Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir.  Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i'r Pennaeth ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os yw'r swydd yn wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn cael ei gynnwys y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Bro Brynach

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr P. Walton.

Bryn

(2 le gwag – 2 enwebiad)

Mr J. Treharne;

Dr. M. Williams.

Carreg Hirfaen

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr G. Hope.

Griffith Jones

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr T. John.

Gwenllian

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs L. Davies.

Ysgol Gymraeg Rhydaman

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Edward Thomas.

Hafodwenog

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Jean Lewis.

Yr Hendy

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs K. Taylor.

Tre Ioan

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Ms. N. Hopkins.

Llandeilo

(2 le gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Edward Thomas.

Llangynnwr

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr G. Rees.

Peniel

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr S. Davies.

Pentip

(2 le gwag – 1 enwebiad)

Mr W. G. Thomas.

Y Felin

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs M. Billington.

 

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Bro Myrddin

(2 le gwag – 2 enwebiad)

Y Cynghorydd Cefin Campbell;

Rev. T. T. Defis.

 

Ysgol Arbennig

Penodiadau

Rhyd-y-gors

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd B. Williams

 

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 TACHWEDD 2018 pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd, 2018 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau