Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIAD'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 22AIN MEDI, 2016. pdf eicon PDF 153 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 22ain Medi, 2016 yn gofnod cywir.

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI.

 

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEMAU GANLYNOL I'W CHYHOEDDI AM EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

4.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent.  Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol.  Felly yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor a oedd yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500 gan gyn-denantiaid.  Roedd y Polisi ynghylch Ôl-ddyledion Cyn-denantiaid yn nodi'n glir y meini prawf yr oedd yn rhaid cydymffurfio â hwy wrth benderfynu a oedd yn annarbodus cymryd camau pellach er mwyn ceisio casglu dyled gan gyn-denant. 

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

5.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif3 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ddyledion unigolion a/neu wybodaeth bersonol.  Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol. Felly, ar ôl cloriannu'r mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar ddau gyfrif gordaliad budd-dal oedd wedi eu clustnodi'n rhai anadferadwy.  Roedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau.  Felly bernid ei bod yn briodol dileu'r cyfrifon hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y cyfrifon y manylwyd arnynt yn yr adroddiad yn cael eu dileu fel rhai anadferadwy.

 

 

6.

TRETHI ANNOMESTIG - CYMORTH DDEWISIOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). 

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am hanes ariannol diweddar trethdalwyr unigol a/neu wybodaeth bersonol.  Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol.    Felly, ar ôl cloriannu'r mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais am Ryddhad Caledi o dan ddarpariaethau Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y'i diwygiwyd.

 

PENDERFYNWYD bod y balans cyfredol oedd yn ddyledus mewn perthynas â chais cyfeirnod 80020011 yn cael ei hepgor.

 

 

7.

TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif3 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). 

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion oedd yn agored i dalu'r Dreth Gyngor. Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol nad oedd yn eiddo i'r cyhoedd ac na fyddai'n cael ei datgelu fel rheol i drydydd partïon.  Felly, ar ôl cloriannu'r mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn o ran y Dreth Gyngor. 

 

Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, gan ddod i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol. 

 

PENDERFYNWYD, yn achos cais cyfeirnod 60300781, y byddai'r tâl eiddo gwag o 50% yn cael ei hepgor am y 3 mis yn union ar ôl i gyfnod yr eithriad ddod i ben.  

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau