Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 16eg Chwefror, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15FED IONAWR 2018 pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 15 Ionawr 2018, gan ei fod yn gywir.

 

 

3.

FFORDD GYSWLLT GORLLEWIN CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i sicrhau y gellid cyflawni Ffordd Gyswllt Gorllewin Caerfyrddin i fodloni gofynion y Cynllun Datblygu Lleol a buddsoddiad cysylltiedig yn yr ardal gyfagos, gan gynnwys datblygiad cyflogaeth y Brifysgol sy'n cynnwys ail-leoli Pencadlys S4C yng Nghaerfyrddin fel rhan o gynllun Yr Egin.

 

Yn ei gyfarfod ar 19 Medi 2016, bu i'r Bwrdd Gweithredol gymeradwyo argymhelliad i ddechrau llunio, cadarnhau a gweithredu Gorchymyn Prynu Gorfodol Gorllewin Caerfyrddin 2016 er mwyn caffael tir ar gyfer adeiladu Ffordd Gyswllt Gorllewin Caerfyrddin.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod llythyr dyddiedig 19 Rhagfyr 2017 wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu ystyriaeth a phenderfyniad Gweinidog Cymru, a oedd wedi dod i'r casgliad y gellid cadarnhau'r Gorchymyn, ac yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol y gellid dirprwyo cadarnhau'r Gorchymyn i'r Cyngor. Roedd copi o'r llythyr i'w weld yn Atodiad A i'r adroddiad.


 

PENDERFYNWYD:

 

3.1  Nodi'r llythyr gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 19 Rhagfyr 2017 ynghylch "GORCHYMYN PRYNU GORFODOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (FFORDD GYSWLLT GORLLEWIN CAERFYRDDIN) 2016),

 

3.2  Cymeradwyo cadarnhau'r Gorchymyn dywededig fel y dirprwyir i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi prynu tir i adeiladu Ffordd Gyswllt Gorllewin Caerfyrddin.

 

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R  BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM

CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

5.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent.  Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol.  Felly roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor a oedd yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500 gan gyn-denantiaid. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion cyn-denantiaid a oedd yn arfer byw mewn tai a oedd yn cael eu gosod drwy Asiantaeth Gosod Tai cymdeithasol y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad yn achosion hirdymor a bod ymdrechion wedi eu gwneud i ôlrhain y cyn-denant ac adennill y swm dyledus, ond bu'r ddau yn aflwyddiannus.

 

Yn dilyn cais gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol i gael gwybodaeth fanylach ynghylch cefndir yr achosion, awgrymodd y Rheolwr Partneriaeth ac Ymgysylltu fod achosion rhif 12, 14 a 17 yn cael eu gohirio er mwyn gallu rhoi gwybodaeth fanylach i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol cyn gwneud penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill, ac eithrio achosion cyfeirnod 12, 14, a 17, a fydd yn cael eu gohirio er mwyn cael rhagor o wybodaeth yn eu cylch.

 

 

6.

TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). 

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion oedd yn agored i dalu'r Dreth Gyngor. Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol nad oedd yn eiddo i'r cyhoedd ac na fyddai'n cael ei datgelu fel rheol i drydydd partïon.  Felly, ar ôl cloriannu'r mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar gais oedd wedi dod i law am ostyngiad yn ôl disgresiwn o ran y Dreth Gyngor. 

  

Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, gan ddod i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol roi disgownt neu ostyngiad y penderfynwyd arno'n lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol. 

 

PENDERFYNWYD

 

6.1 yn achos cais cyfeirnod 60246839, bod y taliadau dyledus yn cael eu hepgor;

 

6.2 bod cais cyfeirnod 60329459 yn cael ei wrthod;

6.3 yn achos cais cyfeirnod 60322826, bod gostyngiad yn ôl disgresiwn o 50% yn cael ei ganiatáu ar gyfer 2017/18.

 

 

7.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ddyledion unigolion a/neu wybodaeth bersonol.  Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol.  Felly, ar ôl pwyso a mesur y mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

 

 

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y Cyfrifon Treth Gyngor a'r cyfrifon Ardrethi Annomestig hynny a oedd wedi eu clustnodi'n rhai anadferadwy. Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau.

 

Felly, bernid ei bod yn briodol dileu cyfrifon y Dreth Gyngor ar sail y ddarpariaeth ar gyfer drwgddyledion a ganiateid i'r Awdurdod a'r Ardrethi Annomestig, y gwneid iawn amdanynt drwy gyfraniad y Cyngor i “gronfa” graddio annomestig Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD dileu'r cyfrifon a nodwyd yn yr adroddiad gan eu bod yn anadferadwy, ac eithrio cais cyfeirnod 60185957, a fydd yn cael ei ohirio i gael rhagor o wybodaeth.

 

 

8.

TRETHI ANNOMESTIG - CYMORTH CALEDI

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). 

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am hanes ariannol diweddar trethdalwyr unigol a/neu wybodaeth bersonol.  Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol.    Felly, ar ôl cloriannu'r mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais am Ryddhad Caledi o dan ddarpariaethau Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y'i diwygiwyd.

 

PENDERFYNWYD bod cais cyfeirnod 60299317 am ryddhad caledi yn cael ei wrthod.