Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Tai (Cyn Mai 2022) - Dydd Mercher, 23ain Mai, 2018 2.00 yp

Lleoliad: Office - Executive Board Member for Housing - County Hall, Carmarthen

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

LLOFNODI BOD COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 IONAWR 2018 YN GOFNOD CYWIR pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 24 Ionawr 2018, gan ei fod yn gywir.

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI

CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R

BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL

I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH

EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O

ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I

NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

4.

DARPARU LLETY DROS DRO I DEULUOEDD/UNIGOLION DIGARTREF YN Y DYFODOL

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith y byddai datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad yn tanseilio sefyllfa'r Cyngor o ran trafod telerau â darparwyr allanol ynghylch darparu'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol ac yn gwneud drwg i'w gyllid o bosib.  Felly yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn cynnwys cynigion a dewisiadau ar gyfer darparu llety dros dro i deuluoedd/unigolion digartref yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r argymhellion ynghylch darparu llety dros dro i deuluoedd/unigolion digartref yn y dyfodol, fel y nodwyd yn yr adroddiad.