Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 14EG MAI, 2019 pdf eicon PDF 299 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14eg Mai, 2019 yn gofnod cywir.

 

3.

TALIADAU DIBRESWYL 2019-2022 pdf eicon PDF 278 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad oedd yn manylu ar effaith bosibl newidiadau Llywodraeth Cymru i'r "Cap" ar daliadau am wasanaethau dibreswyl a'r angen i daliadau gynyddu yn Sir Gaerfyrddin er mwyn parhau i sicrhau'r incwm mwyaf posibl.

 

Er mwyn adennill costau'n llawn ar gyfer 2020-21, ac i gysoni cyfraddau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, cynigiwyd cynyddu taliadau Dibreswyl am wasanaethau a godir fesul awr o £14.00 i £16.50 (17.85%) a thaliadau Gofal Dydd a Lleoli Oedolion o £13.50 i £16.15 (17.85%).

 

Nodwyd y byddai'r incwm ychwanegol ar gyfer 2020-2021 yn oddeutu £34K petai'r taliadau am wasanaethau yn cael eu pennu i sicrhau'r incwm mwyaf posibl.

 

PENDERFYNWYD bod Sir Gaerfyrddin yn cynyddu'r taliadau dibreswyl ar gyfer gwasanaethau y codir tâl amdanynt fesul awr o £14.00 i £16.50 (17.85%) a chynyddu'r taliadau ar gyfer Gofal Dydd a Lleoli Oedolion o £13.50 i £16.15 (17.85%).

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau