Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 9FED MAWRTH, 2021 PDF 276 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a oedd wedi ei gynnal ar 9 Mawrth 2021, gan ei fod yn gywir. |
|
Y TÂL SAFONOL AM OFAL PRESWYL GAN YR AWDURDOD LLEOL AM 2021-22 PDF 235 KB Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ddylanwad posibl, ac effaith, newidiadau i daliadau ar gyfer cartrefi gofal preswyl i Bobl H?n gyda'r Awdurdod Lleol gan eu bod yn cynyddu o £ 641.21 i £ 654.06 ar gyfer gwelyau Prif Ffrwd ac o £863.43 i £ 884.17 ar gyfer gwelyau i’r henoed bregus eu meddwl.
Byddai'r cyfraddau newydd yn dod i rym ar 28 Mehefin 2021 yn achos y preswylwyr hynny yr oedd yr Awdurdod wedi eu rhoi yn ein Cartrefi Awdurdod Lleol ein hunain. O ran y preswylwyr hynny oedd wedi cael eu rhoi yn ein cartrefi gan Awdurdodau Lleol eraill byddai'r cyfraddau newydd yn dod i rym ar 12 Ebrill, 2021.
Dywedwyd ei bod hi'n ofynnol i oedolion mewn llety preswyl gyfrannu at gost eu gofal. Os oes ganddynt adnoddau digonol, mae'n ofynnol iddynt dalu'r gost lawn am eu llety, sef y Tâl Safonol a gyfrifir yn flynyddol ar sail y gost lawn i'r Awdurdod o ddarparu'r llety.
PENDERFYNWYD bod Sir Gaerfyrddin yn cynyddu ei Thâl Safonol ar gyfer cartrefi gofal preswyl i Bobl H?n gyda'r Awdurdod Lleol o £641.21 i £654.06 am welyau Prif Ffrwd (2.00%) ac o £863.43 i £884.17 ar gyfer gwelyau i’r henoed bregus eu meddwl. |