Lleoliad: Ystafell 59, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i'r Pennaeth ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.
Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os yw'r swydd yn wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn cael ei gynnwys y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-
|
|||||||||||
COFNOD PENDERFYNIADAU - 3 MEHEFIN 2019 PDF 298 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2019 yn gofnod cywir.
[Nodwyd, yn dilyn y cyfarfod uchod, yr oeddid wedi esbonio fod yr awdurdod i wneud penderfyniad ynghylch cofnod 2, ‘Cymeradwyaeth i weithredu Cynigion Ffedereiddio (a arweinir gan yr Awdurdod Lleol)’, yn Swyddogaeth Weithredol, yn hytrach na Swyddogaeth Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn unol â Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2007, ac felly byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol maes o law.]
|