Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Gwener, 10fed Rhagfyr, 2021 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T.A.J. Davies a J.G. Prosser.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

4 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2021-22;

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2021/22 pdf eicon PDF 260 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Awst 2021 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2021/22. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2021/22.

 

Roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £399k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai tanwariant o £869k ar lefel adrannol. Roedd hyn yn bennaf o ganlyniad i gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â COVID-19 ac incwm a gollwyd yn cael ei ad-dalu o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion ac ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â nifer y swyddi heb eu llenwi, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai'r rhain yn cael eu llenwi cyn gynted â phosibl ac nad oeddent yn cael eu hystyried yn fodd i sicrhau arbedion. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) fod yr Awdurdod yn gweithio gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol i wella'r ffocws ar gynllunio'r gweithlu;

·       Mynegwyd pryderon ynghylch y canlyniadau posibl ar gyfer y rhaglen Moderneiddio'r Ddarpariaeth Addysg o ran llithriant ar wariant i'r rhaglen gyfalaf yn flynyddoedd i ddod ac awgrymwyd y dylai'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant fonitro'r sefyllfa'n agos;

·       Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i fynd ar drywydd ymholiad ynghylch pryd yr oedd Amgueddfa Parc Howard yn debygol o ailagor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

4.1 derbyn yr adroddiad;

4.2 y dylid argymell bod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn monitro'n agos gynnydd y Rhaglen Moderneiddio Addysg, gan gydnabod y llithriant a adroddwyd yn yr adroddiad monitro cyfalaf.

 

5.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2021 I MEDI 30AIN 2021 pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet dros Adnoddau yn cyflwyno er ystyriaeth, adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1 Ebrill 2021 - 30 Medi 2021, i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn unol â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021-22 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - ASESIAD DRAFFT O LESIANT LLEOL SIR GÂR pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, er ystyriaeth, Asesiad Drafft o Lesiant Lleol Sir Gaerfyrddin a gymeradwywyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin ar 24 Tachwedd, 2021 ar gyfer cynnal ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid rhwng 3 Rhagfyr 2021 a 19 Ionawr 2022. Er mwyn paratoi ar gyfer cyhoeddi'r asesiad terfynol ym mis Mawrth 2022, byddai dogfen dechnegol yn cael ei pharatoi a fyddai'n cynnwys ffynonellau data, dadansoddiad o'r arolwg a gwaith cynnwys. Byddai'r Asesiad Llesiant yn darparu'r sylfaen a'r dystiolaeth ar gyfer Cynllun Llesiant y sir.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion ac ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd y byddai Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2023;

·       Mynegodd yr Arweinydd y gobaith y byddai Cynghorwyr lleol yn cyfrannu eu barn ar yr adroddiad drafft yn ystod y cyfnod ymgynghori. Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod pobl yn cael eu gwahodd i gyfrannu eu barn ar sail côd post a fyddai'n galluogi llunio'r asesiad terfynol ar sail y chwe Ardal Gymunedol a nodir yn yr adroddiad drafft;

·       Cyfeiriwyd at y cynnig peilot 'Ffyrdd Newydd o Weithio' ar gyfer Llandeilo [y cyfeirir ato yng nghofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Medi – cofnod 7 isod] a gofynnwyd a ellid ymestyn hyn i dref arall. Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod ardaloedd eraill yn cael eu hystyried er mwyn ymestyn presenoldeb y Cyngor y tu hwnt i'r tair prif dref yn y Sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

7.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - MEDI 2021 pdf eicon PDF 384 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 29 Medi2021.

 

Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod pwyllgor craffu llywodraeth leol dynodedig yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion ac ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i ymholiad am y broses ar gyfer cynnwys ardaloedd gwledig cyfagos mewn trafodaethau ar y fenter 10 Tref Wledig, cytunodd yr Arweinydd i ganfod pryd yr oedd y cyfarfod yn ymwneud â Sanclêr yn cael ei gynnal;

·       Cytunodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth i ofyn i'r adran Datblygu Economaidd am adroddiad yn manylu ar y cynnydd o ran y fenter 10 Tref Wledig ym mhob un o'r 10 tref. Cytunodd yr Arweinydd hefyd i gyfleu i'r Aelod Cabinet dros Gymunedau a Materion Gwledig y posibilrwydd o drefnu cyfarfod maes o law i ystyried y ffyrdd yr oedd pob un o'r 10 tref yn elwa o'r fenter; 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 29 Medi 2021.

 

 

 

 

8.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 14 Ionawr 2021 yn cael eu derbyn yn amodol ar ychwanegu adroddiad ar absenoldeb salwch.

 

10.

COFNODION - 20FED HYDREF, 2021 pdf eicon PDF 550 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2021 yn gofnod cywir.