Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir.  Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os yw'r lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

Nodwydymhellach bod lle gwag Llywodraethwr yn Ysgol Brynteg fel y nodwyd yn yr adroddiad wedi'i gohirio tan y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

YSGOL GYNRADD

Penodiadau

Abergwili

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

 

Ms G M Adams

Llan-gain

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

 

Mrs G Burson

Yr Hen Heol

(2 le gwag - enwebiadau)

 

Parchedig Gapten Lowe

Mr D Maxted

Saron

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

 

Mrs L Jones

Y Santes Fair, Caerfyrddin

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd P Grice

 

Teilo Sant

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

 

Mr R Jones

YSGOL UWCHRADD

Penodiadau

Dyffryn Taf

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

 

Mr E Howells

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21AIN IONAWR 2019 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2019, gan ei fod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau