Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, H.I. Jones a S. Matthews.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Aled Vaughan Owen

7 - Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2017/18

Deiliad Trwydded - Neuadd Chwaraeon y Gwendraeth

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.  

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

STRATEGAETH SIR GAERFYRDDIN AR GYFER Y CELFYDDYDAU pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ynghylch Strategaeth Sir Gaerfyrddin ar gyfer y Celfyddydau 2018-2022, a oedd yn cynnig fframwaith ar gyfer datblygu gwasanaethau i gefnogi gweledigaeth y Cyngor o fod yn lle ar gyfer profiadau celfyddydol eithriadol sy'n ysgogi ac yn ennyn diddordeb ein cymunedau ac yn dathlu ei ddiwylliant unigryw a dwyieithog. Er mwyn tanategu'r weledigaeth honno, roedd y strategaeth yn nodi'r pedwar amcan allweddol canlynol:-

 

-        Llesiant Diwylliannol;

-        Llesiant corfforol a meddyliol;

-        Llesiant economaidd drwy gefnogi sefydliadau creadigol a diwylliannol a;

-        Datblygu a chynnal gwasanaeth celfyddydau sy'n effeithlon ac yn effeithiol (drwy wella'r incwm a gynhyrchir, dulliau arloesol o weithio, cydweithio a chryfhau ymgysylltiad â'r cyhoedd).

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod y cyflwyniad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sefydlu canolfannau creadigol a chymdeithasol, a oedd yn gysylltiedig â defnyddio cyfleusterau'r Cyngor gan ganolbwyntio mwy ar y gymuned drwy sicrhau y gall cymunedau ddefnyddio'r cyfleusterau at ddibenion cymunedol, er enghraifft, cynyrchiadau theatr, dosbarthiadau dawnsio a lleoedd i bobl h?n ddod at ei gilydd a chymdeithasu.

·       Cyfeiriwyd at y cynigion arfaethedig ar gyfer ailddatblygu Oriel Myrddin, a fydd yn cynnwys 26-27 Heol y Brenin, Caerfyrddin. Er yr amcangyfrifir y bydd y cynllun yn costio oddeutu £2.5m, cadarnhaywd y gallai cyllid Cyngor y Celfyddydau ddarparu £1m i gynorthwyo â'r gost honno. Roedd y Cyngor eisoes wedi cyfrannu £250k er mwyn prynu 26-27 Heol y Brenin. Byddai angen cael arian cyfatebol ar gyfer yr £1.25m sydd ar ôl gan y Cyngor neu ffrydiau incwm/grantiau eraill.

·       Cyfeiriwyd at y gwaith o weithredu Canolfan Grefftau Sanclêr, lle roedd cynnydd mewn gwariant wedi bod o o £74,498 yn ystod blwyddyn ariannol 2014/15, i £110,747 yn 2017/18, tra bo nifer yr ymwelwyr wedi gostwng 5,000, o 41,765 i 36,240.

 

Dywedodd Pen-swyddog y Celfyddydau, wrth gyfeirio at sefyllfa ariannol 2017/18, y gallai'r cynnydd fod yn gysylltiedig â nifer o ffactorau. Honno oedd y flwyddyn gyntaf i'r ganolfan gael ei staffio'n llawn. Yn ail, defnyddiwyd gwariant cyfalaf er mwyn uwchraddio'r cyfleusterau cynadledda ac offer y caffi ar ôl i'r cyfrifoldeb dros weithredu'r caffi gael ei ysgwyddo'n fewnol. Yn y bôn, roedd wedi bod yn angenrheidiol i'r Awdurdod ysgwyddo costau'r ganolfan er mwyn hwyluso ei datblygiad. Ar gyfer 2018/19, roedd yr ymdrechion yn canolbwyntio ar reoli costau a chynyddu incwm.

 

O ran y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, roedd strategaethau wedi'u cyflwyno gyda'r nod o'i chynyddu. Er enghraifft, pwyslais ar glybiau mewn perthynas â'r celfyddydau, iechyd, bwyd a chyfeillgarwch a dosbarthiadau crochenwaith, ynghyd â ffrydiau incwm eraill.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflwyno'r celfyddydau mewn ysgolion, cadarnhawyd bod Oriel Myrddin wedi penodi Swyddog Addysg y Celfyddydau, gyda'r nod o ymgysylltu'n rhagweithiol ag ysgolion dros y blynyddoedd nesaf. Roedd y gwasanaeth hefyd yn cyfathrebu'n agos â Chyngor Celfyddydau Cymru o ran hynny.

·       Cyfeiriwyd at bedwar amcan allweddol y strategaeth, a gofynnwyd a oedd ystyriaeth wedi'i rhoi i fabwysiadu pumed amcan sef 'nodi dyheadau, talentau a sgiliau drwy ein hysgolion i gynnal ein blaenoriaethau strategol diwylliannol ymhellach'.

 

Cadarnhawyd y gellid trafod hynny â'r Adran Addysg wrth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18 pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2017/18, a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd bod yr adroddiad yn darparu'r canlynol:-

Ø  Trosolwg ar berfformiad 2017/18,

Ø  Adroddiadau dwy dudalen ynghylch cynnydd pob un o'r 15 Amcan Llesiant,

Ø  Dolen gyswllt er mwyn olrhain cynnydd pob cam a tharged a bennir ar gyfer pob Amcan Llesiant,

Ø  Yn yr atodiadau, gwybodaeth arall am berfformiad a data alldro (mis Medi) a chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru (mis Mehefin) a fyddai'n cael eu diweddaru wrth i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn lefelau gordewdra yn ystod plentyndod yn y Sir, ac at sut y gellid annog/hyrwyddo gweithgarwch corfforol pan oedd parciau a chyfleusterau hamdden eraill yn cael eu cau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden mai un o amcanion allweddol yr Is-adran Hamdden oedd hyrwyddo a datblygu gweithgareddau corfforol drwy weithio gyda chymunedau lleol a chlybiau chwaraeon, lle nodwyd bod lefelau cyfranogi'n tueddu i fod yn uwch os yw'r clwb ym mherchnogaeth y gymuned. Nodwyd bod yr adroddiad wedi nodi cynnydd o 10% yn nifer y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, felly mae wedi cynyddu i 47%. Fodd bynnag, derbyniwyd bod angen gwneud rhagor o waith i gyflawni lefelau uwch o weithgaredd, nid yn unig ymhlith y plant ond ymhlith y boblogaeth gyfan.

·        Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at nodau'r Cyngor o hyrwyddo twf economaidd mewn trefi marchnad gwledig ac at sut yr oedd y gwaith hwnnw'n cael ei rwystro gan yr arfer o 'fancio tir'

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod y tir sydd ar gael mewn ardaloedd o'r math ar gyfer creu cyfleoedd gwaith yn gyfyngedig, ond bod y Cyngor yn gallu rhoi cymhellion i hyrwyddo a hwyluso'u datblygiad drwy arian grant a chymhellion eraill.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Blaen-gynllunio fod gwaith wedi'i ddechrau'n ddiweddar o ran Cynllun Datblygu Lleol newydd i Sir Gaerfyrddin, a bod ceisiadau'n cael eu ceisio ar hyn o bryd ar gyfer safleoedd ymgeisio i'w cynnwys y cynllun hwnnw. Fel rhan o'r broses honno, byddai angen i berchnogion tir ddangos ymrwymiad i ddatblygiad safle er mwyn cyfiawnhau ei gynnwys, gan nad yw dangos dymuniad i ddatblygu'r safle yn ddigon erbyn hyn. 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch datblygiad yr Egin yn nhref Caerfyrddin, a'r lleoedd sydd ar gael i gwmnïau eraill yn yr Egin, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod trafodaethau'n parhau er mwyn sicrhau bod pob lle yn cael ei lenwi. Os bydd gormod o gwmnïau'n dangos diddordeb, gwneir ymdrech i ddod o hyd i adeilad priodol arall. Nodwyd mai'r Egin oedd un o 11 Prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd â'r nod o ddatblygu'r diwydiant creadigol ledled y rhanbarth.

·        Cyfeiriwyd at 'Raglen Esgyn' a gofynnwyd am eglurhad a yw'n helpu pobl i ddysgu Cymraeg er mwyn dychwelyd i'r gwaith ac os gellid rhoi gwybodaeth am nifer y bobl ar y rhaglen sydd wedi dysgu Cymraeg ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer diwedd blwyddyn 2017/18 ar gyfer y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden. Nodwyd y ceir gorwariant o £311k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £7,228 yn y gyllideb gyfalaf, ac y rhagwelid tanwariant o £22k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·        Mewn ymateb i gwestiwn mewn perthynas â'r diffyg ariannol o £264k a ragwelir o ran Rheoli Datblygu, cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod y lefelau incwm a ragwelir yn cael eu harwain gan y farchnad ac y gellid cysylltu'r diffyg ar gyfer 2017/18 â nifer o gynlluniau mawr arfaethedig oedd heb gael eu cyflwyno.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gorwariant o £249k ar safleoedd yn y Cyfrif Refeniw Tai, dywedodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod hyn yn gysylltiedig yn bennaf â gwariant a geir wrth wneud gwaith cynnal a chadw mewn rhai o ystadau tai'r Cyngor e.e. atgyweiriadau i ffensys, gan nad oedd darpariaeth ar gyfer hyn yn y gyllideb. Fodd bynnag, roedd yna ddarpariaeth yn y gyllideb ar gyfer 2018/19.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer drwgddyled yn y Cyfrif Refeniw Tai, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi gwneud darpariaeth yn ei gyfrifon bob blwyddyn er mwyn mynd i'r afael â drwgddyled. Ar gyfer 2017/18, y ddarpariaeth oedd £472k, fodd bynnag, swm y drwgddyled oedd £218k, gan arwain at danwariant o £254k yn y gyllideb.

·        Cyfeiriwyd at y tanwariant o £475k yn y gyllideb i sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto ac i fodloni Safon Tai Sir Gaerfyrddin. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel wrth y Pwyllgor fod y cynllun yn cynnwys gwneud gwelliannau i oddeutu 70 eiddo, a bod angen gwario cyfartaledd o £30-£40k ar bob un ohonynt er mwyn cydymffurfio â'r safonau. Er bod cyllideb wedi'i chlustnodi ar gyfer cwblhau'r gwaith yn 2017/18, nid oedd modd cwblhau'r holl waith a gynlluniwyd a byddai'r tanwariant yn cael ei gario drosodd i 2018/19.

·        Mewn ymateb i gwestiwn, rhoddodd y Pennaeth Hamdden y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym Mharc Gwledig Pen-bre, a oedd yn cynnwys y canlynol:

-        Darparu pwyntiau trydan ychwanegol yn y maes carafannau

-        Cyflwyno system archebu ar-lein ar gyfer y maes carafannau

-        Gosod Wi-fi yn y dyfodol agos

-        Adnewyddu'r bwyty presennol dros y gaeaf yn barod ar gyfer tymor 2019

-        Roedd y gylchffordd feicio gaeedig bron wedi'i chwblhau.

-        Roedd y siop yn y ganolfan sgïo wedi cau erbyn hyn a byddai'n cael ei haddasu at ddefnydd amlddisgyblaethol.

-        Byddai Taith Prydain 2018 yn dechrau yn y parc ar 2 Medi

·        Cyfeiriodd y Pwyllgor at Daith Prydain a llongyfarch yr holl staff a gymerodd ran yn y trefniadau o ddod â'r digwyddiad mawreddog hwn i Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

GORCHYMYN DATBLYGU LLEOL DRAFFT – CANOL TREF LLANELLI pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn ei gyfarfod ar 30 Mawrth 2017 (gweler Cofnod 5), cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ynghylch y bwriad i gyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol Drafft ar gyfer canol tref Llanelli, ynghyd â chanlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd rhwng 18 Rhagfyr 2017 a 9 Chwefror 2018, ac ymatebion y swyddogion.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·        Cyfeiriwyd at gynnwys y Map Perygl Llifogydd ar gyfer tref Llanelli yn yr adroddiad, a gofynnwyd am eglurdeb o ran a allai 'Prosiect GlawLif' sy'n cael ei gyflawni gan D?r Cymru gael effaith ar y perygl hwnnw.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y gallai'r gwaith gael effaith ac y byddai'r ddealltwriaeth o ran hyn yn cael ei chynnwys yn y dadansoddiad o berygl llifogydd. Roedd y sefyllfa'n newid yn barhaus a byddai'r sefyllfa'n cael ei monitro a'i hail-arfarnu wrth i amser fynd rhagddo, ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyfnod arfaethedig y Gorchymyn o dair blynedd, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod yr amserlen yn briodol er mwyn caniatáu amser i asesu ei ganlyniadau, gan gyd-fynd â datblygiad y CDLl newydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL/Y CYNGOR:-

 

8.1

Nodi'r sylwadau sydd wedi dod i law mewn perthynas â'r Gorchymyn Datblygu Lleol Drafft ar gyfer Canol Tref Llanelli;

8.2

Derbyn argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad;

8.3

Nodi cyflwyniad y Gorchymyn Datblygu Lleol (sy'n cynnwys argymhellion yr adroddiad a'r wybodaeth ddiweddaraf am dystiolaeth) i Lywodraeth Cymru gael cytuno arno;

8.4

Nodi'r gofynion o ran diweddaru'r sylfaen dystiolaeth a gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Gorchymyn Datblygu Lleol, a sicrhau bod unrhyw faterion ychwanegol o ran cydymffurfiaeth gyfreithiol hefyd yn cael eu hintegreiddio.

 

9.

TROSOLWG O ADRAN 106 A CHYFRANIADAU DATBLYGWYR pdf eicon PDF 381 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch Cytundebau Adran 106 a amlinellai gefndir rhwymedigaethau cynllunio, y broses o ymgeisio am gyfraniadau datblygwr ynghyd â throsolwg ar yr incwm a'r gwariant ar gyfer 2017/18.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch clustnodi arian Adran 106, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau heb gyfalaf mewn cymunedau, ar yr amod fod hyn yn unol â darpariaethau'r cytundeb cyfreithiol.

·        Cyfeiriwyd at y potensial i fwy nag un cynllun gael ei ystyried ar gyfer arian Adran 106, a gofynnwyd am eglurdeb o ran sut y byddai'r rheiny yn cael eu harfarnu a sut y byddai'r cynllun llwyddiannus yn cael ei ddewis.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai'r Awdurdod yn cyflawni hyn drwy weithio ac ymgynghori ag ymgeiswyr gan gynnwys cynghorwyr tref/cymuned lleol, ynghyd â chyrff eraill sydd â diddordeb, er mwyn asesu pa gynllun fyddai orau i fodloni telerau Cytundeb Adran 106 a diwallu anghenion y gymuned.

·        Mewn ymateb i sylw a geir ynghylch cynnwys cynghorwyr sir lleol mewn trafodaethau Adran 106 yn gynnar, cafodd aelodau eu hannog gan y Rheolwr Blaen-gynllunio i gwrdd â Swyddogion Achos Rheoli Datblygu i drafod y potensial o gael Cytundebau cyfraniadau 106 cyn gynted â phosibl a chyfeiriwyd at gyhoeddi rhestrau cynllunio wythnosol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.  

10.

BYNGALOS FFORDDIADWY YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chofnod 7 ei gyfarfod 29 Mawrth 2018, cafodd y Pwyllgor ddogfen gwmpasu ynghylch y potensial o sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen o ran darparu Byngalos Fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin mewn perthynas â'r angen yn y dyfodol a'r opsiynau o ran eu darparu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1

Dderbyn y ddogfen gwmpasu.

10.2

Bod y Pwyllgor yn sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen er mwyn archwilio'r ddarpariaeth o ran Byngalos Fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin

10.3

Bod y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys 6 aelod, ei fod yn wleidyddol gytbwys, a bod gofyn i'r grwpiau gwleidyddol gyflwyno enwebiadau ar gyfer gwasanaethu ar y Gr?p gan eu haelodau sydd ar y Pwyllgor.

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 21 Medi 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 21 Medi 2018.

12.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADDRODIAD CRAFFU pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhesymau a roddwyd dros beidio â chyflwyno dau adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

13.

DIWEDDARIAD GWEITHREDU CRAFFU pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

14.

LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR COFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 11EG MAI, 2018 pdf eicon PDF 278 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 11 Mai 2018 gan eu bod yn gywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau