Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
TALIADAU DWR YN NHY'R GELLI, LLANELLI PDF 163 KB Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a fanylai ar sut yr oedd cyn-denantiaid a thenantiaid presennol Cynllun Tai Gwarchod T?'r Gelli yn Llanelli wedi gordalu am dd?r.
Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod adolygiad o gostau D?r Cymru yng nghynlluniau tai gwarchod y Cyngor wedi datgelu bod D?r Cymru wedi codi'r tâl anghywir ar y Cyngor ar gyfer y cyflenwad d?r yn Nh?'r Gelli rhwng 1 Ebrill 2010 a 31 Mawrth 2017. Defnyddiwyd y taliadau hynny i gyfrifo'r costau d?r wythnosol ar gyfer tenantiaid y cynllun tai gwarchod.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai fod y taliadau diwygiedig ar gyfer y cyfnod a nodwyd wedi dod i law a oedd yn golygu bod gan nifer helaeth o denantiaid hawl i gael ad-daliad. Cyfanswm yr ad-daliad a gyfrifwyd oedd £33,086.42, a fyddai'n rhoi ad-daliad o £973.13 fesul tenant ar gyfartaledd.
Yn ychwanegol i hyn, pwysleisiodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai y byddai tenantiaid presennol a chyn-denantiaid yn cael eu had-dalu ar unwaith drwy ddull talu o'u dewis. Ar ben hynny, os yw cyn-denant wedi marw, byddai'r arian yn cael ei ad-dalu i'r ystâd.
Mewn ymateb i ymholiad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai ei fod yn hyderus nad oedd y mater hwn wedi codi mewn unrhyw leoliad arall a rhoddodd sicrwydd y byddai camau yn cael eu cymryd er mwyn atal hyn rhag digwydd eto.
PENDERFYNWYD ad-dalu'r costau d?r a oedd wedi'u gordalu i denantiaid presennol a chyn-denantiaid T?'r Gelli.
|
|
LLOFNODI BOD COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 MEDI 2017 YN GOFNOD CYWIR PDF 96 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2017, gan ei fod yn gywir.
|