Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 5ed Awst, 2016 9.00 yb

Lleoliad: Meeting Room 1, Town Hall, Ammanford - Neuadd y Dref, Rhydaman. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.</AI1>

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIAD'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 22AIN GORFFENNAF, 2016. pdf eicon PDF 381 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar yr 22ain o Orffennaf, 2016 yn gofnod cywir.</AI2>

3.

ARDAL FENTER LLESIANT A GWYDDORAU BYWYD AR DIR DATBLYGU YN LLYNOEDD DELTA, LLANELLI. pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn ceisio eithriad i Amod 5.3 o Reolau'r Cyngor o ran Gweithdrefnau Contractau, parthed penodi Arup (Swyddfa Caerdydd) i greu prif gynllun diwygiedig ar gyfer De Llanelli, gan adeiladu ar y gwaith blaenorol a wnaed gan y cwmni hwnnw ar gyfer Cyd-fenter Llanelli.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cyfeirio at Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Abertawe i ddarparu “ardal fenter drawsnewidiol ac arloesol ym maes llesiant a gwyddorau bywyd ar dir Llynnoedd Delta, Llanelli.” Roedd Llywodraeth Cymru yn flaenorol wedi ariannu astudiaeth gwmpasu ynghylch y cynnig uchod ac wedi penodi Arup i gynnal yr astudiaeth, ar sail ei waith hanesyddol ar brif gynllun ar gyfer De Llanelli. Gyda bod y gwaith wedi'i gwblhau ar yr astudiaeth gwmpasu honno, roedd angen prif gynllun manylach i ddarparu rhagor o fanylion, i'w gwblhau cyn pen 12 mis i fis Mai 2016. Argymhellid mai penodi Arup i gynnal y prif gynllun diwygiedig fyddai'r dewis mwyaf cost effeithiol o ystyried yr amserlen gyfyng, ei brofiad blaenorol yn ardal De Llanelli, a'r ffaith na fyddai ymgynghorydd arall yn gallu dechrau ar y gwaith o fan mor ddatblygedig ac felly'n gorfod ail-werthuso gwaith a gomisiynwyd yn flaenorol, gan gynhyrchu ffioedd ychwanegol diangen a dyblygu gwaith.

 

Roedd Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151 y Cyngor, ill dau, wedi cydsynio â'r eithriad.

 

PENDERFYNWYD hepgor Amod 5.3 o Reolau'r Cyngor o Ran Gweithdrefnau Contractau/Rheolau'r Cyngor o Ran Gweithdrefnau Dyfynbrisiau a bod Arup (Swyddfa Caerdydd) yn cael ei benodi i greu prif gynllun diwygiedig ar gyfer ardal De Llanelli.