Lleoliad: Ystafell 65 - Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
PENNU RHENTI AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2018/19 PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad i gadarnhau'r cynnydd yn y rhenti wythnosol ar gyfer safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19. Hysbyswyd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y safle Sipsiwn a Theithwyr yn wasanaeth a gyllidir gan y Dreth Gyngor a bod 15 llain ar safle Pen-y-bryn ar hyn o bryd. Yr oedd yr holl Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai yng Nghymru yn gweithredu yn unol â'r polisi rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â lefelau rhenti tai cymdeithasol. Er nad oedd safle Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac felly nid oedd y rhenti'n cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru, bernid ei bod yn deg ac yn gyfiawn bod y rhenti'n cynyddu'r un faint ag ar gyfer tenantiaid y Cyngor. Ym mlwyddyn ariannol 2018/19 byddai hyn yn gynnydd o 3.5% (CPI + 1.5%). O ganlyniad, argymhellwyd mai £53.46 fyddai'r rhenti wythnosol am 2018/19 ar gyfer safle Pen-y-bryn (taliadau net am wasanaethau a threthi d?r). Byddai'r rhent hwn yn rhoi incwm blynyddol o £38,491 am 2018/19, petai pob un o'r 15 llain yn cael ei defnyddio drwy gydol y flwyddyn.
PENDERFYNWYD: 2.1 pennu mai £53.46 fyddai'r rhent am leiniau ar Safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn am 2018/19; 2.2 bod y polisi ynghylch taliadau am wasanaethau yn cael ei weithredu i sicrhau bod tenantiaid y safle yn talu am y gwasanaethau ychwanegol hynny; 2.3 pennu mai £15.00 yw'r tâl am ddefnyddio d?r; 2.4 awdurdodi swyddogion i ymgynghori â phreswylwyr Pen-y-bryn a phennu'r tâl cyffredinol a nodir yn nhabl 1 yn yr adroddiad.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 14 TACHWEDD 2017 PDF 101 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2017 yn gofnod cywir.
|