Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 12FED TACHWEDD, 2019 PDF 76 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2019 gan ei fod yn gywir. |
|
Y TÂL SAFONOL AM OFAL PRESWYL GAN YR AWDURDOD LLEOL AM 2020-2021 PDF 87 KB Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn argymell bod y Tâl Safonol am gartref gofal preswyl i bobl h?n gyda'r Awdurdod Lleol yn cael ei godi o £612. 21 i £641.21 am welyau prif ffrwd ac o £837.50 i £863.43 am welyau i henoed bregus eu meddwl.
Cafodd y cynnydd o 4.74% am welyau prif ffrwd a 3.1% am welyau i henoed bregus eu meddwl ei briodoli i gynnydd sylweddol mewn costau staffio mewn perthynas â'r Cyflog Byw Cenedlaethol, costau ychwanegol yn seiliedig ar oriau a dibyniaeth a chostau ychwanegol cyflenwadau a gwasanaethau. Nodwyd y byddai'r cyfraddau newydd yn dod i rym ar 6 Gorffennaf 2020 ac nid 1 Gorffennaf 2020 fel y nodwyd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
i. bod y Tâl Safonol am gartref gofal preswyl i bobl h?n gyda'r Awdurdod Lleol yn cael ei godi o £612.21 i £641.21 am welyau prif ffrwd ac o £837.50 i £863.43 am welyau i henoed bregus eu meddwl.
ii. y byddai'r cyfraddau newydd yn dod i rym ar 6 Gorffennaf 2020 yn achos y preswylwyr hynny yr oedd yr awdurdod hwn wedi eu rhoi yn ein Cartrefi Awdurdod Lleol ein hunain a'r preswylwyr hynny yr oedd awdurdodaulleol eraill wedi eu rhoi yn ein cartrefi. |