Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR:- |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi, 2017, gan ei fod yn gywir.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi, 2017, gan ei fod yn gywir.
|
|
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI ADRODDIAD EITHRIEDIG YN UNOL Â PHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12(A) I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, (fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007) GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM FATERION ARIANNOL NEU FUSNES UNRHYW UNIGOLYN (GAN GYNNWYS YR AWDURDOD Y MAE'R WYBODAETH HONNO YN EI FEDDIANT). Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 14 ac 17 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
DILEU ÔL-DDYLEDION CYN-DENANTIAID ASIANTAETH GOSOD TAI CYMDEITHASOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol. Felly, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor a oedd yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500 gan gyn-denantiaid. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion cyn-denantiaid a oedd yn arfer byw mewn tai a oedd yn cael eu gosod drwy Asiantaeth Gosod Tai cymdeithasol y Cyngor.
Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad yn rhai sy'n parhau ers tro a bod ymdrechion wedi'u gwneud i olrhain y cyn-denant ac adennill y swm oedd yn ddyledus, a bod y ddau beth wedi bod yn aflwyddiannus.
Gofynnodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys gwybodaeth fwy manwl mewn perthynas â chefndir pob achos.
PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.
|
|
TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, peidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion oedd yn agored i dalu'r Dreth Gyngor. Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol nad oedd yn eiddo i'r cyhoedd ac na fyddai'n cael ei datgelu fel rheol i drydydd partïon. Felly, ar ôl pwyso a mesur y mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.
Bu'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn i'r Dreth Gyngor.
Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol.
PENDERFYNWYD
5.1 bod cais cyfeirnod 40036972 yn cael ei
wrthod ond bod ad-daliad misol llai o £150 yn cael ei gynnig
i'r ymgeisydd 5.2 bod y ceisiadau â'r cyfeirnodau
60305884 a 40032658 yn cael eu gwrthod; 5.3 bod 50% o ran y tâl eiddo gwag yn cael ei hepgor yn achos cais cyfeirnod 60317791.
|
|
TRETHI ANNOMESTIG - CYMORTH CALEDI Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am hanes ariannol diweddar trethdalwyr unigol a/neu wybodaeth bersonol. Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol. Felly, ar ôl pwyso a mesur y mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am Ryddhad Caledi o dan ddarpariaethau Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y'i diwygiwyd.
PENDERFYNWYD:
6.1 bod 50% o ran y tâl ôl-weithredol yn
cael ei hepgor
6.1 bod 50% o ran y tâl am 2016/17 a'r flwyddyn bresennol yn cael ei hepgor yn achos cais cyfeirnod 80020537;
6.3 bod cais cyfeirnod 80020974 yn cael ei wrthod.
|