Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Devichand ac W.J.W. Evans.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

EITEMAU AR GYFER DYFODOL. pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 8 Chwefror, 2017.

 

 

6.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2017/18 TAN 2019/20. pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Strategaeth Cyllideb Refeniw 2017/18-2019/20 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 21 Tachwedd 2016.    Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2017/2018, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2017/2018 a 2019/2020. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Hydref 2016. Dywedwyd bod y setliad amodol a gyhoeddwyd gryn dipyn yn well na'r hyn a ddisgwyliwyd, er y byddai'r setliad niwtral yn parhau i gael effaith negyddol ar adnoddau'r Cyngor. Byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn golygu darparu'n llawn y £24.6 miliwn o arbedion a nodwyd. Ar ben hynny, roedd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn golygu cynnydd yn y Dreth Gyngor o 2.5% yn y strategaeth a symudiad o 1% a oedd yn cyfateb i +/-£790k.

Cyfeiriwyd at y gwahaniaethau rhwng ysgolion â chronfeydd wrth gefn a'r rheiny â diffyg ariannol, a dywedwyd mai'r ysgolion â diffyg ariannol oedd y rhai oedd yn ei chael hi'n anodd codi arian yn aml. Dywedwyd bod ysgolion yn aml yn cadw cronfeydd wrth gefn am resymau penodol a bod swyddogion yn cydweithio ag ysgolion i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r Crynhoad Taliadau.

 

7.

Y RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD - 2017/18 - 2021/22 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhaglen gyfalaf bum mlynedd roedd y Bwrdd Gweithredol wedi'i chymeradwyo ar 21 Tachwedd 2016 ar gyfer ymgynghori yn ei chylch. Byddai'r adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd â chanlyniad y setliad terfynol, yn cyfrannu at yr adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r aelodau i'w ystyried ym mis Chwefror, 2017. Roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn gyfanswm o £208 miliwn dros y 5 mlynedd, gyda'r nod o gyflawni nifer o brosiectau allweddol a fyddai'n creu swyddi a gwella ansawdd bywyd pobl Sir Gaerfyrddin. Y buddsoddiadau allweddol oedd: Ysgolion - £79 miliwn; Tai - £10 miliwn; Hamdden - £23 miliwn, Adfywio - £28 miliwn; Yr Amgylchedd - £60 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi'r setliad dros dro a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Hydref 2016, a oedd yn nodi cyllid cyfalaf o £9.400 miliwn ar gyfer yr Awdurdod yn 2017/18. Roedd y cyllid yn cynnwys benthyca â chymorth o £5.844 miliwn a Grant Cyfalaf Cyffredinol o £3.556 miliwn. Nodwyd yn absenoldeb unrhyw ddyraniadau amcanol gan Lywodraeth Cymru, fod y lefel hon o gyllid wedi cael ei thybio ar gyfer bob blwyddyn o'r rhaglen bum mlynedd. I grynhoi, sefyllfa gyffredinol y rhaglen gyfalaf oedd ei bod yn cael ei chyllido am y 4 blynedd cyntaf o 2017/18 tan 2020/21 gyda diffyg presennol o £3.123 miliwn ym mlwyddyn olaf y rhaglen sef 2021/22.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2017/18 - 2021/22.

 

8.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR A GWASANAETHAU CORFFORAETHOL 2017-20 pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynlluniau Busnes 2017-20 Adran y Gwasanaethau Corfforaethol ac Adran y Prif Weithredwr. Roedd y cynlluniau'n nodi blaenoriaethau pob adran yn ystod 2017-20 gan egluro sut yr oeddent yn cefnogi 5 ffordd o weithio a 7 o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried y cynlluniau:

·         Mewn ymateb i sylw dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y dylai'r ddwy swydd sydd wedi eu llenwi yn yr adain gyfreithiol roi sylw i unrhyw oedi o ran Trosglwyddo Asedau Cymunedol; 

·         Croesawyd y flaenoriaeth i hyrwyddo ymhellach reoli salwch mewn modd cadarn;

·         Cyfeiriwyd at Ganolbwynt 7 y Strategaeth Gorfforaethol - 'Sicrhau bod trefniadau llywodraethu a chyfansoddiad y Cyngor yn addas i'r diben o ran y gofynion yn y dyfodol, yn unol â chanfyddiadau ac argymhellion ‘Adolygiad gan Gymheiriaid’ Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 2014' ac awgrymwyd y dylid, efallai, adolygu'r cynnydd sydd wedi'i wneud. Cytunodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith i godi'r mater gyda Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Cynlluniau.

 

 

9.

CYNLLUN HENEIDDIO'N DDA SIR GAERFYRDDIN - ADRODDIAD BLYNYDDOL pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn perthynas â chofnod 8 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2015, bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Sir Gaerfyrddin ar gyfer Cynllun Heneiddio'n Dda 2015/16. Roedd yr adroddiad (sy'n ofynnol gan y Comisiynydd Pobl H?n) yn rhoi manylion am berfformiad yr Awdurdod o ran y blaenoriaethau canlynol:

·         Cymunedau sy’n ystyriol o bobl h?n;

·         Cymunedau sy'n Cefnogi Pobl â Dementia;

·         Atal Cwympo;

·         Cyfleoedd Cyflogaeth a Sgiliau Newydd;

·         Unigrwydd a theimlo'n ynysig.

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg i bobl â dementia ac mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd hyn yn cael ei ystyried o ran timau a rotâu staff, cytunwyd i roi gwybod am y mater i Bennaeth y Gwasanaethau Integredig;

·         O ran unigrwydd a theimlo'n ynysig cyfeiriwyd at y bobl hynny nad ydynt yn ddigon hyderus i ymuno â grwpiau cymdeithasol neu sy'n teimlo'n ynysig yn eu fflatiau a gofynnwyd a oedd unrhyw ganllawiau neu gymorth ar gael i unigolion fel hyn. Cytunodd Y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Adfywio a Pholisi] i godi'r mater hwn gydag Adran y Gwasanaethau Cymunedol;

·         Cyfeiriwyd at y gwaith sy'n cael ei wneud gan y sector gwirfoddol, megis Sefydliad y Merched, i ddod â phobl h?n ynghyd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol.

·         Cytunodd swyddogion i gael gwybod pa mor aml y mae archwiliadau seilwaith goleuadau, llwybrau troed a phriffyrdd yn cael eu cynnal. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer Cynllun Heneiddio'n Dda 2015/2016

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015/16 - GWEITHREDU O RAN Y GYMRAEG pdf eicon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2015/16 ar yr Iaith Gymraeg, a oedd yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd yr Iaith Gymraeg. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y dangosyddion statudol a lleol sy'n mesur cydymffurfiaeth â'r Cynllun. Dywedwyd y byddai'r safonau yn disodli'r system bresennol o ran cynlluniau iaith Gymraeg. Rhoddodd Comisiynydd y Gymraeg hysbysiad cydymffurfio i Gyngor Sir Caerfyrddin ynghylch Rheoliadau Safonau'r Gymraeg ar 30 Medi, 2015, a oedd yn mynnu bod y Cyngor yn cydymffurfio â'r rhan fwyaf o'r safonau erbyn 30 Mawrth, 2016.

 

Diolchwyd i'r swyddogion am y gwaith yn llunio'r adroddiad.

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad.

 

11.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 30AIN TACHWEDD 2016 pdf eicon PDF 172 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2016 yn gofnod cywir, yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd G. Davies yn y rhestr o'r sawl oedd yn bresennol.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau