Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Tai (Cyn Mai 2022) - Dydd Llun, 6ed Mawrth, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen 

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER STRYD CYFLEOEDD, LLANELLI pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer Stryd Cyfleoedd, Llanelli ynghyd ag Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb.  Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at sut y byddai'r polisi arfaethedig yn cefnogi'r weledigaeth a'r amcanion ehangach ar gyfer canol y dref, y galw presennol am gartrefi yn yr ardal, y polisi gosod arfaethedig a sut y byddai'r polisi'n cael ei werthuso. 

 

Dywedwyd wrth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol bod hwn yn un o blith nifer o brosiectau a mentrau a oedd yn cael eu datblygu er mwyn gweithio tuag at ymrwymiad y Cyngor i wneud Canol Tref Llanelli yn lle gwell i ymweld â hi, i weithio a byw.

 

Esboniwyd y cafodd y polisi gosodiadau lleol ei ddatblygu er mwyn cefnogi prif amcanion y prosiect Stryd Cyfleoedd a oedd yn cynnwys datblygu pedwar fflat fforddiadwy i'w rhentu yng nghanol y dref.  Yn ogystal, nodwyd bod yr achos busnes a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru am gymorth ariannol ar gyfer y prosiect hefyd yn cynnwys amcanion megis, darparu tai fforddiadwy o safon gan arwain at well iechyd, darparu hyfforddiant a chyflogaeth uniongyrchol ar gyfer prosiectau adeiladu a chreu ymdeimlad o gymuned ac amgylchedd diogel drwy ddylunio o safon. Yn ogystal, byddai'r polisi gosodiadau arfaethedig yn cefnogi'r amcanion hyn drwy:

 

·         Helpu pobl leol sy'n gweithio yng nghanol y dref i ddod o hyd i lety fforddiadwy o safon.

·         Sicrhau bod Llanelli yn lleoliad mwy deniadol a chyffrous i fyw, gweithio a chael hwyl.

·         Cynyddu gwariant yn siopau canol y dref a busnesau eraill.

·         Lleihau ofn am droseddau yng nghanol y dref, yn enwedig gyda'r nos.

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd wrth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai'r polisi gosodiadau hwn yn berthnasol yn y lle cyntaf ar gyfer y pedwar fflat yn 10-12 Stryd Stepney, Llanelli yn unig, ac yn dibynnu ar lwyddiant y cynllun, byddai'n cael ei ymestyn i ddatblygiadau newydd eraill yng nghanol y dref.

Er bod y galw gan unigolion a chyplau yn ward Elli ym mis Rhagfyr 2016 wedi cael ei nodi, rhagwelwyd y byddai nifer yr ymgeiswyr yn cynyddu yn dilyn ymgyrch hyrwyddo.

Cynigwyd y byddai Polisi Gosodiadau Stryd Cyfleoedd yn cynnwys cyfres o feini prawf cymhwysedd a bod yn rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu'n h?n, er mwyn sicrhau tenantiaeth fwy sefydlog.  Yn ogystal, cynigwyd y byddai gwerthusiad o effaith y polisi yn cael ei gynnal a fyddai'n cynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb â thrigolion y fflatiau, cyfweliadau â staff rheoli tai rhanbarthol ac ystyriaeth o'r holl ddata monitro perthnasol a gasglwyd gan Dasglu Canol y Dref.  Nodwyd y byddai Gr?p Darparu Tai Fforddiadwy, Cyngor Sir Caerfyrddin a Thasglu Canol Tref Llanelli yn craffu ar werthusiadau'r polisi yn flynyddol er mwyn sicrhau bod y Polisi yn bodloni'i amcanion ac yn parhau i fod yn gynaliadwy.

PENDERFYNWYD:

 

2.1       Derbyn yr adroddiad ar y Polisi Gosodiadau ar gyfer Stryd Cyfleoedd,
            Llanelli.

 

2.2       Cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer Stryd Cyfleoedd, Llanelli.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 11EG IONAWR 2017 pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2017 yn gofnod cywir.