Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU 27AIN CHWEFROR, 2020 pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror, 2020, gan ei fod yn gywir.

 

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

4.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER - GORDALIADAU BUDD-DAL TAI

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad gan y byddai datgelu yn golygu y byddai gwybodaeth sensitif am yr unigolion yn cael ei datgelu'n anghymesur i'r cyhoedd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar gyfrifon gordaliad budd-dal tai oedd wedi'u clustnodi'n rhai anadferadwy.  Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau.  Felly roedd yn cael ei ystyried yn briodol dileu'r cyfrifon hynny yn erbyn darpariaeth drwgddyledion ddarbodus yr Awdurdod ar gyfer gordaliadau Budd-dal Tai

 

PENDERFYNWYD bod y cyfrifon dyledus y manylwyd arnynt yn yr adroddiad yn cael eu dileu am nad oedd modd adennill y taliadau.

 

 

5.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER - DYLEDION AMRYWIOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent.  Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol.  Felly yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifon y nodwyd nad oedd modd eu hadennill. Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau. Felly, bernid ei bod yn briodol dileu'r cyfrifon hyn.

 

PENDERFYNWYD dileu'r ôl-ddyledion, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

 

6.

TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion a oedd yn talu'r dreth gyngor ac roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan baragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn gan y byddai datgelu yn golygu y byddai gwybodaeth gyfrinachol bersonol am unigolion eraill yn cael ei datgelu heb gyfiawnhad.

 

Bu'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn i'r Dreth Gyngor.

 

Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, gan ddod i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i awdurdodau lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol.

 

Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cydnabod bod y pandemig Coronafeirws (Covid-19) wedi cael effaith ariannol sylweddol ar gymunedau a chyllideb y Cyngor. Dywedodd y rheolwr Budd-daliadau a'r Dreth Gyngor fod y Cyngor yn parhau i ddarparu cymorth ariannol a chyngor lle bo'n bosibl.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1

peidio â rhoi gostyngiad yn ôl disgresiwn i geisiadau: 60341623, 60344671-8, 20011571-3 a 60363022-5;

 

 

6.2

rhoi gostyngiad yn ôl disgresiwn o 100% mewn perthynas â chais 60370233-6 ar gyfer y cyfnod 14 Mehefin 2020 – 16 Awst 2020;

 

6.3

rhoi gostyngiad yn ôl disgresiwn o 100% ar gyfer y cyfnod 

29 Mehefin 2020 - 16 Awst 2020, mewn perthynas â cheisiadau: 60371568-X, 60371569-9, 60371572-3, 60371574-1, 60371575-0, 60371576-X, 60371585-9 a 60371587-7.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau