Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Mercher, 30ain Tachwedd, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Chamber, County Hall, Carmarthen

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.S. Edmunds ac A.G. Morgan.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 11 Ionawr, 2017.

 

 

6.

CYNLLUN RHEOLI ASEDAU CORFFORAETHOL 2016-2019 pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn ei fod yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Gynllun Rheoli Asedau Corfforaethol y Cyngor 2016-2019, a dynnai sylw at y strategaeth eiddo a'r gofynion dros y 3 blynedd nesaf.

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried y Cynllun:

·         Byddai'r Awdurdod yn ceisio atal problemau rhag digwydd ac osgoi ymateb bob yn dipyn trwy ddatblygu rhaglen cynnal a chadw bendant oedd wedi'i chynllunio. Er y gallai hyn arwain at gostau ychwanegol cychwynnol ar y dechrau, roeddid yn rhagweld y byddai cynnal a chadw cynlluniedig yn peri i'r costau hyn leihau;  

·         Mynegwyd pryder ynghylch prinder unedau yng Nghaerfyrddin ac ardaloedd gwledig ar gyfer busnesau sy'n cychwyn arni. Dywedodd y Pennaeth Eiddo fod cynlluniau i adnewyddu unedau yng Nglanaman, ond nad oedd cyllid wedi'i ddyrannu yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer rhagor o unedau  ym mhortffolio'r Cyngor ei hun. Soniodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) am y cyllid grant oedd ar gael i gefnogi buddsoddiad sector preifat; 

·         Dywedwyd wrth y Pwyllgor na fyddai symud y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid i Lyfrgell Caerfyrddin yn effeithio ar y Ganolfan Archifau newydd;

·         Nodwyd bod sylw'n cael ei roi i faterion mewn perthynas â'r maes parcio ym Marchnad Da Byw Caerfyrddin.  Cytunodd y Pennaeth Eiddo i fynd ar drywydd pryder ynghylch gwter oedd wedi'i blocio;

·         O ran Canolfannau Dydd ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu, cytunodd y Pennaeth Eiddo i drafod â'r Adran a dosbarthu gwybodaeth ynghylch lleoliadau'r 'cyfleusterau presennol yn y gymuned' y cyfeirid atynt; 

·         Cytunodd y Pennaeth Eiddo i ddosbarthu manylion lleoliadau'r 14 cyfleuster cyhoeddus ym mhortffolio'r Amgylchedd a chadarnhau pryd y byddai contract Danfo yn dod i ben;

·         Mewn ymateb i gwestiwn am reoli cyfleusterau oedd yn cael eu trosglwyddo dan Raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor yn y dyfodol, cadarnhaodd y Pennaeth Eiddo y gallai rhifynnau'r Cynllun yn y dyfodol gynnwys rhestr benodol o'r asedau a drosglwyddwyd, lle roedd yr Awdurdod wedi cadw'r rhyddfraint, er mwyn sicrhau bod cyfleusterau o'r fath yn cael eu rheoli'n unol â strategaethau ehangach;

·         Eglurwyd mai gwerthu tir yn Cross Hands i Sainsbury's oedd yn gyfrifol am yr ‘Incwm uchel – canran perfformiad yn erbyn targed i greu derbyniadau cyfalaf di-strategol' yn 2014/15;

·         Roedd y dangosyddion ‘No longer reported’ yn ymwneud â darparu mynediad i bobl anabl i adeiladau'r cyngor oedd yn agored i'r cyhoedd, yr oedd y rhan fwyaf o'r gwaith hwnnw wedi'i gwblhau. Cadarnhaodd y Pennaeth Eiddo y byddai'r dangosyddion perfformiad yn dal i gael eu hadolygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun.

 

7.

GWARIANT AY YMGYNGHORWYR ALLANOL 2015-16 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad diweddarublynyddol yr oedd wedi gwneud cais amdano o ran gwariant ar ymgynghorwyr allanol ac arbenigedd cyfreithiol. Cyfanswm y gwariant gan yr holl adrannau ar gyfer 2015/16 oedd £1,481,643.00, sef llai o dipyn na chyfanswm 2014/15 o £2,232,314.00.

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad: 

·         Croesawodd yr aelodau y gostyngiad mewn gwariant y manylwyd arno;

·         Pan ofynnwyd a oedd y Cyngor yn cael gwerth yr arian trwy benodi ymgynghorwyr allanol, dywedwyd y byddai'r apwyntiadau i gyd yn destun ymarfer tendro;

·         Cytunodd swyddogion i gynnwys colofn yn adroddiadau'r dyfodol i ddangos ble roedd yr ymgynghorwyr yn gweithio;

·         Mewn ymateb i sylw fod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwario llai ar ymgynghorwyr allanol na Sir Gaerfyrddin yn ôl adroddiadau diweddar yn y wasg, awgrymwyd bod yr awdurdodau hynny o bosibl yn ymgymryd â llai o gynlluniau a phrosiectau. Hefyd dywedwyd bod llawer o'r awdurdodau'n annhebygol o fod mor ymwybodol o'u gwariant ar ymgynghorwyr allanol â Sir Gaerfyrddin;

·         Er mai'r drefn arferol oedd cysylltu ag ymgynghorwyr o achos diffyg arbenigedd mewnol, roedd mesurau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn mewn rhai meysydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN CWYNION A CHANMOLIAETH - 1AF O EBRILL HYD AT 30AIN O FEDI 2016 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r agweddau hynny o'r adroddiad uchod oedd yn ei faes gorchwyl [h.y. Y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol], a oedd yn dadansoddi ac yn rhoi ystadegau o ran cwynion, canmoliaeth ac ymholiadau a ddaeth i law ac yr ymdriniwyd â hwy yn ystod Chwarter 1 a Chwarter 2 o flwyddyn ariannol 2016/17.

Pwysleisiwyd bod mwy o ganmoliaeth wedi dod i law na chwynion. Hefyd roedd yr adroddiad bellach yn cynnwys dadansoddiad adrannol o natur y cwynion a'r tueddiadau. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau y dylai unrhyw achwynwyr oedd yn cysylltu â nhw gael eu cyfeirio i'r Weithdrefn Gwynion Gorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Awst 2016 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·         Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol er na fyddai Brexit yn effeithio ar gynlluniau oedd eisoes wedi sicrhau cyllid Ewropeaidd, byddai sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau'r dyfodol yn fwy o her; 

·         Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i ddosbarthu manylion 'Llety Dros Dro' o fewn 'Tai Cronfa'r Cyngor';

·         Soniwyd am nifer y swyddi gwag ac a oeddent yn effeithio ar y gwasanaeth oedd yn cael ei ddarparu, gan arwain at gwynion. Mewn ymateb, dywedwyd bod llawer o'r swyddi gwag wedi arwain at arbedion a bod llenwi'r swyddi hyn yn fater o flaenoriaethu'r gyllideb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

ADRODDIAD CANOL BLWYDDYN YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2016 I MEDI 30AIN 2016 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1Ebrill 2016 - 30 Medi 2016, i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn unol â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2016-17 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 23 Chwefror 2016.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad monitro.

 

11.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU. pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".

 

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2015/16 pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

13.

COFNODION pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfodydd oedd wedi eu cynnal ar 14 Gorffennaf 2016 ac ar 5 Hydref 2016 gan eu bod yn gywir.