Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22 HYDREF, 2021 pdf eicon PDF 276 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 22 Hydref, 2021 yn gofnod cywir.

 

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFFAU 12 AC 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

4.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi rhent unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol. Felly roedd y prawf budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Roedd yr Arweinydd Cymorth Tenantiaeth wedi tynnu sylw'r Aelod Cabinet at y ffaith fod yr achosion a nodwyd yn yr adroddiad yn denantiaid cyfredol ac nid yn gyn-denantiaid fel y cyfeirir atynt yn nheitl yr adroddiad.

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, a oedd nodi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion cyn-denantiaid ac yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500 gan gyn-denantiaid.

 

Nododd yr Aelod Cabinet yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad a bu'n ystyried yr adroddiadau unigol ar gyfer pob un o'r cyn-denantiaid a oedd yn manylu ar y rhesymau dros geisio dileu dyledion. Roedd y rhesymau yn cynnwys amgylchiadau personol.

 

Mewn ymateb i ymholiad yr Aelod Cabinet ynghylch tuedd dyledion tenantiaid o fewn stoc Tai'r Cyngor, eglurodd yr Arweinydd Cymorth Tenantiaeth er ei bod yn anodd rhagweld senarios yn y dyfodol, bu cynnydd amlwg mewn dyledion tenantiaid dros y flwyddyn ddiwethaf a rhagwelwyd y gallai fod tuedd gynyddol yn nifer y dyledion tenantiaid a fyddai dros £1,500 yn y dyfodol agos. Eglurodd Rheolwr y Budd-daliadau a'r Dreth Gyngor ymhellach fod cynlluniau ar gael gan y Llywodraeth i denantiaid sy'n wynebu anawsterau o ran dyledion a bod y tîm yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth a Shelter.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y tenantiaid cyfredol fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

 

5.

TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion a oedd yn talu'r dreth gyngor ac roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan baragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn gan y byddai datgelu’r wybodaeth yn arwain at ymyrraeth ormodol heb gyfiawnhad i fywyd preifat a bywyd teuluol yr unigolyn dan sylw.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau a oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn i'r Dreth Gyngor.

 

Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, gan ddod i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol.

 

PENDERFYNWYD:

 

5.1

dyfarnu gostyngiad yn ôl disgresiwn o ran y dreth gyngor sy'n ddyledus yng nghyfeirnod cais 60357742-4 ar gyfer 2018/19, 2019/20, 2020/21 a 2021/22.  Mewn achosion lle mae cyfrifon yn cael eu gostwng gan unrhyw ddyfarniadau statudol pellach neu eithriadau, yna dylid lleihau'r dyfarniad yn ôl disgresiwn.

 

5.2

i ddyfarnu cyfeirnod cais 110339 gyda dyfarniad dewisol o ran y Dreth Gyngor a godwyd sy'n cyfateb i swm y gostyngiad a ddyfarnwyd yn wreiddiol ar gyfer y cyfnodau 1/7/2019 i 31/3/2020 a 1/4/2020 i 30/3/2021.

 

 

6.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER - DYLEDION AMRYWIOL

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig sy'n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unigolyn (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Er y byddai budd y cyhoedd fel arfer yn ffafrio tryloywder a bod yn agored, mae'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na’r budd i’r cyhoedd i ddatgelu'r wybodaeth oherwydd gallai arwain at ymyrraeth ormodol heb gyfiawnhad i fywyd preifat a bywyd teuluol yr unigolyn dan sylw.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrif a nodwyd nad oedd modd ei adennill. Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau. Felly, bernid ei bod yn briodol dileu'r cyfrif hwn.

 

PENDERFYNWYD dileu'r ôl-ddyledion, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

 

7.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER - GORDALIADAU BUDD-DAL TAI

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad gan y byddai datgelu yn golygu y byddai gwybodaeth sensitif am yr unigolion yn cael ei datgelu'n anghymesur i'r cyhoedd.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar gyfrifon gordaliad budd-dal tai oedd wedi'u clustnodi'n rhai nad oedd modd eu hadennill.  Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau.  Felly roedd yn cael ei ystyried yn briodol dileu'r cyfrifon hyn yn erbyn darpariaeth ddarbodus y Cyngor o ran drwgddyledion ar gyfer gordaliadau Budd-dal Tai.

 

PENDERFYNWYD bod y cyfrifon dyledus y manylwyd arnynt yn yr adroddiad yn cael eu dileu am nad oedd modd adennill y taliadau.

 

 

 

8.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent.  Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol.  Felly yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifon y Dreth Gyngor y nodwyd nad oedd modd eu hadennill.  Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau.  Felly, bernid ei bod yn briodol dileu'r cyfrifon hyn.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y Dreth Gyngor, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau