Lleoliad: Swyddfa Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 19EG GORFFENNAF, 2018 PDF 97 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2018 yn gofnod cywir.
|
|
ALIADAU DIBRESWYL 2019-2022 PDF 281 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad oedd yn manylu ar effaith bosibl newidiadau Llywodraeth Cymru i'r "Cap" ar daliadau am wasanaethau dibreswyl a'r angen felly i daliadau gynyddu yn Sir Gaerfyrddin er mwyn parhau i sicrhau'r incwm mwyaf posibl. Nodwyd y byddai'r incwm ychwanegol ar gyfer 2019-2020 yn £21,000 petai'r taliadau am wasanaethau yn cael eu pennu i sicrhau'r incwm mwyaf posibl. Yn y blynyddoedd nesaf byddai'r Awdurdod yn cael incwm ychwanegol o hyd at £48,000 yn 2020-21 a £88,000 yn 2021-2022 petai'r "Cap" yn parhau i gynyddu £10 y flwyddyn y tu hwnt i 2021. Byddai hyn yn arwain at gynnydd posibl mewn incwm o £157,000 dros 3 blynedd. Roedd y rhagdybiaethau hyn wedi cael eu hystyried o ran yr arbedion/incwm sydd eu hangen i greu cyllideb gytbwys yn y blynyddoedd nesaf. Petai'r cynnydd arfaethedig mewn taliadau yn cael ei gymeradwyo byddai cyfradd fesul awr Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod ymhlith yr isaf yng Nghymru.
PENDERFYNWYD bod Sir Gaerfyrddin yn cynyddu'r taliadau dibreswyl am wasanaethau y codir tâl amdanynt fesul awr o £10.80 i £14.00 (29.63%) a chynyddu'r taliadau am Ofal Dydd a Lleoli Oedolion o £10.55 i £13.70 (29.86%) er mwyn adennill costau yn llawn ar gyfer 2019-20, ac alinio cyfraddau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ac yn enwedig er mwyn symud yn agosach at Awdurdodau Lleol rhanbarthol.
|