynghori statudol.
· Cyfeiriwyd at ddyraniadau safleoedd Tai yn y CDLl presennol ac a fyddai rhai o'r rheiny, neu bob un ohonynt, yn cael eu cynnwys yn y Cynllun newydd, o ystyried cynigion i leihau'r dyraniadau dros gyfnod y cynllun.
Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio mai un o nodau'r Cynllun newydd fyddai sicrhau y bydd modd ei gyflawni, a chan y byddai lefel y dyraniadau tai'n lleihau, byddai angen i'r adran roi sylw beirniadol i'r holl safleoedd sy'n cael eu cyflwyno i'w cynnwys. Os nad oedd perchnogion y safleoedd hynny'n gallu darparu ffeithiau ar sail tystiolaeth er mwyn dangos ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||||||||
STRATEGAETH DDIGARTREFEDD RANBARTHOL PDF 215 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi cymeradwyo'r gwaith o baratoi Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol yn ei gyfarfod ar 11 Mai 2018, ac roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar y diwrnod hwnnw wedi nodi'r themâu a'r blaenoriaethau allweddol ynghylch sut y byddai Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys yn atal digartrefedd dros y blynyddoedd nesaf.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar y strategaeth:-
· Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr amser i ailgartrefu pobl y mae angen llety arnynt ar frys, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel ei bod yn cymryd oddeutu 3-4 mis ar gyfartaledd. Rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod llety gwely a brecwast ond yn cael ei ddefnyddio mewn argyfwng mewn amgylchiadau o'r fath, a bod y rhan fwyaf o'r unigolion digartref hyn yn cael cartrefi dros dro o ansawdd.
· Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol i'r holl hawlwyr budd-daliadau yn Sir Gaerfyrddin ym mis Rhagfyr 2018, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr awdurdod yn ymwybodol o'r effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar ei denantiaid ac y byddai'n monitro'r sefyllfa'n wythnosol.
· Cyfeiriwyd at Asiantaeth Gosod Tai'r Cyngor ac a yw ei wasanaethau'n cael eu hyrwyddo'n ddigon i'r sector preifat o ystyried y ffaith bod yr 160 o'r eiddo sy'n cael eu rheoli ar hyn o bryd yn llai na'r 180 a oedd yn cael eu rheoli yn y gorffennol.
O ran landlordiaid yn mynd i mewn i'r maes gosodiadau tai ac yna'n gadael, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel nad yw nifer yr eiddo a reolwyd gan yr awdurdod wedi newid llawer dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhoddodd sicrwydd fod ymdrechion yn cael eu gwneud yn barhaus i annog landlordiaid preifat i fanteisio ar ei wasanaeth, a gynigir fel pecynnau Efydd, Arian ac Aur. Hefyd roedd trafodaethau'n parhau ynghylch sut y gellid sicrhau bod y pecynnau hynny'n fwy deniadol ledled y sir.
· Cyfeiriwyd at y defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth i atal digartrefedd, a'r gronfa ddata a weithredir gan rai awdurdodau lleol yn Lloegr i fonitro a nodi unigolion sydd mewn perygl a rhannu gwybodaeth â darparwyr tai eraill a'r trydydd sector. Dywedodd yr Arweinydd - Cyngor ynghylch Tai y cafwyd trafodaeth ynghylch mabwysiadu dull Lloegr â Llywodraeth Cymru, a oedd wedi cytuno i'w gyflwyno ar draws Cymru.
· Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch darparu llety i berson sengl, dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y cydnabuwyd, er mai nod y model presennol oedd canolbwyntio ar lety i berson sengl mewn ardaloedd penodol megis Heol yr Orsaf, Llanelli, y gallai'r ymagwedd honno gael effaith niweidiol ar unigolion agored i niwed. O ystyried y gydnabyddiaeth honno, roedd archwiliadau'n cael eu cynnal ynghylch y dichonoldeb o ran newid o ddarpariaeth fwy cryno i ddarparu unedau llai wedi'u gwasgaru sy'n haws eu rheoli ac sy'n parhau i fod yn agos i wasanaethau.
· Cyfeiriwyd at y cynnig a nodwyd yn yr adroddiad i'r awdurdod ddarparu cymorth yn y gymuned er mwyn helpu i atal digartrefedd. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2018. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £300k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £362k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £237k yn y Cyfrif Refeniw Tai.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad.
· Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gorwariant rhagamcanol o £326k yn yr Is-adran Cynllunio, dywedodd y Pennaeth Cynllunio nad oedd disgwyl i'r sefyllfa newid yn y dyfodol agos a bod sefyllfa debyg ledled Cymru lle bo gwasanaethau cynllunio yn adennill 60% ar gyfartaledd. Yn ôl y targedau presennol disgwyliwyd i'r Is-adran adennill 80%, ond roedd yn adennill tua 60% mewn gwirionedd, yn unol â'r cyfartaledd yng Nghymru. Roedd yr Is-adran yn archwilio ffyrdd gwahanol o gynyddu ei hincwm a allai gynnwys codi tâl ar gyfer cyngor cyn cynllunio, er enghraifft. Fodd bynnag, dylid nodi hefyd na chaniateir i'r Is-adran godi tâl ar gyfer rhai gwasanaethau, megis dyletswyddau gorfodi. · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch refeniw uwch ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod potensial i hwn gynyddu dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig o ystyried cynigion buddsoddi'r Cyngor a oedd yn cynnwys seilwaith newydd, Wi-Fi, bloc cyfleusterau a bwyty. Fodd bynnag, byddai adeg yn dod pan fyddai'r cynnydd yn arafu. · Cyfeiriwyd at y diffyg gweithredol yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn ac a oedd gan y Cyngor strategaeth i fynd i'r afael â'r diffyg.
Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, er bod strategaeth ar waith a oedd yn lleihau'r diffyg, fod angen buddsoddi yn y safle gan fod rhai o'r adeiladau wedi bod ar y safle ers dros 50 mlynedd, ac roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i fynd i'r afael â hynny, a allai arwain at gyflwyno cynnig am gyllid cyfalaf. · Cyfeiriodd y Pennaeth Hamdden at gwestiwn ynghylch y costau o £10k yng nghyllideb yr amgueddfeydd ar gyfer cyflogi cynorthwyydd dogfennaeth, a chadarnhaodd fod y swydd wedi'i chreu ar gontract penodedig o flwyddyn er mwyn cynorthwyo â'r gwaith a oedd yn aros i'w wneud o ran cofnodi'r arteffactau a gedwir gan y gwasanaeth, a oedd yn ofynnol i gael eu hachredu.
O ran nifer yr arteffactau a gedwir gan y Gwasanaeth Amgueddfeydd, dywedodd fod polisi ar waith ynghylch casgliadau a gwarediadau. · Cyfeiriwyd at yr amrywiaeth o £494k yn incwm rhent tai'r awdurdod a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y rheswm dros y cynnydd o 0.8% yn lefel yr eiddo gwag a'r golled cysylltiedig yn yr incwm rhent.
Dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod rhagdybiaeth yn cael ei gwneud bob blwyddyn ynghylch lefel yr eiddo gwag yn ystod y flwyddyn fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb. Ar gyfer 2018/19, y rhagdybiaeth hon oedd 2.1% o'r incwm rhent, ond bellach disgwylir iddi gynyddu i 2.9%. Y prif reswm dros yr amrywiaeth oedd nifer o eiddo gwag yr oedd angen gwaith helaeth arnynt er mwyn eu dychwelyd i'r stoc tai. Fodd bynnag, roedd cyllid ar gael i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2017/18 PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar y gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn y cyngor 2017/18 i'w ystyried. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a'i fod yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a'r materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Bwrdd Gweithredol, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen a sesiynau datblygu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
DIWEDDARIAD GWEITHREDU CRAFFU PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r ceisiadau, neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.
O ran CS031 - 17/18 rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y seminar i'r aelodau ar weithgareddau adfywio yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei aildrefnu ar gyfer 30 Ionawr 2019.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 96 KB Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 13 Mawrth 2018. Dywedwyd bod yr adroddiad arfaethedig ynghylch y Cynllun Gweithredu Credyd Cynhwysol wedi'i dynnu'n ôl ar ôl i'r agenda ar gyfer y cyfarfod gael ei ddosbarthu, ac y byddai bellach yn cael ei gyflwyno i'w gyfarfod ar 23 Ionawr 2019.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar yr adroddiad ynghylch y Cynllun Gweithredu Credyd Cynhwysol yn cael ei aildrefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Ionawr 2019, gytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a'i chyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar 13 Rhagfyr 2018.
|
|||||||||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 46 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhesymau a roddwyd dros beidio â chyflwyno pedwar adroddiad craffu.
O ran yr oedi cyn cyflwyno'r Adroddiad Safonau Tai Fforddiadwy, cyfeiriwyd at ddatganiad diweddar i'r wasg a ddywedodd fod diffyg staff mewn adrannau cynllunio awdurdodau lleol yn cael effaith niweidiol ar y ddarpariaeth o gartrefi o'r fath yng Nghymru. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllun nad oedd y datganiad yn berthnasol i Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.
|
|||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR COFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Medi 2018 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 4 Hydref 2018 yn gofnod cywir.
|
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
- Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth