Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
|
|
DERBYN COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 3YDD MEDI 2015 PDF 328 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 3ydd Medi, 2015 yn gofnod cywir.
|
|
PENNU RHENTI AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2016/17 PDF 344 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ei bod yn ofynnol i holl Awdurdodau Lleol Cymru gydymffurfio â'r polisi rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â'u lefelau rhent arfaethedig ar gyfer tai cyngor yn 2016/17 a oedd, yn achos Sir Gaerfyrddin, yn cyfateb i gynnydd wythnosol cyffredinol o 2.97% (gan gynnwys £2.00 o gynnydd). Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai er nad oedd Safle Teithwyr Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac er nad oedd y rhenti'n cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru, bernid ei bod yn deg ac yn gyfiawn bod y rhenti'n cynyddu'r un faint â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr + 1.5%. Yn achos 2016/17 yr oedd hyn yn cyfateb i 1.4%. Felly yr argymhelliad oedd bod rhenti wythnosol Safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn £50.39 (heb gynnwys taliadau gwasanaeth a threthi d?r). Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol am y cyngor cyfreithiol a gawsid ynghylch pennu ffioedd lleiniau parhaol ar Safleoedd Sipsiwn/Teithwyr Awdurdodau Lleol, a nododd y cyngor hwnnw. PENDERFYNWYD 3.1 pennu rhent o £50.39 ar gyfer y lleiniau ar Safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn 2016/17; 3.2 gweithredu'r polisi tâl gwasanaeth er mwyn sicrhau bod tenantiaid y safle yn talu am y gwasanaethau ychwanegol hynny; 3.3 pennu tâl o £11.25 am ddarparu d?r.
|