Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell 3, - Neuadd y Dref, Llanelli. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R  BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM

CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 14 a 17 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

3.

TY LLWYN PISGWYDD, CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 2 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent.  Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol.  Felly, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar hawliad o ran adfeiliad yn erbyn yr Awdurdod gan ei landlord cynt yn Nh? Llwyn Pisgwydd, Caerfyrddin. Roedd y Cyngor Sir a'r Awdurdod a'i ragflaenodd wedi rhentu'r eiddo ar brydles ers y 1970au ac fe'i defnyddiwyd fel safle weinyddol tan y symudwyd. Ar y cam hwn o'r broses gyfreitha, ystyriwyd y byddai'n ddoeth cynnig setliad yn unol â Rhan 36.

PENDERFYNWYD y caiff swyddogion eu hawdurdodi i gyflwyno cynnig setliad Rhan 36 ar y lefel a gynigiwyd yn yr adroddiad, yn ogystal â chostau, a bod unrhyw benderfyniadau eraill sydd eu hangen o ran yr hawliad yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Eiddo, yn amodol ar fod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau'n cael gwybod am y trafodion.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau