Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  E-bost: democraticservices@carmarthenshire.gov.uk Tel 01267 224028

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Lenny a D. Price. Derbyniwyd ymddiheuriad hefyd gan y Cynghorydd L.M. Stephens - Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Dynol, Effeithlonrwydd a Chydweithio.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 28 Ebrill 2017.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CORFFORAETHOL CYNLLUN GWELLA 2016/17 pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar sut yr oedd pob swyddogaeth graffu'n perfformio mewn perthynas â'r camau gweithredu a'r mesurau a geir yng Nghynllun Gwella'r Awdurdod ar gyfer 2016/17, fel yr oedd y sefyllfa ar 31Rhagfyr 2016. 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD ADRANNOL CYNLLUN GWELLA 2016/17 pdf eicon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Monitro Perfformiad Adrannol – Cynllun Gwella 2016/17 a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar berfformiad adrannau'r Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol yn ystod Chwarter 3 [31 Hydref – 31 Rhagfyr] o 2016/17.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Mewn perthynas â'r ffaith bod yr ymatebion i geisiadau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn brin o'r targed, er o 0.03% yn unig, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y cafwyd nifer uchel o geisiadau gan gwmnïau preifat a'r wasg am faterion megis Brexit a'r Fargen Ddinesig;

·         Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod statws perfformio Gweithred 12008 mewn gwirionedd yn unol â'r targed wrth inni aros am ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru;

·         O ran absenoldeb salwch roedd hi'n amlwg ymhle roedd y ‘mannau problemus’ ac ystyriwyd y byddai'n briodol, os mai dyna ddymuniad y Pwyllgor, gofyn i Benaethiaid Gwasanaeth y meysydd hynny ddod i esbonio'r cyfraddau uchel o absenoldeb salwch, yn enwedig absenoldebau sy'n ymwneud â straen, a'r camau a gymerir i fynd i'r afael â'r materion hyn. Dywedodd y Cadeirydd y byddai hyn yn fater y gallai'r Pwyllgor fynd ar ei drywydd o bosibl ar ôl yr etholiadau sydd ar ddod;

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i gael cadarnhad gan Reolwr y Gwasanaethau Refeniw ynghylch y cymorth sydd ar gael i unigolion sy'n ei chael hi'n anodd talu'r Dreth Gyngor;

·        Rhoddodd y Pennaeth TGCh wybod i'r Pwyllgor am y cynigion sydd wrth law i ddarparu aelodau a'r swyddogion â'r offer mwyaf effeithlon i ddiwallu eu hanghenion TGCh a sicrhau, ar yr un pryd, bod cyn lleied o risg i ddiogelwch â phosibl. Yn dilyn yr etholiadau sydd ar ddod cynigir dewis i Gynghorwyr o blith llechen Miix, gliniadur neu iPad.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac i adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2016 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Nododd y Swyddogion y pryderon a fynegwyd ynghylch y costau sy'n gysylltiedig â dileu swyddi ysgol ac ymddeoliadau cynnar gwirfoddol pan fo cyllidebau ysgolion yn cael eu cwtogi. Nodwyd bod £200K ychwanegol wedi'i gynnwys yng nghyllideb 2017/18 ar gyfer ymddeoliadau cynnar gwirfoddol ac roedd polisi adleoli ar waith i geisio lleihau costau;

·         Mynegwyd pryder ynghylch lleihau amser y staff sydd ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau brecwast am ddim a'r effaith ar forâl;

·         Mynegwyd pryder ynghylch yr amrywiad gwerth £880k a ragwelir mewn perthynas â Chartrefi Gofal Preifat a Gwirfoddol i Bobl H?n ond cydnabuwyd mai ymholiad oedd hwn, ynghyd â'r ymholiadau eraill a wnaed, y byddai angen ei godi yn y Pwyllgor Craffu perthnasol ar gyfer y maes gwasanaeth hwnnw;

·         Mewn perthynas â chynllun Gofal Ychwanegol Rhydaman / Llandybïe, nodwyd mai fflatiau hunangynhaliol oedd y rhain ac nad oedd gofal ychwanegol yn cael ei gynnig. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i anfon y wybodaeth hon at y swyddogion perthnasol a chadarnhau'r rhesymau dros danwario;

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i gael dadansoddiad gan y swyddogion priodol o'r gwariant o £70k ar gynllun Gofal Ychwanegol Ardal Llanelli. Hefyd, cytunodd i gael rhagor o wybodaeth sy'n ymwneud â dadansoddi cyllidebau'r cynlluniau ar gyfer Ysgolion Cynradd Llandeilo a Rhydaman;

·         Cydnabuwyd bod y gwaith o garthu harbwr Porth Tywyn wedi cael effaith yn ei dro ar yr incwm a ddaw o ffioedd yr angorfa.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

Y PWYLLGOR CRAFFU - POLISI AC ADNODDAU: Y DIWEDDARAF YNGHYLCH CAMAU GWEITHREDU AC ATGYFEIRIADAU pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

 

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

11.

COFNODION pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 8 Chwefror 2017 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau