Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, J.K. Howell a T. Devichand.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

STRATEGAETH GTCH 2015-18 pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn edrych ar y cynnydd a wnaed wrth weithredu Strategaeth TGCh y Cyngor ar gyfer 2015-18, fel y'i cymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 15 Rhagfyr 2014, mewn perthynas â'r pum thema ganlynol:

 

Thema 1 – Rhoi gwell mynediad i ddinasyddion i wasanaethau'r Cyngor;

Thema 2 – Hyrwyddo Cynhwysiad Digidol;

Thema 3 – Cefnogi Effeithlonrwydd Busnes;

Thema 4 – Rhannu gwybodaeth ac 'uno' gwasanaethau;

Thema 5 – Cefnogi Ysgolion ac Addysg.

 

Nododd y Pwyllgor fod Bwrdd Llywio Trawsnewid Digidol wedi'i sefydlu ym mis Medi 2016 ac y cytunwyd bod angen adolygu'n sylweddol Strategaeth TGCh 2015-18 yng ngoleuni technolegau datblygol newydd. Hefyd nodwyd y byddai Strategaeth Trawsnewid Digidol newydd [gweler cofnod 6 isod] yn cael ei hysgrifennu a fyddai'n disgrifio blaenoriaethau a dyheadau strategol y Cyngor o ran y maes digidol. Hwn, felly, oedd yr adroddiad diweddaru olaf ynghylch Strategaeth TGCh 2015-18.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL 2017 - 2020 pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Strategaeth Trawsnewid Digidol arfaethedig 2017-2020 sy'n disgrifio blaenoriaethau a dyheadau strategol y Cyngor o ran y maes digidol ac yn rhoi braslun o'r hyn y mae'r Cyngor yn bwriadu ei wneud i wireddu ei weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin Ddigidol. Roedd y Strategaeth, y gofynnir i'r Bwrdd Gweithredol ei chymeradwyo yn ei gyfarfod ar 2 Mai 2017, yn rhoi eglurder ynghylch y canlynol:

·         Ein gweledigaeth ddigidol ar gyfer Sir Gaerfyrddin;

·         Beth yw Strategaeth Trawsnewid Digidol;

·         Adeiladu Sylfeini Digidol yn Sir Gaerfyrddin;

·         Meysydd Blaenoriaeth Allweddol:

o  Gwasanaethau Digidol i Gwsmeriaid;

o  Gweithlu Digidol;

o  Cymunedau a Busnesau Digidol;

o  Cydweithio Digidol;

·         Y Prosiectau allweddol sydd i'w cyflawni;

·         Yr Adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r weledigaeth ddigidol.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried y Strategaeth:

 

·         Ceir cyfeiriadau at drigolion a gweithlu'r Cyngor yn y Strategaeth a mynegwyd y farn y dylai fod cyfeiriad hefyd at aelodau etholedig. Cytunodd y Pennaeth TGCh i roi ystyriaeth i hyn cyn bod y strategaeth yn cael ei chymeradwyo'n derfynol;

·         Mynegwyd y gobaith na fyddai digideiddio cynyddol yn arwain at gyswllt a rhyngweithio llai personol rhwng y Cyngor a'r cyhoedd;

·         Er i'r Strategaeth gael ei chroesawu, mynegwyd pryder bod y ddarpariaeth band eang mewn ambell i fan yn y Sir yn parhau'n wael. Atebodd y Pennaeth TGCh ei fod wrthi'n mynd ar drywydd y mater hwn, gan gynnwys y ddarpariaeth band eang i ysgolion, gyda BT. Ystyrid bod gan Lywodraeth Cymru rôl i'w chwarae hefyd o ran rhoi pwysau ar BT i gyflwyno band eang cyflym iawn drwy'r wlad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Strategaeth yn amodol ar gynnwys cyfeiriad at aelodau etholedig.

 

 

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

8.

COFNODION pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 22 Mawrth 2017 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau