Lleoliad: Swyddfa'r ABG Tai - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 6 MEDI 2018 PDF 72 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2018 gan ei fod yn gywir.
|
|
PENNU RHENTI AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2019/20 PDF 219 KB Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad i gadarnhau'r cynnydd yn y rhenti wythnosol ar gyfer safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20. Hysbyswyd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y safle Sipsiwn a Theithwyr yn wasanaeth a gyllidir gan y Dreth Gyngor a bod 15 llain ar safle Pen-y-bryn ar hyn o bryd. Yr oedd yr holl Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai yng Nghymru yn gweithredu yn unol â'r polisi rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â lefelau rhenti tai cymdeithasol. Er nad oedd safle Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac felly nid oedd y rhenti'n cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru, bernid ei bod yn deg ac yn gyfiawn bod y rhenti'n cynyddu'r un faint â thenantiaid y Cyngor. Ym mlwyddyn ariannol 2019/20 byddai hyn yn gynnydd o 2.4% (CPI ym mis Medi 2018). O ganlyniad, argymhellwyd mai £54.74 fyddai'r rhenti wythnosol am 2019/20 ar gyfer safle Pen-y-bryn (taliadau net am wasanaethau a threthi d?r). Byddai'r rhent hwn yn rhoi incwm blynyddol o £39,412.80 am 2019/20, petai pob un o'r 15 llain yn cael ei defnyddio drwy gydol y flwyddyn.
PENDERFYNWYD: 3.1 pennu mai £54.74 fyddai'r rhent am leiniau ar Safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn am 2019/20, wedi'i gasglu dros 48 wythnos; 3.2 bod y polisi ynghylch taliadau am wasanaethau yn cael ei weithredu i sicrhau bod tenantiaid y safle yn talu am y gwasanaethau ychwanegol hynny; 3.3 pennu mai £16.00 yw'r tâl am ddefnyddio d?r, wedi'i gasglu dros 48 wythnos; 3.4 awdurdodi swyddogion i ymgynghori â phreswylwyr Pen-y-bryn a phennu'r tâl cyffredinol a nodir yn nhabl 1 yn yr adroddiad.
|