Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Tai (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 23ain Gorffennaf, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

LOFNODI BOD COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 MAWRTH, 2020 YN GOFNOD CYWIR pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi COFNOD penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2020, gan ei fod yn gywir.

 

3.

CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER GARREGLWYD, UN O DDATBLYGIADAU ADEILADU NEWYDD CYNTAF Y CYNGOR pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Gweithdrefn Gosodiadau ar sail Dewis Cyngor Sir Caerfyrddin, rhoddodd Aelod y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar greu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad adeilad tai newydd yn Garreglwyd, Pen-bre. 

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu bod datblygiad Garreglwyd, a gynlluniwyd i ddiwallu’r angen mawr am dai yn yr ardal, yn un o ddatblygiadau adeiladu tai newydd cyntaf y Cyngor i gael ei gwblhau sy'n cynnwys 14 cartref a chymysgedd o 12 cartref â dwy ystafell wely a 2 gartref â phedair ystafell wely.

 

Roedd y Polisi Gosodiadau Lleol ynghlwm wrth yr adroddiad yn manylu ar y cynigion o ran dyrannu a gosod y tai ynghyd â gwybodaeth am yr amodau dyrannu, hysbyseb a llunio rhestr fer.

 

Nod y Polisi oedd cyflawni a chynnal cymuned gytbwys a chynaliadwy trwy reoli dyraniad tai yn Garreglwyd gan greu cymuned gynaliadwy y mae pobl yn falch o gael byw ynddi.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai'r polisi yn parhau mewn lle am 6 mis ar ôl gosod pob cartref, er mwyn sicrhau bod y gymuned wedi'i sefydlu'n briodol. Yn ogystal, byddai'r polisi a'i effaith ar y gymuned yn cael ei adolygu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn ymgynghoriad â'i bartneriaid cymdeithas dai, ar ôl y cyfnod o 6 mis er mwyn penderfynu a ddylid ymestyn y cyfnod. 

 

Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cydnabod yr ymgynghorwyd ag Aelodau lleol ar y Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig a'u bod yn cytuno y dylid cymhwyso'r Polisi Gosodiadau Lleol i'r gosodiadau cychwynnol yn natblygiad Garreglwyd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer y tai newydd sy'n rhan o ddatblygiad adeiladu tai newydd yn Garreglwyd.