Lleoliad: Ystafell 59, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. |
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 2il Tachwedd, 2016 yn gofnod cywir. |
|||||||
ADRODDIAD NAD YW I'W GYHOEDDI. WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM GANLYNOL I'W CHYHOEDDI AM EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. |
|||||||
TIR YM MHENPRYS, DAFEN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn manylu ar drafodaethau ynghylch datblygu tir a bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth gan y byddai hynny'n gwanhau sefyllfa'r Awdurdod mewn trafodaethau ac o bosib yn arwain at wario mwy o gyllid cyhoeddus nag a fyddai'n digwydd fel arall.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion ar gyfer datblygu tir ym Mhenprys, Dafen.
Rhoddodd y Rheolwr Eiddo a Phrosiectau Mawr wybod am ddau newid i'r adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol yr oedd yn rhaid eu dwyn i sylw'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol cyn trafod yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
|